Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Ystadegau Gwladol Cyfanswm traffig yn ôl dosbarthiad ffyrdd a blwyddyn
None
Galwch heibio Caeau Hidlo Yma
Measure2
[Lleihau]Dosbarthiad FfyrddBiliwn cilometrau cerbydau: Caiff cyfanswm traffig ei fesur gan ddefnyddio cilometrau cerbydau. Caiff y rhain eu cyfrifo drwy luosi\’r llif dyddiol cyfartalog blynyddol â hyd y ffordd. Er enghraifft, byddai 1 cerbyd sy\’n teithio 1 cilometr y dydd am flwyddyn yn teithio 365 o gilometrau cerbydau.[Hidlo]
-
[Lleihau]Dosbarthiad Ffyrdd 1
-
[Lleihau]Dosbarthiad Ffyrdd 2
-
Dosbarthiad Ffyrdd 3
Blwyddyn(Disgynnol)[Hidlo]
[Lleihau]Yr holl ffyrddCliciwch yma i ddidoliYr holl ffyrdd
[Lleihau]Pob prif fforddCliciwch yma i ddidoliPob prif ffordd[Ehangu]Cliciwch yma i ddidoliIs-ffordd
[Ehangu]Cliciwch yma i ddidoliTraffordd[Lleihau]Ffordd SirolCliciwch yma i ddidoliFfordd Sirol[Lleihau]CefnfforddCliciwch yma i ddidoliCefnffordd
Cliciwch yma i ddidoliFfordd Sirol DrefolCliciwch yma i ddidoliFfordd Sirol WledigCliciwch yma i ddidoliCefnffordd DrefolCliciwch yma i ddidoliCefnffordd Wledig
20223.702.405.107.500.706.607.3018.5021.6029.20
20213.202.304.707.000.705.606.3016.5020.2026.50
20202.802.004.206.200.604.705.3014.3018.4023.50
20193.802.705.508.200.806.807.6019.6022.2030.70
20183.802.605.508.100.806.807.6019.5022.0030.50
20173.802.505.407.900.806.607.4019.1021.8030.00
20163.703.005.008.000.506.807.3019.0021.9029.90
20153.702.904.907.800.506.406.9018.4020.7028.70
20143.602.804.807.600.506.306.8018.0020.2028.10
20133.402.704.607.300.506.206.7017.4019.2027.00
20123.302.804.707.500.506.006.5017.3019.0026.70
20113.302.804.707.500.506.006.5017.3018.6026.70
20103.302.804.707.500.506.106.6017.4018.5026.60
20093.402.804.807.600.506.206.7017.7018.6026.90
20083.502.904.907.800.506.206.7018.0019.2027.40
20073.502.904.907.800.506.006.5017.8019.4027.50
20063.403.004.807.800.506.106.6017.8018.9027.20
20053.302.904.707.600.505.906.4017.3018.7026.60
20043.402.904.707.600.505.906.4017.4018.6026.70
20033.102.804.607.400.505.706.2016.7018.6026.10
20023.102.904.507.400.405.606.0016.5018.8025.80
20012.902.804.307.100.405.405.8015.8018.2025.00
20002.802.804.307.100.405.305.7015.6018.4024.70
19992.802.804.307.100.405.205.6015.5018.6024.90
19982.702.804.207.000.405.205.6015.3018.2024.50
19972.602.804.207.000.405.205.6015.2018.0024.20
19962.402.804.207.000.405.005.4014.8017.6023.60
19952.302.704.106.800.504.905.4014.5017.4023.10
19942.202.704.006.700.404.705.1014.0017.4022.60
19932.102.603.806.400.404.605.0013.5017.0022.10

Metadata

Disgrifiad cyffredinol

Mae'r ystadegau'n cyfeirio at lefelau traffig ar y ffyrdd yng Nghymru. Mae amcangyfrifon traffig ar y ffyrdd ar gyfer Cymru yn cael eu paratoi gan yr Adran Drafnidiaeth ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'r amcangyfrifon hyn yn seiliedig ar y cyfrifiadau traffig â llaw sy'n cael eu cynnal wrth ochr y ffordd ledled Cymru yn ystod y flwyddyn. Mae'r cyfrifiadau wrth ochr y ffordd hyn yn cael eu cyfuno â data cyfrifiadau traffig awtomatig a hydoedd ffyrdd i gynhyrchu amcangyfrifon traffig cyffredinol.

Mae'r amcangyfrifon traffig ar gyfer pob prif ffordd yn seiliedig ar gyfrifiad o bob ffordd o'r fath, ond mae amcangyfrifon ar gyfer is-ffyrdd yn cael eu cynhyrchu drwy gyfrifo cyfraddau tyfu o sampl penodol o fannau ar y rhwydwaith is-ffyrdd. Mae rhagor o fanylion ynglyn â'r fethodoleg ar gael gan yr Adran Drafnidiaeth yn o ddolen isod:
https://www.gov.uk/government/publications/road-traffic-speeds-and-congestion-statistics-guidance
.
Mae pob ffordd ag arwyneb yn cael ei chynnwys yn yr amcangyfrifon. Y categorïau yw:
Prif ffyrdd:
Traffyrdd. Ffyrdd deuol wedi'u cynllunio ar gyfer traffig cyflym, lle mae mynediad wedi'i gyfyngu i gerbydau modur, a nifer cymharol isel o fannau ar gyfer ymuno neu ymadael. Yr unig draffordd yng Nghymru yw'r M4.
Cefnffyrdd categori A. Rhan o'r rhwydwaith ffyrdd strategol sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru ac yn cael ei gweithredu ar ei rhan
Ffyrdd gwledig categori A. Pob ffordd categori A arall.

Mae amcangyfrifon ar gyfer ffyrdd A ar gael gydag is-gategorïau ar gyfer ffyrdd trefol a gwledig ar StatsCymru. Ffyrdd trefol yw'r ffyrdd hynny o fewn ffiniau ardaloedd â phoblogaeth o 10,000 neu'n uwch, a ffyrdd gwledig yw'r holl brif ffyrdd eraill nad ydynt yn draffyrdd.

Is-ffyrdd:
Ffyrdd B. Ffyrdd â'r nod o gysylltu ardaloedd gwahanol, a mynd â thraffig rhwng ffyrdd A a ffyrdd llai ar y rhwydwaith.

Ffyrdd dosbarthiadol heb rif. Ffyrdd llai â'r nod o gysylltu ffyrdd diddosbarth â ffyrdd A a B, sydd yn aml yn cysylltu ystad tai neu bentref â gweddill y rhwydwaith. Maent yn debyg i 'is-ffyrdd' ar fap Arolwg Ordnans, ac weithiau cyfeirir atynt yn answyddogol fel ffyrdd C.
Ffyrdd diddosbarth. Ffyrdd lleol ar gyfer traffig lleol. Mae mwyafrif helaeth ffyrdd yn y categori hwn.
Mae lefelau traffig yn cael eu mesur gan ddefnyddio cilomedrau cerbyd (VKM), sy'n cael eu cyfrifo drwy luosi cyfartaledd blynyddol y llif bob dydd â hyd y darn o ffordd o dan sylw. Er enghraifft, byddai un cerbyd yn teithio un cilomedr bob dydd am flwyddyn yn hafal i 365 VKM y flwyddyn. Yn y cyhoeddiad hwn cyflwynir amcangyfrifon mewn biliynau o gilometrau cerbyd (bvk).


Amlder cyhoeddi

Blynyddol

Talgrynnu wedi'u ddefnyddio

Mae data wedi'u talgrynnu i ddau le degol. Ar gyfer cofnodion lle nad oes data defnyddir "*".

Teitl

Cyfanswm traffig yn ôl dosbarthiad ffyrdd, Cymru.

Diweddariad diwethaf

Hydref 2023 Hydref 2023

Diweddariad nesaf

Hydref 2024 (Dros dro)

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Arolwg Traffig ar Sail Data â Gesglir â Llaw, yr Adran Drafnidiaeth

Cyswllt ebost

ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru

Dynodiad

Ystadegau Gwladol

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Cymru

Cwmpas daearyddol

Cymru

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Allweddeiriau

Trafnidiaeth traffig ffyrdd dosbarth y ffyrdd

Dolenni'r we

Lefelau traffig ar y ffyrdd, cyhoeddiad ystadegol: https://llyw.cymru/traffig-ffyrdd

Ansawdd ystadegol

Mae'r ystadegau hyn yn cael eu defnyddio o fewn Llywodraeth Cymru i lunio a monitro polisïau, ac maent hefyd yn cael eu defnyddio i roi gwybodaeth i adrannau llywodraethol eraill, busnesau, y cyfryngau a'r cyhoedd. Nid oes unrhyw ffynonellau data cynhwysfawr eraill i alluogi cynhyrchu ystadegau traffig ar gyfer Cymru a Phrydain Fawr. Dyma rai o'r ffyrdd penodol mae'r data'n cael eu defnyddio:
1. Mae dangosyddion Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol Cymru yn cynnwys y data hyn ar lif traffig. Mae'r dangosyddion hyn yn mesur y newid i lifoedd traffig ar gyfer Cymru yn ei chyfanrwydd ac ar gyfer ardaloedd awdurdodau lleol unigol.
2. Bydd y data hyn hefyd yn cael eu defnyddio'n rhan o'r cyfrifiadau i ateb unrhyw geisiadau am wybodaeth am y gyfradd anafusion ar gyfer lefelau traffig ar rannau gwahanol o ffyrdd.
3. Mae gwybodaeth am allyriadau CO2 cenedlaethol a lleol sy'n gysylltiedig â thraffig yn defnyddio'r amcangyfrifon hyn o lifoedd traffig.

Cywirdeb
Mae’r amcangyfrifon o draffig ar y ffyrdd yn seiliedig ar ganlyniadau llawer o gyfrifiadau â llaw 12 awr sy'n cael eu cynnal bob blwyddyn, sy'n cael eu grosio i amcangyfrifon o gyfartaledd blynyddol llifoedd bob dydd gan ddefnyddio ffactorau ehangu sy'n seiliedig ar ddata o gyfrifiadau traffig awtomatig ar ffyrdd tebyg. Mae angen y cyfartaleddau hyn er mwyn ystyried traffig ar adegau tawel, ar y penwythnos ac yn yr haf a'r gaeaf (pan fydd cyfrifiadau arbennig yn unig yn cael eu cynnal) wrth asesu'r traffig ar bob safle. Mae'r Adran Drafnidiaeth bellach yn rhannu'r mathau o ffyrdd yn 22 grwp (dim ond saith a fu yn flaenorol). Mae hyn yn gwneud cymharu lleoliadau cyfrifiadau â llaw a lleoliadau cyfrifiadau awtomatig yn haws. Roedd y grwpiau hyn yn seiliedig ar ddadansoddiadau manwl o ganlyniadau o holl safleoedd y cyfrifiadau awtomatig unigol, ac maent yn ystyried grwpiau rhanbarthol, categorïau ffyrdd (h.y. dosbarthiad trefol/gwledig a chategori'r ffordd), a lefelau llif y traffig.