Dangosyddion Amlygiad Ansawdd Aer - crynodiad cyfartalog NO2, PM2.5 a PM10 ar draws ardaloedd awdurdodau lleol ac ardaloedd byrddau iechyd lleol, yn deillio o ddata wedi'u modelu ar gyfer pob cilomedr sgwâr yng Nghymru, a'i fesur mewn µg/m3 (data DEFRA )
Bob blwyddyn mae model Llygredd Mapio Hinsawdd (PCM) Llywodraeth y DU yn cyfrifo crynodiadau llygryddion cyfartalog ar gyfer pob cilomedr sgwâr o'r DU. Mae'r model yn cael ei galibro yn erbyn mesuriadau a gymerwyd o rwydwaith monitro ansawdd aer cenedlaethol y DU.
Mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio'r data yma i ddynodi crynodiad o NO2, PM2.5 a PM10 i bob annedd preswyl yng Nghymru yn seiliedig ar ba gilometr sgwâr o Gymru mae ynddo.
Ar gyfer pob ardal gynnyrch y cyfrifiad (unedau daearyddol ystadegol yn cynnwys tua 150 o dai), cyfrifwyd cyfartaledd crynodiadau llygrydd sy'n gysylltiedig â phob annedd o fewn yr ardal i roi crynodiad NO2, PM2.5 a PM10 ar draws yr ardal gynnyrch y cyfrifiad.
Ar gyfer pob Awdurdod Lleol a Bwrdd Iechyd Lleol, cyfrifwyd cyfartaledd wedi'i bwysoli dros boblogaeth yr ardaloedd cynnyrch i roi crynodiad cyfartaledd NO2, PM2.5 a PM10 yn seiliedig ar ble mae pobl yn byw o fewn yr Awdurdodau Lleol ac Awdurdodau Iechyd hynny. Cafodd yr un cyfrifiad ei ailadrodd dros holl ardaloedd cynnyrch y cyfrifiad, er mwyn rhoi ffigur cymharol ar gyfer Cymru gyfan.
Ar gyfer diweddariad 2022 o'r dangosyddion cenedlaethol ansawdd aer, gweithredwyd gwelliant methodolegol i'r ffordd y cyfrifir pwysau'r anheddau, gan nad oedd y broses wreiddiol a ddefnyddiwyd i amcangyfrif dangosyddion cenedlaethol ansawdd aer (cyn 2022) yn cyfrifo'r pwysau yn y ffordd a fwriadwyd. Cynhaliwyd asesiad o'r effaith ar y data hanesyddol ac mae'r effaith yn fach. O ystyried bod y data llygredd aer yn cael ei fodelu ac mae amcangyfrifon y boblogaeth wedi eu hail-seilio yn dilyn y Cyfrifiad, mae ansicrwydd eisoes yn bodoli sy'n gysylltiedig â'r amcangyfrifon hyn. Oherwydd yr ansicrwydd hwn, diffyg data anheddau hanesyddol manwl ac effaith fechan y newid methodolegol, nid yw'r data hanesyddol wedi'i ddiwygio.
Blynyddol
Cyfartaledd Blynyddol
Defnyddir yr wybodaeth i reoli a monitor ansawdd aer lleol.
Mae crynodiadau sydd wedi'u pwysoli gan y boblogaeth wedi eu talgrynnu i'r rhif cyfan agosaf (µg/m3).
Dim.