Datganiad hygyrchedd ar gyfer StatsCymru
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan a chynnwys StatsCymru.
Defnyddio'r wefan hon
Llywodraeth Cymru sy'n cynnal y wefan hon. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu ei defnyddio. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:
- llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- defnyddio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin
Mae cyngor ar gael ar AbilityNetar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw'r wefan hon
Rydym yn gwybod nad yw rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch.
Er enghraifft:
- Nid oes disgrifiadau mewn testun amgen ar gyfer rhai delweddau
- nid oes teitlau a disgrifiadau ar gyfer rhai tablau
- mae rhai tablau'n cynnwys celloedd hollt, celloedd cyfun neu dablau nythu
Adborth a manylion cyswllt
Os oes angen gwybodaeth arnoch am y wefan hon mewn fformat gwahanol, anfonwch e-bost atom neu ffoniwch ni ar 0300 025 5050.
Er mwyn ein helpu i ddarparu gwybodaeth mewn fformat sy'n diwallu eich anghenion yn well, dywedwch wrthym pa fformat neu fath o ddogfen yr hoffech ei derbyn. Os ydych yn defnyddio unrhyw dechnolegau cynorthwyol, dywedwch wrthym beth ydynt.
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi mewn 5 diwrnod gwaith.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd ar y wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â ni.
Gweithdrefn orfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus â'r ffordd rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud ei gwefannau'n hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 Safon AA, oherwydd yr elfennau a restrir isod nad ydynt yn cydymffurfio.
Cynnwys nad yw'n hygyrch
Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol:
Mae’n bosibl na fydd rhai delweddau'n cynnwys disgrifiadau mewn testun amgen. Ein nod yw darparu testun amgen ar gyfer delweddau a thablau a ddefnyddir ar wefan StatsCymru, ond efallai y bydd achosion lle nad yw'r rhain wedi'u darparu eto. Bydd safle presennol StatsCymru yn dod i ben erbyn 2023, ac ar ôl hynny bydd y gwasanaeth newydd yn darparu disgrifiadau testun amgen ar gyfer pob delwedd. Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd ar gyfer y wefan bresennol, byddwn yn sicrhau bod ein defnydd o ddelweddau yn bodloni’r safonau hygyrchedd. Os dewch chi ar draws delwedd heb ddisgrifiad mewn testun amgen, cysylltwch â ni.
Mae’n bosibl na fydd rhai tablau'n cynnwys teitlau neu ddisgrifiadau. Ein nod yw darparu teitlau a disgrifiadau ar gyfer tablau a ddefnyddir ar wefan StatsCymru, ond efallai y bydd achosion lle nad yw'r rhain wedi'u darparu eto. Bydd safle presennol StatsCymru yn dod i ben erbyn 2023, ac ar ôl hynny bydd y gwasanaeth newydd yn darparu teitlau a disgrifiadau ar gyfer pob tabl. Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd ar y safle presennol, byddwn yn sicrhau bod ein tablau'n bodloni safonau hygyrchedd. Os dewch chi ar draws tabl heb deitl neu ddisgrifiad, cysylltwch â ni.
Mae’n bosibl fod rhai tablau’n cynnwys celloedd hollt, celloedd cyfun neu dablau nythu. Ein nod yw osgoi defnyddio’r rhain mewn tablau ar safle StatesCymru, ond efallai y bydd achosion lle mae'r rhain i’w gweld. Bydd safle presennol StatsCymru yn dod i ben erbyn 2023, ac ar ôl hynny ni fydd y gwasanaeth newydd yn cynnwys celloedd hollt, celloedd cyfun na thablau nythu. Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd byddwn yn sicrhau bod ein tablau'n bodloni safonau hygyrchedd. Os dewch chi ar draws enghreifftiau o gelloedd hollt, celloedd cyfun neu dablau nythu mewn tablau ar StatsCymru, cysylltwch â ni.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Dogfennau PDF a dogfennau eraill
Mae rhai o’n dogfennau Excel yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym ddogfennau Excel sy’n galluogi i ddefnyddwyr weld, addasu, creu a lawr lwytho tablau o ddata Cymru. Erbyn 2023, ein bwriad yw gwella hygyrchedd yr holl ddogfennau Excel hanfodol ar StatsCymru.
Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol inni addasu dogfennau PDF na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, nid ydym yn bwriadu addasu canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2014-15: y celfyddydau, diwylliant, amgueddfeydd.
Bydd unrhyw ddogfennau Excel newydd a gyhoeddir gennym yn bodloni’r safonau hygyrchedd.
Llunio’r datganiad hygyrchedd hwn
Lluniwyd y datganiad hwn ar 03 Awst 2021.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ym mis Awst 2020. Cynhaliwyd y prawf gan ddefnyddio cyfuniad o brofion â llaw a phrofion awtomataidd. Cynhaliwyd y profi gan ddefnyddio offer archwilio Lighthouse Accessibility.
Fe wnaethom brofi llwyfan ein prif wefan, sydd ar gael yn:https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue