Data o’r Arolwg o Fusnesau Ffermio (FBS) yng Nghymru sy’n rhoi trosolwg cyffredinol Cymwysiad Nitrogen, Ffosfforws a Photasiwm ar Lefel Fferm, 2017-18 i 2023-24.
Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Dim
Gwybodaeth am ddiwygiadau
Dim
Ansawdd ystadegol
Mae'r data incwm ffermydd a ddefnyddir yn y datganiad ystadegol hwn yn deillio o'r Arolwg o Fusnesau Ffermio (FBS) blynyddol. Cynhelir yr arolwg ar ran Llywodraeth Cymru gan Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae'r Arolwg o Fusnesau Ffermio yn casglu gwybodaeth ffisegol ac ariannol fanwl gan oddeutu 550 o fusnesau ffermio ledled Cymru ac mae'n cynnwys pob math o fferm da byw yng Nghymru. Fodd bynnag, dylid nodi bod y tarfu ar y broses casglu data fel y nodwyd uchod wedi arwain at sampl gynrychiadol ychydig yn llai ar gyfer y flwyddyn ddiweddaraf (2021-22) o 517 o fusnesau ffermio a 539 o fusnesau ffermio yn 2020-21 a 501 o fusnesau ffermio yn 2019-20 (o gymharu â 550 yn y blynyddoedd cyn y pandemig). Mae ymchwilwyr sydd wedi’u hyfforddi i lefel uchel yn casglu'r data drwy ymweld â ffermydd a gofyn am wybodaeth gan ffermwyr.