Cyn-filwyr Lluoedd Arfog y Deyrnas Unedig yng Nghymru, yn ôl ardal a math o wasanaeth
None
|
Metadata
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Ansawdd ystadegol
Mae gwybodaeth bellach ar y dulliau datgelu ystadegol (gan gynnwys y dull aflonyddu) sydd wedi’u cymhwyso i’r data i’w gweld fan hyn:https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/populationandmigration/populationestimates/methodologies/qualityandmethodologyinformationqmiforcensus2021#methods-used-to-produce-the-data
Disgrifiad cyffredinol
Roedd Cyfrifiad 2021 yn cynnwys cwestiwn am y tro cyntaf, yn gofyn i bobl a oeddent wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog yn flaenorol ai peidio. Ym mis Tachwedd 2022, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) 'Cyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig (DU), Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021', a helpodd i ffurfio cyhoeddiad Llywodraeth Cymru 'Cyn-filwyr lluoedd arfog y DU yng Nghymru (Cyfrifiad 2021)'.Mae'r tabl hwn yn seiliedig ar dabl Cyfrifiad TS071, 'Wedi gwasanaethu'n flaenorol yn lluoedd arfog y DU'. Mae’r tabl yn cynnig amcangyfrifon o Gyfrifiad 2021 sy’n dosbarthu preswylwyr arferol 16 oed neu hyn yng Nghymru a Lloegr yn ôl a ydynt wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y DU yn flaenorol ai peidio. Nid yw hyn yn cynnwys pobl sy’n gwasanaethu yn lluoedd arfog y DU ar hyn o bryd.
Ar gyfer Cyfrifiad 2021, gwnaeth y SYG newidiadau i’r data (a elwir yn rheolaeth datgelu ystadegol) fel nad yw’n bosibl adnabod unigolion. Roedd y newidiadau hyn yn cynnwys:
• Cofnodion wedi'u cyfnewid (cyfnewid cofnod wedi'i dargedu), er enghraifft, os oedd cartref yn debygol o gael ei nodi mewn setiau data oherwydd bod ganddi nodweddion anarferol, fe wnaethant gyfnewid y cofnod ag un tebyg o ardal fach gyfagos. Gallai aelwydydd anarferol iawn gael eu cyfnewid ag un mewn awdurdod lleol cyfagos.
• Wedi ychwanegu newidiadau bach at rai gwerthoedd (aflonyddwch allwedd cell), er enghraifft, newid cyfrif o bedwar i dri neu bump. Gallai hyn wneud gwahaniaethau bach rhwng tablau yn dibynnu ar sut mae'r data'n cael eu dadansoddi pan fydd aflonyddwch yn cael ei roi ar waith.
Mae hyn yn achosi newidiadau bach i gelloedd ond nid yw'n effeithio'n sylfaenol ar ystyr y data. Lle gwneir tablau mewn gwahanol ffyrdd, bydd y newidiadau a gymhwysir yn wahanol, gan arwain at wahaniaethau rhwng cyfansymiau a thablau sydd ddim yn ‘adio’ at y cyfansymiau. I leihau hyn, mae'r SYG yn argymell defnyddio cyfansymiau o dablau â llai o gelloedd, lle bo'n bosibl, mewn ardaloedd daearyddol uwch. Er enghraifft, os ydych chi eisiau poblogaeth yn ôl oedran dylech ddefnyddio data o TS007 ac os ydych chi eisiau poblogaeth fesul rhyw dylech ddefnyddio data o TS008.
Bydd rhagor o wybodaeth am y prosesau a ddefnyddir i reoli datgelu ystadegol yn cael ei darparu mewn cyhoeddiadau yn y dyfodol.
Casgliad data a dull cyfrifo
Gweler y dolenni i'r weAmlder cyhoeddi
Dim hwy diweddaruCyfnodau data dan sylw
21 Mawrth 2021Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Caiff y data a ddangosir fan hyn eu defnyddio gan adrannau o'r llywodraeth ganolog ac awdurdodau lleol at amrywiaeth o ddibenion gan gynnwys i ddyrannu adnoddau, cynllunio a monitro gwasanaethau, ac fel enwaduron er mwyn cyfrifo gwahanol gyfraddau a dangosyddion.Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae’n bosibl na fydd symiau awdurdodau lleol yn cyfateb yn llawn i ffigurau Cymru oherwydd y dulliau datgelu ystadegol sydd wedi’u cymhwyso i’r data fel y caiff ei ddisgrifio yn y disgrifiad cyffredinol. Efallai na fydd y ffigurau ar draws tablau gwahanol yn cyfateb yn union oherwydd y dulliau rheoli datgelu ystadegol a gymhwysir i’r data.Teitl
Cyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig yng Nghymru, yn ôl ardal a math o wasanaethDiweddariad diwethaf
Tachwedd 2023Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Cyfrifiad 2021, y Swyddfa Ystadegau GwladolCyswllt ebost
ystadegau.poblogaeth@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolCwmpas daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDolenni'r we
https://www.llyw.cymru/cyn-filwyr-lluoedd-arfog-y-deyrnas-unedig-yng-nghymru-cyfrifiad-2021https://static.ons.gov.uk/files/uk-armed-forces-veterans-england-and-wales-census-2021-welsh-full-bulletin-pdf.pdf
https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/populationandmigration/populationestimates/methodologies/qualityandmethodologyinformationqmiforcensus2021#methods-used-to-produce-the-data