Ansawdd aer
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Dangosyddion Amlygiad Ansawdd AerDiweddariad diwethaf
Awst 2024Diweddariad nesaf
2025Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Crynodiad Aer, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion GwledigFfynhonnell 2
Amcangyfrifon poblogaeth ardaloedd bach (SAPE), y Swyddfa Ystadegau CenedlaetholFfynhonnell 1
Gwybodaeth ddaearyddol, Llywodraeth CymruCyswllt ebost
ystadegau.amgylchedd@llyw.cymruDynodiad
DimLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Dangosyddion Amlygiad Ansawdd Aer - crynodiad cyfartalog NO2, PM2.5 a PM10 ar draws ardaloedd awdurdodau lleol ac ardaloedd byrddau iechyd lleol, yn deillio o ddata wedi'u modelu ar gyfer pob cilomedr sgwâr yng Nghymru, a'i fesur mewn µg/m3 (data DEFRA )Casgliad data a dull cyfrifo
Bob blwyddyn mae model Llygredd Mapio Hinsawdd (PCM) Llywodraeth y DU yn cyfrifo crynodiadau llygryddion cyfartalog ar gyfer pob cilomedr sgwâr o'r DU. Mae'r model yn cael ei galibro yn erbyn mesuriadau a gymerwyd o rwydwaith monitro ansawdd aer cenedlaethol y DU.Mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio'r data yma i ddynodi crynodiad o NO2, PM2.5 a PM10 i bob annedd preswyl yng Nghymru yn seiliedig ar ba gilometr sgwâr o Gymru mae ynddo.
Ar gyfer pob ardal gynnyrch y cyfrifiad (unedau daearyddol ystadegol yn cynnwys tua 150 o dai), cyfrifwyd cyfartaledd crynodiadau llygrydd sy'n gysylltiedig â phob annedd o fewn yr ardal i roi crynodiad NO2, PM2.5 a PM10 ar draws yr ardal gynnyrch y cyfrifiad.
Ar gyfer pob Awdurdod Lleol a Bwrdd Iechyd Lleol, cyfrifwyd cyfartaledd wedi'i bwysoli dros boblogaeth yr ardaloedd cynnyrch i roi crynodiad cyfartaledd NO2, PM2.5 a PM10 yn seiliedig ar ble mae pobl yn byw o fewn yr Awdurdodau Lleol ac Awdurdodau Iechyd hynny. Cafodd yr un cyfrifiad ei ailadrodd dros holl ardaloedd cynnyrch y cyfrifiad, er mwyn rhoi ffigur cymharol ar gyfer Cymru gyfan.
Ar gyfer diweddariad 2022 o'r dangosyddion cenedlaethol ansawdd aer, gweithredwyd gwelliant methodolegol i'r ffordd y cyfrifir pwysau'r anheddau, gan nad oedd y broses wreiddiol a ddefnyddiwyd i amcangyfrif dangosyddion cenedlaethol ansawdd aer (cyn 2022) yn cyfrifo'r pwysau yn y ffordd a fwriadwyd. Cynhaliwyd asesiad o'r effaith ar y data hanesyddol ac mae'r effaith yn fach. O ystyried bod y data llygredd aer yn cael ei fodelu ac mae amcangyfrifon y boblogaeth wedi eu hail-seilio yn dilyn y Cyfrifiad, mae ansicrwydd eisoes yn bodoli sy'n gysylltiedig â'r amcangyfrifon hyn. Oherwydd yr ansicrwydd hwn, diffyg data anheddau hanesyddol manwl ac effaith fechan y newid methodolegol, nid yw'r data hanesyddol wedi'i ddiwygio.
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Cyfartaledd BlynyddolDefnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Defnyddir yr wybodaeth i reoli a monitor ansawdd aer lleol.Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae crynodiadau sydd wedi'u pwysoli gan y boblogaeth wedi eu talgrynnu i'r rhif cyfan agosaf (µg/m3).Gwybodaeth am ddiwygiadau
Dim.Ansawdd ystadegol
Gweler dolenni.Bob blwyddyn mae'r Model Hinsawdd Llygredd ( PCM ) sy'n sail i'r mapiau cefndir yn cael eu mireinio a'u gwella ( i gymryd i ystyriaeth y wyddoniaeth a dealltwriaeth ddiweddaraf e.e. newidiadau mewn ffactorau allyriadau , data gweithgarwch gwell ac ati). Fel arfer, gwneir y newidiadau dull hyn i ffigurau y flwyddyn ddiweddaraf yn unig.
Mae’r ffigurau ansawdd aer 2021 yn seiliedig ar yr amcangyfrifon poblogaeth 2020.