Mae'r ffigurau hyn yn cael eu cyhoeddi fel Ystadegau Swyddogol. Nodir y costau ar y gronfa ddata ‘Flycapture’ ar gyfer y categorïau maint ‘eitemau unigol’, ‘bagiau du unigol’, ‘cist car neu lai’, ‘llwythi faniau bach’ a ‘llwythi faniau mawr’ yn seiliedig ar gyfartaleddau cenedlaethol. Ar gyfer y categorïau eraill, ‘llwythi lorïau codi’ a ‘llwythi lluosog sylweddol’, caiff y costau eu nodi yn ôl awdurdod lleol. Fodd bynnag, yn y canllawiau, darperir costau cyfartalog cenedlaethol fesul llwyth er mwyn helpu awdurdodau lleol i gyfrifo eu hamcangyfrifon. Nod hyn yw lleihau gwahaniaethau mewn dulliau amcangyfrif lleol a chaniatáu cymariaethau cyfatebol ar lefel awdurdod lleol.
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Crynodeb o achosion o dipio anghyfreithlon, camau gorfodi a chanlyniadau erlyn.Casgliad data a dull cyfrifo
Mae'r ystadegau yn seiliedig ar wybodaeth a ddarperir gan awdurdodau lleol i’r gronfa ddata ‘Waste Data Flow’. Nid yw'r ystadegau yn cwmpasu digwyddiadau tipio anghyfreithlon ar dir preifat, ac ni gofnodir pob digwydd tipio anghyfreithlon gydag awdurdod lleol.Mae'r costau ar gyfer y categorïau maint (eitemau unigol, bagiau du sengl, cist car neu lai, llwythi fan fach a llwythi fan transit) yn cael eu gosod yn y system yn seiliedig ar gyfartaleddau cenedlaethol. Ar gyfer y categorïau eraill (llwyth lori tipio a llwythi lluosog arwyddocaol), roedd y costau yn cael eu cofnodi gan yr awdurdod lleol. Gan fod y costau hyn yn amrywio, ni fydd cynnydd neu ostyngiad yn nifer yr achosion o reidrwydd yn cael yr un codiad neu ostyngiad mewn costau.
Dylid nodi nad yw erlyniadau o reidrwydd yn digwydd yn yr un flwyddyn a'r digwyddiad tipio anghyfreithlon.
Er nad ydynt bellach yn cael eu dynodi'n "Ystadegau Gwladol", maent yn parhau i gael eu cyhoeddi yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau Swyddogol.
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
2006-07 ymlaenDefnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Caiff data ar dipio anghyfreithlon ei gasglu er mwyn cynorthwyo Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol a sefydliadau eraill i fonitro'r sefyllfa yng Ngymru.Gwybodaeth am ddiwygiadau
Nodir y diwygiadau gydag (r).Teitl
Tipio anghyfreithion a gofnodwyd gan awdurdodau lleolDiweddariad diwethaf
Tachwedd 2024Diweddariad nesaf
Tachwedd 2025Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
WasteDataFlow, Cyfoeth Naturiol CymruCyswllt ebost
ystadegau.amgylchedd@llyw.cymruDynodiad
DimLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegAllweddeiriau
Tipio anghyfreithlonAnsawdd ystadegol
Mae'r ystadegau yn seiliedig ar wybodaeth a ddarperir gan awdurdodau lleol i’r gronfa ddata ‘Waste Data Flow’. Nid yw'r ystadegau yn cwmpasu digwyddiadau tipio anghyfreithlon ar dir preifat, ac ni gofnodir pob digwydd tipio anghyfreithlon gydag awdurdod lleol.Ceir gwybodaeth bellach yn yr Adroddiad Ansawdd.