Yn y tabl hwn ceir data ar nifer yr achosion o feichiogi a arweiniodd at naill ai enedigaeth fyw neu farw-enedigaeth, neu derfynu beichiogrwydd drwy erthyliad cyfreithlon. Amcangyfrifon yw’r ffigurau beichiogi, a gafwyd drwy gyfuno gwybodaeth gofrestru genedigaethau a hysbysu am erthyliadau cyfreithlon. Nid ydynt yn cynnwys camesgoriadau nac erthyliadau anghyfreithlon. Amcangyfrifir y dyddiad beichiogi drwy ddefnyddio cofnodion hyd y beichiogrwydd ar gyfer erthyliadau a marw-enedigaethau, a rhagdybio 38 wythnos ar gyfer genedigaethau byw. Mae’r ffigurau beichiogrwydd yn ymwneud â thrigolion ardal arbennig.