Neidio i'r cynnwys

Disgwyliad oes (archif)

Nid yw’r tablau yma bellach yn cael eu diweddaru. Mae data yn cael eu cyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae'r disgwyliad oes ar gyfer baban newydd-anedig mewn ardal benodol ar adeg benodol yn cael ei amcangyfrif ar sail nifer cyfartalog y blynyddoedd y byddai'r baban yn goroesi petai'r cyfraddau marw sy'n gysylltiedig ag oed penodol ar gyfer yr ardal honno ar yr adeg arbennig honno yn gymwys iddo drwy gydol ei oes. Nid cyfrif o nifer y blynyddoedd y gall baban a gafodd ei eni yn yr ardal arbennig honno yn y cyfnod arbennig hwnnw ddisgwyl byw ydyw felly oherwydd mae'r cyfraddau marwolaethau yn yr ardal yn debygol o newid yn y dyfodol a bydd llawer a aned yn yr ardal honno yn symud i fyw mewn mannau eraill am ran o'u hoes o leiaf.