Eiddo mewn risg o Lifogydd 2024
None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Mae Asesiad Bygythiad Llifogydd Cymru (FRAW) ynghyd â'r Gronfa Ddata Derbynnydd Genedlaethol (NRD) yn cael eu defnyddio i benderfynu ar nifer yr eiddo (preswyl a di-breswyl) sydd mewn perygl o lifogydd o Afonydd, y Môr a Dwr Wyneb a Chyrsiau Dwr Bach yng Nghymru. Mae'r wybodaeth ar gyfer risg Heddiw (2024) a risg Newid Hinsawdd (2120) ac mae'n cynnwys presenoldeb a diffyg presenoldeb amddiffynfeydd rhag llifogydd o fewn y modelu (senarios gyda amddiffyniad a senarios heb amddiffyniad).Casgliad data a dull cyfrifo
Nodir y posibilrwydd o lifogydd mewn tri chategori risg:Risg Uchel; Siwans sy'n fwy na neu'n hafal i 1 o bob 30 (3.3%) mewn unrhyw flwyddyn penodol.
Risg Ganolig; Siawns sy'n llai nag 1 o bob 30 (3.3%) ond yn fwy na, neu'n hafal i 1 o bob 100 (1%) mewn unrhyw flwyddyn benodol ar gyfer afonydd a llifogydd dwr wyneb a llai nag 1 o bob 30 (3.3%) ond yn fwy na neu'n hafal i 1 o bob 200 (0.5%) ar gyfer y môr.
Risg Isel; Siawns sy'n llai nag 1 o bob 100 (1%) ar gyfer afonydd a llifogydd dwr wyneb ac 1 o bob 200 (0.5%) ar gyfer y môr ond yn fwy na neu'n hafal i siawns 1 o bob 1,000 (0.1%) mewn unrhyw flwyddyn benodol.
Mae FRAW fel arfer yn cynnwys llifogydd o afonydd sydd â maint dalgylch sy'n fwy na 3 cilomedr sgwâr, a llifogydd o'r môr (ar hyd yr arfordir agored ac aberoedd llanw). Cynrychiolir cyrsiau dwr llai sydd â maint dalgylch llai na 3 cilomedr sgwâr yn y data a mapiau Dwr Wyneb FRAW.
Mae'r asesiad yn ystyried lleoliad a safon yr amddiffyniad a roddir gan amddiffynfeydd llifogydd ac yn addasu'r categoreiddio risg yn unol â hynny o senario 'heb amddiffyniad'.
Mae gwerthoedd codi newid hinsawdd yn seiliedig ar y canllawiau sydd ar gael adeg y prosiect FRAW gwreiddiol a gwblhawyd yn 2019. Mae'r gwerthoedd codi yn debyg iawn neu'n union yr un fath â chanllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru, gan ddefnyddio "Amcangyfrif Canolog". Mae'r gwerthoedd nodweddiadol ar gyfer cynnydd yn lefel y môr oddeutu 1.1m ledled Cymru, cynnydd o 20% i 30% mewn llifoedd afonydd yn seiliedig ar Dalgylchoedd Basn Afon a chynnydd o 20% i'r glawiad ar gyfer mapio Dwr Wyneb a Chwrs Dwr Bach.
Ar gyfer y senario heb amddiffyniad Newid Hinsawdd, rhagdybiwyd bod y safon bresennol o amddiffyn yr amddiffynfeydd rhag llifogydd yn cadw i fyny â newid hinsawdd.
Cyfnodau data dan sylw
2024 ymlaenTalgrynnu wedi'u ddefnyddio
Dim.Teitl
Eiddo sydd mewn Perygl o LifogyddDiweddariad diwethaf
Awst 2024Diweddariad nesaf
Gorffennaf 2026Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Data Cenedlaethol ar Asesu Risg Llifogydd, Cyfoeth Naturiol CymruCyswllt ebost
ystadegau.amgylchedd@llyw.cymruDynodiad
DimLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegAnsawdd ystadegol
Mae FRAW fel arfer yn cynnwys llifogydd o afonydd sydd â maint dalgylch sy'n fwy na 3 cilomedr sgwâr, a llifogydd o'r môr (ar hyd yr arfordir agored ac aberoedd llanw). Cynrychiolir cyrsiau dwr llai sydd â maint dalgylch llai na 3 cilomedr sgwâr yn y data a mapiau Dwr Arwyneb FRAW.Mae'r asesiad yn ystyried lleoliad a safon yr amddiffyniad a roddir gan amddiffynfeydd llifogydd ac yn addasu'r categoreiddio risg yn unol â hynny o senario 'heb amddiffyniad'.
Efallai y bydd mwy nag un ffynhonnell o lifogydd yn effeithio ar rai eiddo yng Nghymru, felly wrth gyfrif eiddo sydd mewn perygl, mae angen i chi fod yn ofalus nad yw'r un eiddo yn cael ei gyfrif fwy nag unwaith. Er enghraifft, os yw eiddo yn cael ei effeithio gan bob un o'r tair ffynhonnell o lifogydd, wrth adrodd yn ôl ffynonellau llifogydd, bydd yn cael ei gyfrif fel un eiddo ar gyfer afonydd, un ar gyfer y môr ac un ar gyfer dwr wyneb a chwrs dwr bach. Fodd bynnag, os ydych yn cyfrif cyfanswm yr eiddo yng Nghymru sydd mewn perygl o lifogydd, gan ddefnyddio swm y tair ffynhonnell, gellid cyfrif yr un eiddo dair gwaith.
Mae'r cyfrif eiddo a ddarperir yn gipolwg mewn amser yn seiliedig ar setiau data 2024. Maent yn destun newid o flwyddyn i flwyddyn, wrth i ddata a methodoleg wella dros amser. Gall hyn achosi i gyfrif gynyddu neu leihau rhwng datganiadau unigol. Pan fyddwn yn cyfrif adeiladau neu eiddo, gall hyn gynnwys nifer o adeiladau yn yr un cyfeiriad.