Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Ystadegau Gwladol Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl Wythnos, Tachwedd 2019 ymlaen

Sylwch fod y data a gynhwysir yn y set ddata hwn yn cwmpasu cyfnod yn ystod pandemig coronafeirws (COVID-19), sydd wedi effeithio ar y ffordd y mae rhai gwasanaethau'r GIG yn cael eu cynnig a dewisiadau pobl o ran gwasanaethau iechyd. Gweler y datganiad diweddaraf am ragor o wybodaeth.

None
[Lleihau]Gwasanaeth[Hidlwyd]
-
[Lleihau]Gwasanaeth 1[Hidlo]
-
[Lleihau]Gwasanaeth 2[Hidlo]
-
Gwasanaeth 3[Hidlo]
Dyddiad[Hidlwyd]
Measure1
[Lleihau]Wythnosau yn Aros[Hidlo]
-
[Lleihau]Wythnosau yn Aros 1
-
Wythnosau yn Aros 2
[Lleihau]Ysbyty[Hidlo]
-
-
[Lleihau]Ysbyty 1
-
-
Ysbyty 2
[Lleihau]Cyfanswm amseroedd arosCliciwch yma i ddidoliCyfanswm amseroedd aros
[Ehangu]Cliciwch yma i ddidoliI fyny at 26 wythnos[Ehangu]Cliciwch yma i ddidoli8 i 14 wythnos[Ehangu]Cliciwch yma i ddidoliDros 14 wythnos
[Lleihau]Pob ysbyty yng Nghymru710,517229,502328,6761,268,695
Pob ysbyty yng Nghymru[Ehangu]Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr153,44445,59172,891271,926
[Ehangu]Bwrdd Iechyd Addysgu Powys17,3525,2024,04926,603
[Ehangu]BILl Hywel Dda104,91335,95840,901181,772
[Ehangu]Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae AbertaweO 1 Ebrill 2019, symudodd darpariaeth gwasanaeth iechyd trigolion awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Mae enwau\'r byrddau iechyd wedi newid; mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Mor80,11623,02637,484140,626
[Ehangu]BILl Prifysgol Abertawe Bro MorgannwgO 1 Ebrill 2019, symudodd darpariaeth gwasanaeth iechyd trigolion awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Mae enwau\'r byrddau iechyd wedi newid; mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Mor.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol
[Ehangu]Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf MorgannwgO 1 Ebrill 2019, symudodd darpariaeth gwasanaeth iechyd trigolion awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Mae enwau\'r byrddau iechyd wedi newid; mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Mor96,36731,08664,462191,915
[Ehangu]BILl Cwm TafO 1 Ebrill 2019, symudodd darpariaeth gwasanaeth iechyd trigolion awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Mae enwau\'r byrddau iechyd wedi newid; mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Mor.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol
[Ehangu]BILl Aneurin Bevan131,44541,34948,294221,088
[Ehangu]BILl Prifysgol Caerdydd a’r Fro126,88047,29060,595234,765

Metadata

Teitl

Amseroedd Aros Gwasanaethau Therapi a Diagnostig yn ôl wythnos

Diweddariad diwethaf

21/03/2024 21/03/2024

Diweddariad nesaf

18/04/2024

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Gwasanaethau diagnostig a therapi amseroedd aros, Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC)

Cyswllt ebost

ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Dynodiad

Ystadegau Gwladol

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Byrddau iechyd lleol

Cwmpas daearyddol

Cymru

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Disgrifiad cyffredinol

Mae’r tabl hwn yn darparu’r data presennol ar amseroedd aros Gwasanaethau Therapi a Diagnostig

Casgliad data a dull cyfrifo

I weld y wybodaeth hon, dilynwch y ddolen i’r cyhoeddiad ystadegol perthnasol.

O 1 Ebrill 2019, symudodd darpariaeth gwasanaeth iechyd trigolion awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Am ragor o wybodaeth gweler y datganiad ar y cyd gan Fyrddau Iechyd Prifysgol Cwm Taf ac Abertawe Bro Morgannwg (gweler y dolenni gwe). Mae enwau'r byrddau iechyd wedi newid; mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae dolen i ddatganiad gan y gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar gael yn yr adran dolenni’r we.

Mae safleoedd a gynhwyswyd yn flaenorol o dan Cymunedol yn Betsi Cadwaladr wedi eu cynnwys yn unigol yn y data o Hydref 2019 ymlaen. Y safleoedd yw Abergele Hospital, Bryn Beryl Hospital, Cefni Hospital, Dolgellau & Barmouth District, Eryri Hospital, NW Cancer Treament Centre, Ruthin Community Hospital, Tywyn & District War Memorial, Ysbyty Alltwen a Ysbyty Penrhos Stanley.

Amlder cyhoeddi

Misol

Cyfnodau data dan sylw

Hydref 2019 ymlaen

Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun

I weld y wybodaeth hon, dilynwch y ddolen i’r cyhoeddiad ystadegol perthnasol.

Ansawdd ystadegol

I weld y wybodaeth hon, dilynwch y ddolen i’r cyhoeddiad ystadegol perthnasol.

Mae mater ansawdd data sy'n effeithio ar Ysbyty Sir Drefaldwyn ac Ysbyty Coffa Victoria rhwng Ebrill a Mehefin 2023. Gwyddom fod y ffigurau cyhoeddedig ar gyfer 'Radioleg – atgyfeiriadau meddygon teulu' yn is na’r ffigurau gwirioneddol ar gyfer y cyfnod hwn. Nid yw'r mater yn effeithio'n sylweddol ar ddadansoddiad ar lefel Bwrdd Iechyd na Chymru ond mae’n bosibl y bydd angen i ddefnyddwyr y data ar lefel ysbyty fod yn ymwybodol.

Nid oedd Betsi Cadwaladr yn gallu cyflwyno data yn ymwneud ag amseroedd aros yn ymwneud â therapi ym mis Ebrill 2020 oherwydd y pandemig Coronafeirws (COVID-19). Ni chyflwynodd Ysbyty Derwen unrhyw ddata ar gyfer therapïau o fis Awst 2020 oherwydd y prosiect Ymfudo Iechyd Meddwl. Nid oedd modd i Ben-y-bont ar Ogwr gyflwyno data is-arbenigedd ymgynghorwyr, gastrosgopi ac MRI ar gyfer mis Awst a mis Medi 2020. Mae hyn yn effeithio ar ddata gweithgarwch a pherfformiad gwasanaethau diagnostig a therapïau yng Nghwm Taf Morgannwg, Bae Abertawe ac ar lefel Cymru yn y misoedd hynny.

Oherwydd y pandemig COVID-19 (coronafeirws) cafodd pob apwyntiad i gleifion allanol nad oeddynt yn rhai brys eu hatal dros dro ym mis Mawrth 2020. O ganlyniad, bu'n rhaid i'r rhan fwyaf o ysbytai gyfyngu ar y gwasanaethau Diagnostig a Therapi a gynigiwyd ganddynt, neu eu hatal dros dro, ac arweiniodd hyn at gynnydd yn y niferoedd a oedd yn aros ym mis Ebrill 2020 a’r misoedd dilynol.

Ers Ebrill 2018 (ac o gyhoeddiad Mehefin 2018 ymlaen), cafodd profion diagnostig ychwanegol ar gyfer Cardioleg eu cynnwys yn yr amseroedd aros Diagnostig a Therapi. Mae’r cofnodion newydd hyn wedi'u cynnwys yn y cyfansymiau amseroedd aros ac o ganlyniad gwelwyd cynnydd yn nifer y bobl sy'n aros am brawf diagnostig.

Amcangyfrifir data ar gyfer mis Ebrill 2017 ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf gan ddefnyddio eu data ar gyfer mis Mawrth 2017, gan nad oeddent yn gallu darparu unrhyw ddata ar gyfer mis Ebrill 2017.

Oherwydd mater data, nid adroddwyd yn ddigonol ar ffigurau ar gyfer meddygaeth niwclear rhwng Chwefror 2015 a Gorffennaf 2015 yn gynwysedig. Yn ystod y misoedd hyn nid adroddwyd ar ddata ar gyfer Sganiau Darlifiad Myocardaidd o dan feddygaeth niwclear, ond y tu allan i'r misoedd hyn, roedd y prawf hwn yn cael ei gynnwys o dan feddygaeth niwclear. Felly, roedd y gostyngiad yn nifer y cleifion a welwyd yn Chwefror 2015 a'r cynnydd a welwyd yn Awst 2015 i'w briodoli i'r ffordd yr adroddwyd ar y data, yn hytrach na newidiadau yn nifer y cleifion. Mae hyn wedi'i achosi gwahaniaeth o ryw 350-400 o gleifion bod mis a rhyw 150 i 190 o'r rheiny bob mis yn aros 8 wythnos neu'n hwy am eu sgan. Felly mae hepgor y cleifion hyn yn gwella ychydig ar berfformiad Cymru yn erbyn y safon.

Amcangyfrifir data niwroffisioleg ar gyfer mis Ebrill 2014 i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gan ddefnyddio ei ddata ar gyfer mis Mawrth 2014. Mae hyn oherwydd i'r gwasanaeth gael ei roi ar waith mewn ysbyty newydd. O ganlyniad, roedd y data ar gyfer mis Ebrill 2014 yn annibynadwy ac felly, ni chawsant eu cyflwyno gan y Bwrdd Iechyd Lleol.

Amcangyfrifir data ffisiotherapi ar gyfer mis Chwefror 2013 i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro gan ddefnyddio ei ddata ar gyfer mis Ionawr 2013. Mae hyn oherwydd nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn gallu darparu data llawn ar ffisiotherapi ar gyfer mis Chwefror 2013, gan fod salwch staff yn golygu nad oedd cleifion yn cael eu cofnodi ar y system mewn pryd cyn i'r wybodaeth gael ei chyflwyno.
Amcangyfrifir data radioleg a delweddu ar gyfer mis Mehefin 2013 i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro gan ddefnyddio ei ddata ar gyfer mis Mai 2013. Mae hyn oherwydd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro brofi anawsterau technegol gyda'r data sylfaenol.

Amcangyfrifir data ffisiotherapi ar gyfer mis Hydref 2012 i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro gan ddefnyddio ei ddata ar gyfer mis Medi 2012, gan nad oedd y Bwrdd yn gallu darparu data llawn ar ffisiotherapi ar gyfer mis Hydref 2012.

Mae Endosgopi Diagnostig, Deieteg, Therapi Galwedigaethol, Mesuriadau Ffisiolegol, Ffisiotherapi a Therapi Iaith a Lleferydd ar gyfer Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg (Bwrdd Iechyd Hywel Dda) wedi eu hamcangyfrif ar gyfer Medi 2010 – Mai 2011 gan ddefnyddio data o fis Awst 2010 gan nad oeddent yn gallu cyflwyno data oherwydd eu bod yn mudo o PAS i Myrddin.

Daeth data niwroffisioleg ar gyfer bwrdd iechyd lleol Aneurin Bevan ar gael ym mis Mehefin 2023, gan ychwanegu tua 1,000 o lwybrau nad oeddent wedi'u hadrodd o'r blaen. Roedd gwasanaethau diagnostig niwroffisioleg yn cael eu darparu gan Aneurin Bevan cyn Mehefin 2023, ond nid yw'r data hynny ar gael. Mae hyn yn effeithio ar gymaroldeb data diagnosteg ar gyfer Aneurin Bevan a Chymru dros amser.

Allweddeiriau

ysbyty; amseroedd aros; diagnostig; therapi