Y boblogaeth breswyl arferol yn ôl rhyw ac awdurdod lleol
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Y boblogaeth breswyl arferol yn ôl awdurdod lleol, rhyw a grwpiau oedran pum mlyneddDiweddariad diwethaf
Rhagfyr 2022Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Cyfrifiad 2021, y Swyddfa Ystadegau GwladolDynodiad
Ystadegau GwladolCwmpas daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) ganlyniadau cyntaf Cyfrifiad 2021 Cymru a Lloegr ar 28 Mehefin 2022. Roedd y canlyniadau cyntaf hyn yn cynnwys amcangyfrifon poblogaeth a chartrefi wedi’u talgrynnu ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru, yn ôl rhyw a grwpiau oedran pum mlynedd. Cyhoeddwyd amcangyfrifon poblogaeth heb eu talgrynnu yn ôl rhyw a blwydd oedran ar 2 Tachwedd 2022.Mae'r tabl StatsCymru yn seiliedig ar dabl Cyfrifiad TS009 – Amcangyfrifon poblogaeth heb eu talgrynnu yn ôl rhyw a blwydd oedran. Ar gyfer Cyfrifiad 2021, gwnaeth yr ONS newidiadau i’r data (a elwir yn rheoli datgelu ystadegol) fel nad yw’n bosibl adnabod unigolion. Roedd y newidiadau hyn yn cynnwys:
• Cyfnewid cofnodion (wedi’i dargedu), er enghraifft, os yw aelwyd yn debygol o gael ei hadnabod mewn setiau data oherwydd ei nodweddion anarferol, gwnaethom gyfnewid y cofnod gydag un debyg o ardal fach gyfagos. Gellid cyfnewid aelwydydd anarferol iawn gydag un mewn awdurdod lleol cyfagos.
• Ychwanegu newidiadau bach at rai cyfrifiadau (aflonyddu ar lefel cell ddata), er enghraifft, newid cyfrif o bedwar i dri neu bump. Gallai hyn achosi mân wahaniaethau rhwng tablau gan ddibynnu ar sut mae’r data yn cael eu dadansoddi yn sgil defnyddio’r dull hwn.
Mae hyn yn achosi newidiadau bach i gelloedd ond nid yw'n effeithio'n sylfaenol ar ystyr y data. Lle gwneir tablau mewn gwahanol ffyrdd, bydd y newidiadau a gymhwysir yn wahanol, gan arwain at wahaniaethau rhwng cyfansymiau a thablau nad ydynt yn ‘ffurfio’ eu cyfansymiau. Er mwyn lleihau effaith y dull aflonyddu, lle y bo modd, mae'r ONS yn argymell defnyddio cyfansymiau o dablau â llai o gelloedd, gan ddefnyddio ardaloedd daearyddol lefel uwch. Er enghraifft, os oeddech chi’n chwilio am boblogaeth yn ôl oed, dylech ddefnyddio data o TS007, ac os oeddech chi’n chwilio am boblogaeth yn ôl rhyw, dylech ddefnyddio data o TS008.
Bydd rhagor o wybodaeth am y prosesau a ddefnyddir wrth reoli datgelu ystadegol yn cael ei ddarparu mewn cyhoeddiadau yn y dyfodol.
Ystyr preswylydd arferol yng Nghymru yw unrhyw un a oedd yn byw neu'n aros yng Nghymru am 12 mis neu fwy ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021, neu oedd â chyfeiriad parhaol yng Nghymru ac a oedd yn aros y tu allan i Gymru am lai na 12 mis.
Casgliad data a dull cyfrifo
Gweler y dolenni i'r weAmlder cyhoeddi
Dim hwy diweddaruCyfnodau data dan sylw
21 Mawrth 2021Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Caiff y data a ddangosir yma eu defnyddio gan adrannau o'r llywodraeth ganolog ac awdurdodau lleol at amrywiaeth o ddibenion gan gynnwys i ddyrannu adnoddau, cynllunio a monitro gwasanaethau, ac fel enwaduron er mwyn cyfrifo gwahanol gyfraddau a dangosyddion.Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae’n bosibl na fydd symiau awdurdodau lleol yn cyfateb yn gywir i ffigurau Cymru oherwydd y dulliau datgelu ystadegol sydd wedi’u cymhwyso i’r data fel y caiff ei ddisgrifio yn y disgrifiad cyffredinol. Efallai na fydd y ffigurau ar draws tablau gwahanol yn cyfateb yn union oherwydd y dulliau rheoli datgelu ystadegol a gymhwysir i’r data.Ansawdd ystadegol
Mae gwybodaeth bellach ar y dulliau datgelu ystadegol (gan gynnwys y dull aflonyddu) sydd wedi’u cymhwyso i’r data i’w gweld yna:https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/populationandmigration/populationestimates/methodologies/qualityandmethodologyinformationqmiforcensus2021#methods-used-to-produce-the-data
Dolenni'r we
https://llyw.cymru/amcangyfrifon-poblogaeth-ac-aelwydydd-cymru-cyfrifiad-2021https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/populationandmigration/populationestimates/methodologies/qualityandmethodologyinformationqmiforcensus2021#methods-used-to-produce-the-data
https://cy.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/populationandmigration/populationestimates/bulletins/populationandhouseholdestimateswales/census2021