Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Ystadegau Gwladol Crynodeb o weithgarwch economaidd yng Nghymru yn ôl blwyddyn a statws anabl, o Ebrill 2013
None
Oed[Hidlwyd]
[Lleihau]Rhyw[Hidlwyd]
-
Rhyw 1[Hidlo]
[Lleihau]Ardal[Hidlwyd]
-
[Lleihau]Ardal 1[Hidlo]
-
Ardal 2[Hidlo]
Measure2
[Lleihau]Statws Anabledd[Hidlo]
-
Statws Anabledd 1
[Lleihau]Mesur[Hidlwyd]
-
[Lleihau]Mesur 1
-
Mesur 2
Blwyddyn(Esgynnol)[Hidlwyd]
[Lleihau]Cyfanswm
[Lleihau]AnablMae hyn yn cynnwys personau sy\'n anabl yn ôl diffiniad Deddf Cydraddoldeb 2010 o anabledd.[Lleihau]Nad ydynt yn anablMae hyn yn cynnwys pobl nad ydynt yn anabl yn ôl diffiniad Deddf Cydraddoldeb 2010 o anabledd.
[Ehangu]Cliciwch yma i ddidoliCyfradd gweithgaredd economaidd[Ehangu]Cliciwch yma i ddidoliCyfradd cyflogaeth[Ehangu]Cliciwch yma i ddidoliCyfradd anweithgarwch economaidd[Ehangu]Cliciwch yma i ddidoliCyfradd gweithgaredd economaidd[Ehangu]Cliciwch yma i ddidoliCyfradd cyflogaeth[Ehangu]Cliciwch yma i ddidoliCyfradd anweithgarwch economaidd
Blwyddyn sy'n dod i ben ar 31 Rha 201449.343.150.781.476.518.6
Blwyddyn sy'n dod i ben ar 31 Rha 201548.242.651.882.378.017.7
Blwyddyn sy'n dod i ben ar 31 Rha 201648.344.051.782.078.618.0
Blwyddyn sy'n dod i ben ar 31 Rha 201750.645.649.483.079.717.0
Blwyddyn sy'n dod i ben ar 31 Rha 201851.947.348.183.880.616.2
Blwyddyn sy'n dod i ben ar 31 Rha 201953.548.946.583.480.516.6
Blwyddyn sy'n dod i ben ar 31 Rha 202052.148.047.982.580.017.5
Blwyddyn sy'n dod i ben ar 31 Rha 202152.347.847.783.880.916.2
Blwyddyn sy'n dod I ben ar 31 Rha 202252.248.947.884.182.215.9
Blwyddyn sy'n dod I ben ar 31 Rha 202355.051.645.085.182.314.9

Metadata

Teitl

Crynodeb o weithgarwch economaidd yn ôl statws anabl o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth / Arolwg o'r Llafurlu Lleol

Diweddariad diwethaf

11 Ebrill 2024 11 Ebrill 2024

Diweddariad nesaf

Gorffennaf 2024

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Cyswllt ebost

Ystadegau.MarchnadLafur@llyw.cymru

Dynodiad

Ystadegau Gwladol

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Awdurdodau lleol

Cwmpas daearyddol

Cymru

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Disgrifiad cyffredinol

Mae’r data yn y set ddata hon yn ymdrin â gweithgarwch economaidd personau yn ôl statws anabledd. Gan nad yw’r cwestiwn ar anabledd ond yn ymdrin â phobl o oedran gweithio yn yr arolwg, mae’r set ddata hon wedi’i chyfyngu i ddadansoddiad o’r boblogaeth oedran gweithio. Nid yw’r data ar gyfer y boblogaeth 16 oed a throsodd, a ystyrir hefyd fel arfer wrth fesur gweithgarwch economaidd, ar gael.

*NODWCH* O 2010 i 2020 mae oedran pensiwn y wladwriaeth i fenywod yn newid o 60 i 65. Newidiodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol lwybro’r cwestiynau ar anabledd fel y gofynnwyd y cwestiynau hynny i bob person rhwng 16 a 64 oed o 2010 ymlaen. Cyn hynny gofynnwyd y cwestiynau hyn dim ond i fenywod rhwng 16 a 59 oed ac i ddynion rhwng 16 a 64 oed ac i’r rheiny mewn cyflogaeth. Felly mae data cyn 2010 ar sail oedran gweithio (16-59/64) ac mae data ar ôl hynny ar gael ar sail 16-64 ac ar sail oedran gweithio. Ni ddylid gwneud cymariaethau rhwng y data oedran gweithio cyn 2010 a’r data 16-64 ar ôl 2010. Ar gyfer cyfresi rhediad hir dylid defnyddio’r data oedran gweithio.

Ym mis Ebrill 2013 mabwysiadodd Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol gwestiwn safonedig newydd am unigolion â phroblemau iechyd. Mae hyn wedi arwain at ddiffyg parhad yn y gyfres rhwng yr ymatebion ar gyfer Mawrth 2013 ac Ebrill 2013. Bydd hyn yn golygu bod y setiau data ar gyfer Gorffennaf 2012 i Fehefin 2013, Hydref 2012 i Fedi 2013 ac Ionawr 2013 i Ragfyr 2013 yn cynnwys ymatebion ar ddwy sail wahanol dros gyfnod pob set ddata. Oherwydd y diffyg parhad hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu dilyn dull y Swyddfa Ystadegau Gwladol o atal y gyfres hon hyd nes bod data blwyddyn gyfan ar gael ar yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth a bydd yn lansio cyfres newydd wedi’i seilio ar y cwestiynau newydd o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth o Ebrill 2013 i Fawrth 2014. Bydd y cyfresi newydd hyn yn dal i fod â diffyg parhad o’u cymharu â’r hen gyfresi ond byddant yn gyson yn fewnol.


Casgliad data a dull cyfrifo

Mae'n bosibl na fydd y ffigurau ar gyfer awdurdodau lleol a Chymru ar gyfer 2001, 2002 a 2003 yn y tablau hyn yr un peth â ffigurau a gyhoeddwyd mewn mannau eraill, gan fod y niferoedd yma'n cael eu hamcangyfrif gan ddefnyddio pwysoli penodol i Gymru. Mae'r pwysoli hwn yn adlewyrchu'n well yr amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru yn y blynyddoedd hyn.

Cymerir y data hyn o'r setiau data BLYNYDDOL o'r Arolwg o'r Llafurlu a gynhelir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), gan ddarparu data'r farchnad lafur yn ôl statws anabledd yn ôl i 1998 ar gyfer yr ardaloedd NUTS2 yng Nghymru, ac yn ôl i 2001 ar gyfer yr awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae argaeledd data awdurdodau lleol yn dibynnu ar sampl gwell (oddeutu 350 y cant yn fwy) ar gyfer yr Arolwg blynyddol o'r Llafurlu, a ddechreuodd yn 2001.

Ar gyfer y blynyddoedd sydd wedi'u labelu 1998 i 2004 yn y set ddata hon, y gwir gyfnodau yr ymdrinnir â hwy yw'r 12 mis sy'n rhedeg o fis Mawrth yn y flwyddyn a nodir i fis Chwefror yn y flwyddyn ganlynol (e.e. 2001 = 1 Mawrth 2001 i 28 Chwefror 2002).

Ers 2004, mae'r data blynyddol wedi cael eu cynhyrchu fel data blynyddol treigl, sy'n cael eu diweddaru bob tri mis, ac erbyn hyn cyfeirir at y set ddata fel yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth. Mae'r cyfartaleddau blynyddol treigl yn dilyn y calendr ac mae'r cyfartaledd blynyddol treigl cyntaf a ddangosir yma yn ymdrin â'r cyfnod 1 Ionawr 2004 i 31 Rhagfyr 2004, ac wedyn data sy'n ymdrin â'r cyfnod 1 Ebrill 2004 i 31 Mawrth 2005, gyda diweddariadau chwarterol treigl wedi hynny.

Nodwch felly bod y cyfartaleddau blynyddol treigl olynol yn gorgyffwrdd gan naw mis, a bod gorgyffyrddiad o ddeufis hefyd rhwng y cyfnod olaf a ddangosir ar hen sail Mawrth i Chwefror, a’r cyfnod cyntaf ar y sail newydd.

Mae’r data yn y set ddata hon yn ymdrin â gweithgarwch economaidd personau yn ôl statws anabledd. Gan nad yw’r cwestiwn ar anabledd ond yn ymdrin â phobl o oedran gweithio yn yr arolwg, mae’r set ddata hon wedi’i chyfyngu i ddadansoddiad o'r boblogaeth oedran gweithio. Nid yw’r data ar gyfer y boblogaeth 16 oed a throsodd, a ystyrir hefyd fel arfer wrth fesur gweithgarwch economaidd, ar gael.

Nomis yw'r porth swyddogol y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer ystadegau'r farchnad lafur. Sylwer y gall rhai amcangyfrifon o Nomis ar gyfer yr APS fod yn ychydig yn wahanol i'r rhai a gyflwynir yma, oherwydd y gwahaniaethau yn y ffordd mae’r daearyddiaethau awdurdodau lleol yn cael eu hadeiladu.

Amlder cyhoeddi

Chwarterol

Cyfnodau data dan sylw

2014 i 2023

Talgrynnu wedi'u ddefnyddio

Mae'r ffigurau wedi'u talgrynnu i'r 100 agosaf ac felly mae'n bosibl y bydd rhai mân anghysondebau ymddangosiadol rhwng swm yr eitemau sy'n rhan ohonynt a'r cyfansymiau fel y'u dangosir.

Allweddeiriau

Marchnad Lafur; Anabledd

Ansawdd ystadegol

Mae ymatebion i’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol (APS) yn cael eu pwysoli i ragamcaniadau poblogaeth swyddogol. Roedd y rhagamcaniadau ar gyfer 2020 yn seiliedig ar 2018, ac, felly, roeddent yn seiliedig ar dueddiadau demograffig a oedd yn rhagddyddio’r pandemig COVID-19.
Er mwyn caniatáu ar gyfer gwahanol dueddiadau yn ystod y pandemig, mae'r ymatebion ar gyfer yr APS wedi'u hail-bwysoli ar 9 Medi 2021 i boblogaethau newydd sy'n deillio o gyfraddau twf o Wybodaeth Amser Real (RTI) o Refeniw a Thollau EM (HMRC). Mae'r ail-bwysoli wedi'i gymhwyso o'r flwyddyn data sy’n diweddu Mawrth 2020 ymlaen ac mae'n rhoi amcangyfrifon gwell o'r cyfraddau a'r lefelau.
Dylai'r newidiadau mae'r SYG wedi'u gwneud i'r pwysoli leihau gogwydd yr amcangyfrifon ar lefelau uchel o gyfanrediadau. Efallai y bydd rhai dadansoddiadau llai yn cael eu heffeithio'n negyddol a gellir gweld newidiadau mwy eithafol o ystyried maint llai y sampl sylfaenol ers dechrau'r pandemig.
Gan fod y data'n dod o arolwg, mae'r canlyniadau'n amcangyfrifon wedi'u seilio ar samplau ac felly'n destun graddau gwahanol o amrywioldeb samplu, h.y. mae'r gwir werth ar gyfer unrhyw fesur mewn ystod wahanol o amgylch y gwerth amcangyfrifedig. Mae'r ystod neu amrywioldeb samplu hwn yn cynyddu wrth i'r manylder yn y data gynyddu, er enghraifft mae mwy o amrywioldeb yn nata awdurdodau lleol unigol nag yn y data ar gyfer Cymru.