Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio diffiniadau sectorau gwahanol o fewn Cyllideb Garbon 2 Cymru Sero Net (2021 i 2025) ac mae'n debygol y bydd yn gwneud hynny ar gyfer cynlluniau cyllideb garbon yn y dyfodol.
Casgliad data a dull cyfrifo
Mae holl amcangyfrifon yr allyriadau yn cynnwys basged o nwyon ty gwydr 7 Kyoto mewn cilodunnelli o garbon deuocsid cyfatebol gan ddefnyddio gwerthoedd posibl cynhesu byd-eang AR5.
Mae rhaglen parhaus o waith ymchwil a gwella'r rhestr yn sicrhau bod y rhestr yn adlewyrchu'r dealltwriaeth wyddonol ddiweddaraf a’r cytundebau rhyngwladol diweddaraf ar gofnodi allyriadau. Bob blwyddyn mae'r set ddiweddaraf o ddata yn cael ei ychwanegu at y rhestr a'r gyfres lawn yn cael ei ddiweddaru gan gymryd i ystyriaeth gwell data ac unrhyw ddatblygiadau o ran y fethodoleg a ddefnyddiwyd i amcangyfrif yr allyriadau. Mae diweddaru'r gyfres llawn, gan ail-gyfrifo lle bo angen, yn broses bwysig gan ei fod yn sicrhau bod y set ddata allyriadau llawn yn seiliedig ar y data diweddaraf sydd ar gael, a bod yr amcangyfrifon yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio dull cyson ar draws y gyfres llawn .
Allweddeiriau
Allyriadau nwyon ty gwydr
Ansawdd ystadegol
Mae'r cynhyrchwyr yn cael eu harchwilio ac mae’r ffynhonnell yn destun rhaglen flynyddol o adolygiadau trylwyr arbenigol (CU, yr UE), ac adolygiadau dwyochrog a chyfoedion. Mae'r gweithgareddau hyn yn dadansoddi'r dulliau, tybiaethau a’r ffynonellau sy'n sail i gyflwyniadau’r DU ac asesu'r tryloywder, cywirdeb, cyflawnder, cysondeb a chymaroldeb (yn erbyn gwledydd adrodd eraill) o'r rhestr DU.