Dosau COVID-19 cronnol nad oeddent yn addas i'w defnyddio, yn ôl y math o frechlyn
Mae'r data hyn wedi cael eu cyhoeddi er mwyn darparu crynodeb wythnosol ar raglen frechu coronafeirws (COVID-19) yng Nghymru. Mae’r ffigurau’n dangos nifer y dosau nad oeddent yn addas i'w defnyddio, fel canran o'r dosau a weinyddwyd, ynghyd â’r dosau oedd yn anaddas i'w defnyddio. Daw'r data o wybodaeth reoli ac maent yn destun newid. Ni fuont yn destun i’r un prosesau dilysu a gynhaliwyd ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol.
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Data agored
Teitl
Dosau COVID-19 cronnol nad oeddent yn addas i'w defnyddio, yn ôl y math o frechlynDiweddariad diwethaf
13 Ebrill 2022Diweddariad nesaf
I'w gadarnhauSefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
System Imiwneiddio CymruCyswllt ebost
kas.covid19@llyw.cymruDynodiad
Gwybodaeth reolaetholLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Byrddau iechyd lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegAllweddeiriau
GIG, COVID-19, Coronafeirws, Rhaglen frechuDisgrifiad cyffredinol
Mae'r data hyn wedi cael eu cyhoeddi er mwyn darparu crynodeb wythnosol ar raglen frechu coronafeirws (COVID-19) yng Nghymru.Mae’r ffigurau’n dangos nifer y dosau nad oeddent yn addas i'w defnyddio, fel canran o'r dosau a weinyddwyd, ynghyd â’r dosau oedd yn anaddas i'w defnyddio.
Mae’r brechlynnau sy'n anaddas i'w defnyddio yn cynnwys dosau sy'n methu’r broses sicrwydd yr yr archwiliad cychwynnol, dosau sy'n methu’r broses sicrwydd ansawdd ar ôl eu paratoi, a ffiolau/dosau sy'n dod i ben eu hoes yn ystod y sesiwn frechu. Mae hyn yn seiliedig ar wybodaeth a nodwyd yn System Imiwneiddio Cymru. Gall fod mwy o ddosau nad oedd modd eu defnyddio, na chawsant eu cofnodi.
Daw'r data o wybodaeth reoli ac maent yn destun newid. Ni fuont yn destun i’r un prosesau dilysu a gynhaliwyd ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol.
Casgliad data a dull cyfrifo
Defnyddir data Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) o System Imiwneiddio Cymru (WIS) ar gyfer dosau o frechlynnau nad ydynt yn addas i'w defnyddio. Efallai y bydd dosau ychwanegol na ellir eu defnyddio ond nad ydynt wedi'u cofnodi.Caiff canran y dosau sy'n anaddas i'w defnyddio ei chyfrifo fel hyn: cyfanswm y dosau anaddas / (dosau a weinyddwyd a’r dosau anaddas).
Amlder cyhoeddi
WythnosolCyfnodau data dan sylw
21 Ionawr 2021 ymlaenTalgrynnu wedi'u ddefnyddio
Caiff canrannau eu talgrynnu i un lle degol.Gwybodaeth am ddiwygiadau
Mae'r holl ddata'n dros dro ac yn destun i adolygiad yn y dyfodol oherwydd gweithgareddau cofnodi a glanhau data parhaus.Ansawdd ystadegol
Mae'r ffigurau a ddangosir yn rhai cronnol ar gyfer 10pm ddydd Iau bob wythnos tan 4 Mawrth 2021; o 14 Mawrth 2021 ymlaen mae'r ffigurau’n rhai cronnol ar gyfer 10pm ddydd Sul bob wythnos.Cyn 26 Ionawr 2021, roedd y wybodaeth cynnyrch ar gyfer y brechlyn Pfizer yn nodi bod pob ffiol yn cynnwys 5 dos; ond mewn rhai achosion efallai y bydd yn bosibl tynnu chweched dos o rai ffiolau. Cefnogir y defnydd o'r dos ychwanegol hwn gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA). O 26 Ionawr 2021, diweddarodd yr MHRA eu rheoliadau i nodi bod ffiol Pfizer yn cynnwys 6 dos yn swyddogol. Mae nifer y dosau o frechlyn Pfizer wedi’i gyfrifo ar sail y dyddiad y derbyniwyd y brechlyn yng Nghymru.
Mae'r wybodaeth cynnyrch ar gyfer brechlyn Prifysgol Rhydychen / AstraZeneca yn nodi bod ffiolau yn cynnwys 8 neu 10 dos (yn dibynnu ar y cyflwyniad), ond mewn rhai achosion efallai y bydd yn bosibl tynnu dos pellach (9fed neu 11eg) o rai ffiolau. Cefnogir y defnydd o'r dos ychwanegol hwn gan yr MHRA.
Mae dau gyflwyniad gwahanol o frechlyn Prifysgol Rhydychen / AstraZeneca yn cael eu cyflenwi:
• Pecynnau 80 dos (Deg o ffiolau 4 ml gydag o leiaf 8 dos ym mhob ffiol)
• Pecynnau 100 dos (Deg o ffiolau 5 ml gydag o leiaf 10 dos ym mhob ffiol)
Mae'r wybodaeth ar gyfer y brechlyn Moderna yn nodi y gellir tynnu 10 dos o 0.5mL o bob ffiol, sef y ffigur a ddefnyddir i adrodd y data a gyflwynir yn y datganiad hwn; fodd bynnag mae gorlenwi ychwanegol wedi'i gynnwys ym mhob ffiol i sicrhau y gellir dosbarthu 10 dos. Weithiau bydd yn bosibl tynnu dosau pellach o rai ffiolau. Mae MHRA yn cefnogi defnydd o'r dos ychwanegol hwn. Gyda'r brechu atgyfnerthu, mae'r dos argymelledig o frechlyn Moderna yw 0.25mL. Rhoddir Moderna mewn dosau 0.5mL a 0.25mL ac o'r herwydd bydd nifer y dosau mewn ffiol yn amrywio rhwng 10 ac 20 sydd yn dibynnu ar y gymysgedd o ddos cyntaf ac ail, a dosau atgyfnerthu a roddir.
Mae’r holl ddata ar frechlynnau a ddyrannwyd ac a gyflenwyd i Gymru wedi’u cymeradwyo gan Lywodraeth y DU.
Yn ystod yr wythnos hyd at 5 Medi 2021, bu cynnydd yng nghanran y dosau brechlynnau yr adroddwyd nad oeddent yn addas i'w defnyddio yng Nghymru. Roedd hyn yn bennaf oherwydd bod dyddiadau dod i ben sypiau o frechlyn AstraZeneca wedi’u cyrraedd yn ystod mis Awst 2021, sef tua 40,000 o ddosau.
Rhwng 19 Medi 2021 a 24 Hydref 2021, cynhwyswyd trydydd dosau cynradd a dosau atgyfnerthu yn nifer y dosau sy'n anaddas i'w defnyddio ond ni chawsant eu cynnwys yn nifer y dosau a weinyddwyd. Efallai bod hyn wedi cael effaith fach ar ganran y dosau nad ydynt yn addas i'w defnyddio.
O 24 Hydref 2021, mae'r nifer gronnus o ddosau a weinyddir yn cynnwys cyrsiau tri dos cynradd a dosau atgyfnerthu. Ar adeg ei weithredu, defnyddiwyd dosau Prifysgol Rhydychen/AstraZeneca a Moderna mewn symiau bach ar gyfer y cyrsiau tri dos cynradd a dosau atgyfnerthu ac felly ychydig iawn o effaith a gafodd y newid hwn ar y ganran yr adroddwyd nad oedd yn addas i'w defnyddio. Fodd bynnag, gwelwyd gostyngiad bach yng nghanran y dosau Pfizer BioNTech yr adroddwyd nad ydynt yn addas i'w defnyddio.
Rhwng 23 Ionawr 2022 a 30 Ionawr 2022, roedd nifer cronnus y dosau Pfizer BioNTech a ddefnyddiwyd yn cynnwys dosau Pfizer/BioNTech (12+ oed) a Pfizer/BioNTech (5-11 oed), tra bod nifer y dosau ‘anaddas i’w defnyddio’ wedi’i seilio ar ddosau ar gyfer 12+ oed yn unig. Ar adeg ei roi ar waith, defnyddiwyd niferoedd bach o ddosau ar gyfer 5-11 oed, felly cafodd hwn effaith bach ar y ganran a adroddwyd ei bod ‘anaddas i’w defnyddio’.
Mae'r nifer gymharol fach o ddosau Pfizer BioNTech (5-11 oed) a roddir yn golygu, er mai dim ond nifer fach o ddosau sydd wedi bod yn anaddas i'w defnyddio, bod y gyfran sy'n anaddas i'w defnyddio yn uchel o'i chymharu â mathau eraill o frechlynnau. Wrth i'r rhaglen datblygu, byddem yn disgwyl i'r gyfran hon leihau i fod yn agosach at frechlynnau eraill.