Athrawon (cyfrif pennau) yn ôl hunaniaeth cenedlaethol a sector
None
|
Metadata
Teitl
Athrawon (cyfrif pennau) yn ôl hunaniaeth cenedlaetholDiweddariad diwethaf
Gorffennaf 2023Diweddariad nesaf
Gorffennaf 2024 (i'w gadarnhau)Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu YsgolCyswllt ebost
EducationWorkforceData@gov.walesDynodiad
Ystadegau arbrofolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
CymruCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r data yn cynnwys amrywiaeth o wybodaeth ar y gweithlu ysgol yng Nghymru, gan ddefnyddio data wedi'u casglu trwy Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgol (CBGY).Casgliad data a dull cyfrifo
Mae data ysgolion yn deillio o Gyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgol (SWAC) a gyflwynir gan ysgolion sydd ar agor ar ddiwrnod y Cyfrifiad ym mis Tachwedd bob blwyddyn. Mae data ysgolion yn deillio o Gyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgol (SWAC) a gyflenwir gan ysgolion sydd ar agor ar ddiwrnod y Cyfrifiad ym mis Tachwedd bob blwyddyn. Yn 2019, ni chyflwynodd 4 ysgol o blith y 1,502 o ysgolion ddatganiad Ysgol ar gyfer y CBGY (cyfradd gyflwyno o 99.7%). Ar gyfer yr ysgolion hyn, cafodd cyfanswm nifer y staff ei amcangyfrif gan ddefnyddio ffactor graddio drwy gymharu nifer y staff a gofnodwyd yn y CBGY a'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) ag ysgolion â nodweddion tebyg yn yr un awdurdod lleol. Mae'r amcangyfrifon yn ôl nodweddion staff penodol (e.e. rhyw, oedran) ar gyfer yr ysgolion hyn wedi’u cofnodi yn ‘anhysbys’.Cyfnodau data dan sylw
O 2019/20 ymlaen.Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Gan mai casgliad ar lefel unigol yw'r CBGY, mae'n bosibl y bydd achosion lle bydd aelod o'r gweithlu wedi'i gofnodi yn erbyn nifer o rolau yn yr un ysgol neu mewn nifer o ysgolion. O ran cyfrif pen staff awdurdodau lleol, fel rhan o'r broses gysylltu a chyfuno, caiff gwybodaeth yr athrawon hynny sydd â mwy nag un rôl (e.e. y rhai sy'n gweithio'n rhan-amser mewn dwy ysgol) ei chyfuno'n un cofnod ar gyfer pob awdurdod lleol y maent yn ymddangos ynddo, a'i chofnodi yn erbyn y raddfa uchaf ar gyfer yr athro unigol hwnnw.O ran y cyfrif pen ar lefel Cymru, caiff yr un rhesymeg ei chymhwyso lle caiff gwybodaeth athrawon sydd â mwy nag un rôl (e.e. y rhai sy'n gweithio'n rhan-amser mewn dwy ysgol) mewn awdurdodau lleol gwahanol ei chyfuno'n un cofnod, a'i chofnodi yn erbyn y raddfa uchaf ar gyfer yr athro unigol hwnnw.
Felly, lle y caiff gwybodaeth ei chyhoeddi gan awdurdod lleol, efallai na fydd y ffigur ar gyfer awdurdodau lleol yn cyfateb i'r ffigur a gyhoeddwyd ar gyfer Cymru.
O ganlyniad i newidiadau yma yn y fethodoleg i gyfrifo cyfrif pennau, nid yw’r ffigurau ar gyfer 2019 yn gymharol i ffigurau blynyddoedd dilynol. Gweler ein datganiad ystadegol ‘Canlyniadau Cyfrifiad Gweithlu Ysgolion’ ac ein hadroddiad ‘Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion: Gwybodaeth Gefndir’ ar gyfer manylion pellach.