

None
|
Metadata
Teitl
Arolwg Poblogaeth Blynyddol: AnableddDiweddariad diwethaf
Ionawr 2022Diweddariad nesaf
Tachwedd 2022Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, y Swyddfa Ystadegau GwladolCyswllt ebost
ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau arbrofolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Rhanbarthau economaidd Llywodraeth CymruCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegAnsawdd ystadegol
Mae ymatebion i’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol (APS) yn cael eu pwysoli i ragamcaniadau poblogaeth swyddogol. Roedd y rhagamcaniadau ar gyfer 2020 yn seiliedig ar 2018, ac, felly, roeddent yn seiliedig ar dueddiadau demograffig a oedd yn rhagddyddio’r pandemig COVID-19. Er mwyn caniatáu ar gyfer gwahanol dueddiadau yn ystod y pandemig, mae'r ymatebion ar gyfer yr APS wedi'u hail-bwysoli ar 9 Medi 2021 i boblogaethau newydd sy'n deillio o gyfraddau twf o Wybodaeth Amser Real (RTI) o Refeniw a Thollau EM (HMRC). Mae'r ail-bwysoli wedi'i gymhwyso o'r flwyddyn data sy’n diweddu Mawrth 2020 ymlaen ac mae'n rhoi amcangyfrifon gwell o'r cyfraddau a'r lefelau. Dylai'r newidiadau mae'r SYG wedi'u gwneud i'r pwysoli leihau gogwydd yr amcangyfrifon ar lefelau uchel o gyfanrediadau. Efallai y bydd rhai dadansoddiadau llai yn cael eu heffeithio'n negyddol a gellir gweld newidiadau mwy eithafol o ystyried maint llai y sampl sylfaenol ers dechrau'r pandemig.Gan fod y data yn dod o arolwg, mae’r canlyniadau yn amcangyfrifon sy’n seiliedig ar sampl ac felly yn ddarostyngedig i wahanol raddau o amrywioldeb samplu, h.y. mae’r gwir werth unrhyw fesur yn gorwedd mewn amrywiaeth gwahanol am y gwerth a amcangyfrifwyd. Mae’r amrediad neu amrywioldeb samplu yn cynyddu wrth i'r manylder yn y data gynyddu, er enghraifft mae data awdurdodau lleol yn destun i amrywioldeb uwch na data rhanbarthol.