Neidio i'r cynnwys

Diweithdra ILO

Diweithdra yr ILO yw’r prif fesur diweithdra. Mae’n cynnwys y rhai sydd heb waith ac sydd eisiau swydd, sydd wedi bod wrthi’n chwilio am waith yn y pedair wythnos diwethaf ac sydd ar gael i ddechrau gweithio yn y bythefnos nesaf; plws y rhai sydd heb waith, sydd wedi dod o hyd i swydd ac sy’n aros i ddechrau yn y bythefnos nesaf, ac mae’n fesur mwy cynhwysfawr o ddiweithdra na chyfrif y ceiswyr.