Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Ystadegau Gwladol Crynodeb o'r farchnad lafur yn ôl mesur, oedran, gwlad yn y DU a chwarter (wedi'i addasu'n dymhorol)
None
[Lleihau]Rhyw[Hidlwyd]
-
Rhyw 1[Hidlo]
Cod Ardal[Hidlo]
Chwarter[Hidlwyd]
Measure2
Oed[Hidlwyd]
[Lleihau]Ardal[Hidlo]
-
[Lleihau]Ardal 1
-
Ardal 2
[Lleihau]Mesur[Hidlo]
-
-
[Lleihau]Mesur 1
-
-
Mesur 2
[Lleihau]Oed 16 a drosodd[Lleihau]Oed 16 i 64
[Lleihau]Y Deyrnas UnedigNid yw\'r amcangyfrifon ar gyfer Gogledd Iwerddon wedi cael yr addasiad tuedd diffyg-ymateb o\'r ail-bwysoli diweddar wedi\'i gymhwyso\'n llawn. Mae arwyddion cynnar yn awgrymu y byddai\'r effaith ar brif amcangyfrifon cyfradd y DU yn llai na 0.1 pwynt canran.Cliciwch yma i ddidoliY Deyrnas UnedigNid yw\'r amcangyfrifon ar gyfer Gogledd Iwerddon wedi cael yr addasiad tuedd diffyg-ymateb o\'r ail-bwysoli diweddar wedi\'i gymhwyso\'n llawn. Mae arwyddion cynnar yn awgrymu y byddai\'r effaith ar brif amcangyfrifon cyfradd y DU yn llai na 0.1 pwynt canran.[Lleihau]Y Deyrnas UnedigNid yw\'r amcangyfrifon ar gyfer Gogledd Iwerddon wedi cael yr addasiad tuedd diffyg-ymateb o\'r ail-bwysoli diweddar wedi\'i gymhwyso\'n llawn. Mae arwyddion cynnar yn awgrymu y byddai\'r effaith ar brif amcangyfrifon cyfradd y DU yn llai na 0.1 pwynt canran.Cliciwch yma i ddidoliY Deyrnas UnedigNid yw\'r amcangyfrifon ar gyfer Gogledd Iwerddon wedi cael yr addasiad tuedd diffyg-ymateb o\'r ail-bwysoli diweddar wedi\'i gymhwyso\'n llawn. Mae arwyddion cynnar yn awgrymu y byddai\'r effaith ar brif amcangyfrifon cyfradd y DU yn llai na 0.1 pwynt canran.
[Ehangu]Cliciwch yma i ddidoliLloegr[Ehangu]Cliciwch yma i ddidoliCymru[Ehangu]Cliciwch yma i ddidoliYr Alban[Ehangu]Cliciwch yma i ddidoliGogledd IwerddonNid yw\'r amcangyfrifon ar gyfer Gogledd Iwerddon wedi cael yr addasiad tuedd diffyg-ymateb o\'r ail-bwysoli diweddar wedi\'i gymhwyso\'n llawn. Mae arwyddion cynnar yn awgrymu y byddai\'r effaith ar brif amcangyfrifon cyfradd y DU yn llai na 0.1 pwynt canran.[Ehangu]Cliciwch yma i ddidoliLloegr[Ehangu]Cliciwch yma i ddidoliCymru[Ehangu]Cliciwch yma i ddidoliYr Alban[Ehangu]Cliciwch yma i ddidoliGogledd IwerddonNid yw\'r amcangyfrifon ar gyfer Gogledd Iwerddon wedi cael yr addasiad tuedd diffyg-ymateb o\'r ail-bwysoli diweddar wedi\'i gymhwyso\'n llawn. Mae arwyddion cynnar yn awgrymu y byddai\'r effaith ar brif amcangyfrifon cyfradd y DU yn llai na 0.1 pwynt canran.
[Lleihau]Poblogaeth46,387,0002,576,0004,537,0001,511,00055,010,00035,845,0001,907,0003,433,0001,178,00042,364,000
Poblogaeth[Lleihau]Lefel gweithgaredd economaiddMae hyn yn cynnwys pobl sydd naill ai mewn cyflogaeth neu ILO yn ddi-waith.29,307,0001,465,0002,748,000900,00034,420,00028,067,0001,372,0002,656,000864,00032,960,000
Lefel gweithgaredd economaiddMae hyn yn cynnwys pobl sydd naill ai mewn cyflogaeth neu ILO yn ddi-waith.Lefel cyflogaethMae hyn yn cynnwys gweithwyr, hunangyflogedig, pobl ar hyfforddi\'r cefnogi llywodraeth a rhaglenni cyflogaeth, a gweithwyr teuluol di-dâl.28,053,0001,411,0002,637,000880,00032,980,00026,846,0001,319,0002,547,000845,00031,556,000
Lefel diweithdraMae\'r Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO) mesur o ddiweithdra yn cynnwys pobl heb swydd sydd ar gael i ddechrau gweithio o fewn ddwy wythnos ac oedd naill ai wedi chwilio am waith dros y pedair wythnos cyn y cyfweliad neu yn aros i ddechrau swydd y maent eisoes wedi cael.1,254,00055,000111,00020,0001,440,0001,221,00054,000110,00019,0001,404,000
[Ehangu]Lefel anweithgarwch economaiddMae hyn yn cynnwys pobl sydd dim mewn gwaith nac yn ddi-waith ar y mesur ILO.17,080,0001,111,0001,789,000611,00020,590,0007,778,000535,000777,000314,0009,404,000
[Ehangu]Cyfradd gweithgaredd economaidd63.256.960.659.662.678.371.977.473.377.8
[Ehangu]Cyfradd cyflogaeth60.554.858.158.260.074.969.174.271.774.5
[Ehangu]Cyfradd diweithdra4.33.74.02.24.24.43.94.12.24.3
[Ehangu]Cyfradd anweithgarwch economaidd36.843.139.440.437.421.728.122.626.722.2

Metadata

Allweddeiriau

Marchnad lafur; Cyflogaeth; Diweithdra; Anweithgarwch economaidd

Disgrifiad cyffredinol

Cymerir y data hyn o'r Arolwg o'r Llafurlu a gynhelir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae'r data wedi'u haddasu'n dymhorol ac yn cael eu diweddaru bob mis er mwyn rhoi cyfres amser o gyfartaleddau tri mis hyd at a chan gynnwys y cyfnod tri mis diweddaraf ar gyfer y DU a phob gwlad yn y DU a rhanbarth yn Lloegr.

Casgliad data a dull cyfrifo

Gellir rhannu'r boblogaeth i boblogaethau economaidd weithgar ac economaidd anweithgar. Mae'r boblogaeth economaidd weithgar yn cynnwys personau sydd mewn cyflogaeth a phersonau sy'n ddi-waith yn ôl diffiniad y Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO). Mae'r adroddiad hwn yn caniatáu i'r defnyddiwr gyrchu'r data hyn.
Er bod pob mesur ar gael ar gyfer gwahanol seiliau poblogaeth, defnyddir sail poblogaeth safonol swyddogol ar gyfer pob un o'r mesurau, fel a ganlyn.
Poblogaeth 16 oed a throsodd: Lefel gweithgarwch economaidd, Lefel cyflogaeth, Lefel diweithdra'r ILO
Poblogaeth 16-64 oed: Lefel anweithgarwch economaidd
Defnyddir y boblogaeth 16-64 fel y sail ar gyfer anweithgarwch economaidd. Trwy eithrio personau o oedran pensiwn sydd fel arfer wedi ymddeol ac felly'n economaidd anweithgar, mae hyn yn rhoi mesur mwy priodol o anweithgarwch yn y gweithlu.
Mae'r cyfraddau ar gyfer pob un o'r mesurau uchod hefyd yn cael eu cyfrifo mewn modd safonol ac maent ar gael yn y set ddata. Ac eithrio cyfradd diweithdra'r ILO, mae pob cyfradd yn cael ei diffinio yn nhermau'r gyfran o'r boblogaeth sydd ym mhob categori. Diffinnir cyfradd diweithdra'r ILO fel personau di-waith yr ILO fel canran o'r boblogaeth economaidd weithgar.
Er bod pob cyfradd ar gael ar gyfer y gwahanol seiliau poblogaeth, defnyddir sail poblogaeth safonol swyddogol ar gyfer pob un o'r cyfraddau, fel a ganlyn:
Canran y boblogaeth 16-64 oed: Gweithgarwch economaidd, Cyflogaeth, Anweithgarwch economaidd
Canran y boblogaeth economaidd weithgar 16 oed a throsodd: diweithdra'r ILO

Amlder cyhoeddi

Misol

Cyfnodau data dan sylw

1992 i 2024

Talgrynnu wedi'u ddefnyddio

Mae'r ffigurau wedi'u talgrynnu i'r fil agosaf ac felly mae'n bosibl y bydd rhai mân anghysondebau ymddangosiadol rhwng swm yr eitemau sy'n rhan ohonynt a'r cyfansymiau fel y'u dangosir.

Gwybodaeth am ddiwygiadau

Nid yw'r LFS wedi'i gynllunio i fesur newidiadau yn lefelau'r boblogaeth neu fudo rhyngwladol hirdymor. Oherwydd tueddiadau gwahanol yn ystod y pandemig, mae’r ymatebion ar gyfer yr LFS wedi’u hailbwysoli ar 14 Mehefin 2022, gan ddisodli’r data a gafodd eu hailbwysoli’n flaenorol ar 15 Gorffennaf 2021. Mae'r ail-bwysoli wedi'i gymhwyso o fis Ionawr i fis Mawrth 2020 ymlaen ac mae'n rhoi amcangyfrifon gwell o gyfraddau a lefelau. Ceir rhagor o wybodaeth am effaith yr ailbwysoli yn erthygl y Swyddfa Ystadegau Gwladol: https://www.ons.gov.uk/employmentandlabourmarket/peopleinwork/employmentandemployeetypes/articles/impactofreweightingonlabourforcesurveykeyindicators/2022

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi cyhoeddi amcangyfrifon Arolwg o’r Llafurlu wedi'u hail-bwysoli ar gyfer Cymru ar ôl oedi'r amcangyfrifon sy'n seiliedig ar Arolwg o’r Llafurlu ym mis Medi 2023 yn dilyn gostyngiad yn ansawdd data. Mae'r data wedi'i ail-bwysoli o fis Gorffennaf i fis Medi 2022, gan arwain at newid sylweddol yn y data, sy’n golygu mai dim ond o’r cyfnod hwn ymlaen y gellir cymharu’r data yn uniongyrchol. Nid yw cymariaethau â chyfnodau cyn mis Gorffennaf i Fedi 2022 yn gwbl ddilys oherwydd effaith y diffyg parhad hwn yn y gyfres amser. Manylir ar effaith lawn yr ail-bwysoliad hwn yn yr erthygl 'Effaith ail-bwysoli ar ddangosyddion allweddol Arolwg o’r Llafurlu yng Nghymru', sydd ar gael ym mhennawd ystadegol Trosolwg o'r Farchnad Lafur Chwefror 2024: https://www.llyw.cymru/trosolwg-or-farchnad-lafur-chwefror-2024

Teitl

Arolwg o'r Llafurlu: Crynodeb o weithgarwch economaidd

Diweddariad diwethaf

18 Ebrill 2024 18 Ebrill 2024

Diweddariad nesaf

16 Mai 2024

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Arolwg o'r Llafurlu, y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Cyswllt ebost

Ystadegau.MarchnadLafur@llyw.cymru

Dynodiad

Ystadegau Gwladol

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Rhanbarthau'r DU

Cwmpas daearyddol

Rhanbarthau'r DU

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Ansawdd ystadegol

Mae’r holl wybodaeth hon yn dod o’r Arolwg o’r Llafurlu, a gynhelir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Gan fod y data'n dod o arolwg, mae'r canlyniadau'n amcangyfrifon wedi'u seilio ar samplau ac felly'n destun graddau gwahanol o amrywioldeb samplu, h.y. mae'r gwir werth ar gyfer unrhyw fesur mewn ystod wahanol o amgylch y gwerth amcangyfrifedig. Mae'r ystod neu amrywioldeb samplu hwn yn cynyddu wrth i'r manylder yn y data gynyddu, er enghraifft mae data rhanbarthol yn fwy amrywiol na data’r DU.
Cesglir data’r Arolwg o’r Llafurlu drwy gydol y flwyddyn, ac mae ar gael o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol mewn amrywiaeth o ffyrdd. Mae’r set ddata hon yn cynnwys ffigurau tri-misol ar gyfer y gwledydd yn y DU a'r rhanbarthau yn Lloegr, a chaiff ei diweddaru bob tri mis, fel y cyfeirir ati yn y pwynt bwled cyntaf isod.
Mae data allweddol ar y farchnad lafur yn cael eu diweddaru bob mis gan ddangos y sefyllfa ar gyfer y tri mis diweddaraf, ar gyfer y DU a phob un o’r gwledydd yn y DU a phob rhanbarth yn Lloegr. Nodwch fod y data hyn wedi’u haddasu’n dymhorol a hefyd nad yw’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi unrhyw ddata is-ranbarthol (h.y. awdurdod lleol) yn ôl amserlen fisol.
Mae canlyniadau blynyddol sy’n ymdrin â’r cyfnodau a ddisgrifiwyd yn gynharach hefyd ar gael o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, gan ddarparu data manylach o’r Arolwg o’r Llafurlu, gan gynnwys data ar gyfer ardaloedd islaw lefel Cymru. Mae’r setiau data blynyddol hyn yn defnyddio canlyniadau o’r samplau o’r arolygon chwarterol a ddefnyddir ar gyfer y cyfresi allweddol, ynghyd â chanlyniadau o bersonau ychwanegol a samplwyd er mwyn darparu set ddata fwy cadarn (cyfnerthedig), ac mae'r amcangyfrifon yn destun amrywioldeb samplu llawer llai.
Nodwch yn olaf fod mesur diweithdra’r Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO) yn wahanol i fesur diweithdra arall a ddefnyddir yn aml, sef nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau diweithdra. Mae'r ail yn gyfrifiad o'r holl bobl sy'n hawlio budd-daliadau cysylltiedig â diweithdra, a chan hynny, nid yw'n destun amrywioldeb samplu. Fodd bynnag, mae'n eithrio'r rheiny sy’n ddi-waith nad ydynt yn gymwys i hawlio (er enghraifft y rheiny sydd allan o waith ond sydd â phartner sy'n gweithio), a'r rheiny nad ydynt eisiau hawlio. Mae mesur yr ILO, sy'n gyfrifiad o'r rheiny sydd allan o waith ac sydd eisiau swydd, sydd wedi mynd ati i chwilio am waith yn y 4 wythnos diwethaf ac sydd ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf; a hefyd y rheiny sydd allan o waith, sydd wedi dod o hyd i swydd ac sy'n aros i ddechrau yn y pythefnos nesaf, yn fesur mwy cynhwysol o ddiweithdra, a ddefnyddir ledled y byd.
Mae problem wedi cael ei ddarganfod ym mhwysiad yr Arolwg o’r Llafurlu (LFS) ar gyfer Gogledd Iwerddon ar gyfer y chwarter o Dachwedd 2023 i Ionawr 2024 yn unig. Er mai ond data Gogledd Iwerddon sydd wedi’i effeithio, fel canlyniad dydi’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) heb gyhoeddi unrhyw ffigyrau LFS rhanbarthol fel rhan o’r datganiad Mawrth 2024 yn unrhyw un o’u datganiadau, gyda data Cymru yn cael eu cyhoeddi fel datganiad ad hoc.
Oherwydd y pryderon presennol am ansawdd data gyda’r LFS, dylid ystyried amcangyfrifon y farchnad lafur ar gyfer Cymru ochr yn ochr ag amcangyfrifon a thueddiadau o ffynonellau data eraill. Mae dadansoddiadau yn ôl rhyw wedi cael eu tynnu dros dro o’r bwletin Trosolwg o’r Farchnad Lafur oherwydd y pryderon hyn o ran ansawdd data. Rydym yn parhau i fonitro perfformiad a dibynadwyedd yr LFS, ac yn bwriadu ailgyflwyno’r amcangyfrifon hyn i’r bwletin pan fyddant yn rhoi darlun mwy clir o’r farchnad lafur yng Nghymru.

Dolenni'r we

www.ons.gov.uk