

None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Yn y tabl hwn ceir data ar nifer yr achosion o feichiogi a arweiniodd at naill ai enedigaeth fyw neu farw-enedigaeth, neu derfynu beichiogrwydd drwy erthyliad cyfreithlon.Amcangyfrifon yw’r ffigurau beichiogi, a gafwyd drwy gyfuno gwybodaeth gofrestru genedigaethau a hysbysu am erthyliadau cyfreithlon. Nid ydynt yn cynnwys camesgoriadau nac erthyliadau anghyfreithlon. Amcangyfrifir y dyddiad beichiogi drwy ddefnyddio cofnodion hyd y beichiogrwydd ar gyfer erthyliadau a marw-enedigaethau, a rhagdybio 38 wythnos ar gyfer genedigaethau byw. Mae’r ffigurau beichiogrwydd yn ymwneud â thrigolion ardal arbennig.