Neidio i'r cynnwys

MALlC 2019

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALIC) yw’r dull swyddogol gan Lywodraeth Cymru o fesur amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru. Mae’n canfod ardaloedd sydd â’r crynoadau uchaf o fathau gwahanol o amddifadedd. Mae MALlC yn gosod yr holl ardaloedd bach yng Nghymru mewn safleoedd rhwng 1 (mwyaf difreintiedig) a 1,909 (lleiaf difreintiedig).

Yma gallwch ffeindio safleoedd cyffredinol y mynegai a safleoedd ardaloedd bach ar gyfer pob maes/math o amddifadedd yn ogystal â dadansoddiadau proffiliau daearyddol ar gyfer amryw o ddaearyddiaethau (e.e. Awdurdod Lleol), Mae dadansoddiadau proffiliau daearyddol yn cymharu ardaloedd daearyddol fwy drwy gyfrifo’r nifer a/neu’r gyfran o ardaloedd bach mewn ardal ddaearyddol fwy sydd yn yr ardaloedd 10 neu 20 y cant mwyaf difreintiedig (dyweder) yng Nghymru. Archwiliwch y data ymhellach yn adnodd rhyngweithiol MALlC 2019 (gweler adran dolenni isod).
Gellir ffeindio mwy o ddata dangosyddion sy’n waelodol i safleoedd y mynegai ar dab data dangosyddion MALlC, a gellir ffeindio mwy o wybodaeth am MALlC (gan gynnwys adroddiadau canlyniadau a chanllaw) ar wefan Llywodraeth Cymru (gweler dolenni isod).

Gwybodaeth geo-ofodol ar MALlC 2019 a MALlC 2014, gan gynnwys ffeiliau siâp, i'w gweld ar Fap Data Cymru (gweler y ddolen isod).

Os oes unrhyw gwestiynau gennych, ebostiwch: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru