Mae'r ffigurau a ddangosir yn ymwneud â cyfartaleddau aml-flwyddyn, fel nodwyd
Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae'r ffigurau wedi'u talgrynnu i'r 100 agosaf ac felly mae'n bosibl y bydd rhai mân anghysondebau ymddangosiadol rhwng swm yr eitemau sy'n rhan ohonynt a'r cyfansymiau fel y'u dangosir.
Mae ymatebion i’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol (APS) yn cael eu pwysoli i ragamcaniadau poblogaeth swyddogol. Roedd y rhagamcaniadau ar gyfer 2020 yn seiliedig ar 2018, ac, felly, roeddent yn seiliedig ar dueddiadau demograffig a oedd yn rhagddyddio’r pandemig COVID-19. Er mwyn caniatáu ar gyfer gwahanol dueddiadau yn ystod y pandemig, mae'r ymatebion ar gyfer yr APS wedi'u hail-bwysoli ar 9 Medi 2021 i boblogaethau newydd sy'n deillio o gyfraddau twf o Wybodaeth Amser Real (RTI) o Refeniw a Thollau EM (HMRC). Mae'r ail-bwysoli wedi'i gymhwyso o'r flwyddyn data sy’n diweddu Mawrth 2020 ymlaen ac mae'n rhoi amcangyfrifon gwell o'r cyfraddau a'r lefelau. Dylai'r newidiadau mae'r SYG wedi'u gwneud i'r pwysoli leihau gogwydd yr amcangyfrifon ar lefelau uchel o gyfanrediadau. Efallai y bydd rhai dadansoddiadau llai yn cael eu heffeithio'n negyddol a gellir gweld newidiadau mwy eithafol o ystyried maint llai y sampl sylfaenol ers dechrau'r pandemig.
Gan fod y data yn dod o arolwg, mae’r canlyniadau yn amcangyfrifon sy’n seiliedig ar sampl ac felly yn ddarostyngedig i wahanol raddau o amrywioldeb samplu, h.y. mae’r gwir werth unrhyw fesur yn gorwedd mewn amrywiaeth gwahanol am y gwerth a amcangyfrifwyd. Mae’r amrediad neu amrywioldeb samplu yn cynyddu wrth i'r manylder yn y data gynyddu, er enghraifft mae data awdurdodau lleol yn destun i amrywioldeb uwch na data rhanbarthol.