Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Ystadegau Gwladol Y boblogaeth breswyl arferol yn ôl oedran ac awdurdod lleol
None
[Lleihau]Rhyw[Hidlwyd]
-
Rhyw 1[Hidlo]
Blwyddyn[Hidlwyd]
Oed 2[Hidlo]
Cod Ardal[Hidlo]
Oed 3[Hidlo]
Measure1
[Lleihau]Oed[Hidlo]
-
Oed 1
[Lleihau]Ardal[Hidlo]
-
-
[Lleihau]Ardal 1
-
-
Ardal 2
[Ehangu]Cliciwch yma i ddidoliPob oedran
[Lleihau]Cymru3,107,494
Cymru[Lleihau]Gogledd Cymru686,893
Gogledd CymruYnys Môn68,877
Gwynedd117,393
Conwy114,741
Sir Ddinbych95,814
Sir y Fflint154,956
Wrecsam135,112
[Lleihau]Canolbarth a De-orllewin Cymru896,685
Canolbarth a De-orllewin CymruPowys133,174
Ceredigion71,481
Sir Benfro123,354
Sir Gaerfyrddin187,896
Abertawe238,489
Castell-nedd Port Talbot142,291
[Lleihau]De-ddwyrain Cymru1,523,911
De-ddwyrain CymruPen-y-bont ar Ogwr145,500
Bro Morgannwg131,947
Caerdydd362,312
Rhondda Cynon Taf237,658
Merthyr Tudful58,839
Caerffili175,948
Blaenau Gwent66,899
Tor-faen92,263
Sir Fynwy92,958
Casnewydd159,587

Metadata

Disgrifiad cyffredinol

Cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) ganlyniadau cyntaf Cyfrifiad 2021 Cymru a Lloegr ar 28 Mehefin 2022. Roedd y canlyniadau cyntaf hyn yn cynnwys amcangyfrifon poblogaeth a chartrefi wedi’u talgrynnu ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru, yn ôl rhyw a grwpiau oedran pum mlynedd. Cyhoeddwyd amcangyfrifon poblogaeth heb eu talgrynnu yn ôl rhyw a blwydd oedran ar 2 Tachwedd 2022.

Mae'r tabl StatsCymru yn seiliedig ar dabl Cyfrifiad TS009 – Amcangyfrifon poblogaeth heb eu talgrynnu yn ôl rhyw a blwydd oedran. Ar gyfer Cyfrifiad 2021, gwnaeth yr ONS newidiadau i’r data (a elwir yn rheoli datgelu ystadegol) fel nad yw’n bosibl adnabod unigolion. Roedd y newidiadau hyn yn cynnwys:
• Cyfnewid cofnodion (wedi’i dargedu), er enghraifft, os yw aelwyd yn debygol o gael ei hadnabod mewn setiau data oherwydd ei nodweddion anarferol, gwnaethom gyfnewid y cofnod gydag un debyg o ardal fach gyfagos. Gellid cyfnewid aelwydydd anarferol iawn gydag un mewn awdurdod lleol cyfagos.
• Ychwanegu newidiadau bach at rai cyfrifiadau (aflonyddu ar lefel cell ddata), er enghraifft, newid cyfrif o bedwar i dri neu bump. Gallai hyn achosi mân wahaniaethau rhwng tablau gan ddibynnu ar sut mae’r data yn cael eu dadansoddi yn sgil defnyddio’r dull hwn.

Mae hyn yn achosi newidiadau bach i gelloedd ond nid yw'n effeithio'n sylfaenol ar ystyr y data. Lle gwneir tablau mewn gwahanol ffyrdd, bydd y newidiadau a gymhwysir yn wahanol, gan arwain at wahaniaethau rhwng cyfansymiau a thablau nad ydynt yn ‘ffurfio’ eu cyfansymiau. Er mwyn lleihau effaith y dull aflonyddu, lle y bo modd, mae'r ONS yn argymell defnyddio cyfansymiau o dablau â llai o gelloedd, gan ddefnyddio ardaloedd daearyddol lefel uwch. Er enghraifft, os oeddech chi’n chwilio am boblogaeth yn ôl oed, dylech ddefnyddio data o TS007, ac os oeddech chi’n chwilio am boblogaeth yn ôl rhyw, dylech ddefnyddio data o TS008.

Bydd rhagor o wybodaeth am y prosesau a ddefnyddir wrth reoli datgelu ystadegol yn cael ei ddarparu mewn cyhoeddiadau yn y dyfodol.

Ystyr preswylydd arferol yng Nghymru yw unrhyw un a oedd yn byw neu'n aros yng Nghymru am 12 mis neu fwy ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021, neu oedd â chyfeiriad parhaol yng Nghymru ac a oedd yn aros y tu allan i Gymru am lai na 12 mis.


Casgliad data a dull cyfrifo

Gweler y dolenni i'r we

Amlder cyhoeddi

Dim hwy diweddaru

Cyfnodau data dan sylw

21 Mawrth 2021

Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun

Caiff y data a ddangosir yma eu defnyddio gan adrannau o'r llywodraeth ganolog ac awdurdodau lleol at amrywiaeth o ddibenion gan gynnwys i ddyrannu adnoddau, cynllunio a monitro gwasanaethau, ac fel enwaduron er mwyn cyfrifo gwahanol gyfraddau a dangosyddion.

Talgrynnu wedi'u ddefnyddio

Mae’n bosibl na fydd symiau awdurdodau lleol yn cyfateb yn gywir i ffigurau Cymru oherwydd y dulliau datgelu ystadegol sydd wedi’u cymhwyso i’r data fel y caiff ei ddisgrifio yn y disgrifiad cyffredinol. Efallai na fydd y ffigurau ar draws tablau gwahanol yn cyfateb yn union oherwydd y dulliau rheoli datgelu ystadegol a gymhwysir i’r data.

Teitl

Y boblogaeth breswyl arferol yn ôl awdurdod lleol, rhyw a grwpiau oedran pum mlynedd

Diweddariad diwethaf

Rhagfyr 2022 Rhagfyr 2022

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Cyfrifiad 2021, y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Dynodiad

Ystadegau Gwladol

Cwmpas daearyddol

Awdurdodau lleol

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Allweddeiriau

Cyfrifiad 2021; poblogaeth

Ansawdd ystadegol

Mae gwybodaeth bellach ar y dulliau datgelu ystadegol (gan gynnwys y dull aflonyddu) sydd wedi’u cymhwyso i’r data i’w gweld yna:
https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/populationandmigration/populationestimates/methodologies/qualityandmethodologyinformationqmiforcensus2021#methods-used-to-produce-the-data