Amddifadedd ar lefel Clwstwr Meddygon Teulu
None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Dolenni'r we
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Mae hyn yn dangos nifer y bobl sydd wedi'u cofrestru gyda phractisau meddygon teulu ym mhob clwstwr gofal sylfaenol yng Nghymru (poblogaeth y clwstwr). Mae'n dangos hefyd nifer a chanran y cleifion sydd wedi'u cofrestru gyda phractisau yn y clwstwr sy'n byw yn yr 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) a chwintel amddifadedd y clwstwr. Mae dau ddull o gyfrifo cwintel amddifadedd y practis wedi'u cynnwys. Yn ogystal, darperir y cyfrifiad o staff cyfwerth ag amser llawn sy'n gweithio mewn practisau yn y clwstwr.Casgliad data a dull cyfrifo
Darperir data ar boblogaeth practisau gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ac mae'n gipolwg ar un adeg benodol.Cafodd ardaloedd cynnyrch ehangach haen is (ACEHI) preswyl ar gyfer cleifion a gofrestrwyd i bob practis cyffredinol eu paru â Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2019 er mwyn cyfrif nifer y cleifion sy'n byw yn yr 20% mwyaf difreintiedig o ACEHI fel y'u pennwyd gan eu safle MALlC. Cafodd data practisau cyffredinol eu cyfuno â chlystyrau gofal sylfaenol a chrëwyd safleoedd yn seiliedig ar ddau ddull mesur er mwyn amcangyfrif amddifadedd ar lefel clwstwr gofal sylfaenol. Y rhain oedd:
1) Nifer y cleifion sydd wedi'u cofrestru gyda'r practis cyffredinol yn y clwstwr sy'n byw yn yr 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
2) Canran poblogaeth pob clwstwr sy'n byw yn yr 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
O ran data'r gweithlu, defnyddir y data sy'n cyd-fynd agosaf â chyfnod cyfeirio data poblogaeth y practis. Mae data'r gweithlu ar 31 Rhagfyr 2021 yn gysylltiedig â phob practis yn echdyniad poblogaeth practis Ionawr 2022. Ar gyfer data poblogaeth practisau mis Ebrill, defnyddir data’r gweithlu ar 31 Mawrth o’r un flwyddyn.
Nid fydd data poblogaeth practisau ar gyfer 2023 ymlaen a ddefnyddir yn y dadansoddiad amddifadedd o reidrwydd yn cyd-fynd â data cyhoeddedig am boblogaeth practisau ar gyfer yr un cyfnod. Mae'r data cyhoeddedig yn defnyddio mapio diweddaraf LSOA 2021. Er hynny, gan fod y dadansoddiad amddifadedd yn dibynnu ar MALIC 2019 sy'n defnyddio mapio LSOA 2011, roedd angen i'r dadansoddiad amddifadedd hefyd gyplysu poblogaethau practisau 2023 ymlaen ag LSOA 2011 ac o'r herwydd ni chafodd nifer bach o gleifion eu cyplysu.
Ionawr 2022, Ebrill 2023 a Ebrill 2024 data:
Oedd 63 o glystyrau. Gan na ellir rhannu 63 â 5 i rif cyfan, nid yw'r cwintelau'n cynnwys yr un nifer o glystyrau yn union. Mae 13 clwstwr ar gyfer cwintel 1, 3 a 5 ac 12 clwstwr ar gyfer gweddill y cwintelau. Defnyddir cwintelau i ddadansoddi grwpiau cymharol debyg o glystyrau, gyda chwintel clwstwr 1 yn cynnwys y 13 clwstwr sydd â'r poblogaethau mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Defnyddir MALlC 2019 i bennu'r 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.Mae'r data ar gyfer poblogaethau practisau yn cyfeirio at fis Ionawr 2022 a mis Ebrill ar gyfer blynyddoedd dilynol.
Data gweithlu practisau: Mae data'r gweithlu ar gyfer 31 Rhagfyr 2021 yn gysylltiedig â data poblogaeth practisau ar gyfer Ionawr 2022. Ar gyfer data poblogaeth practisau mis Ebrill, mae data’r gweithlu’n ymwneud â 31 Mawrth o’r un flwyddyn.
Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Diben y data hyn yw darparu opsiynau ar gyfer dadansoddi amddifadedd cymharol y boblogaeth sydd wedi'i chofrestru gyda phob practis cyffredinol ym mhob clwstwr gofal sylfaenol yng Nghymru.Mae'r dadansoddiad yn cael ei ymestyn i ddangos sut mae gweithlu practisau cyffredinol (cyfwerth ag amser llawn) yn amrywio yn ôl amddifadedd cymharol y boblogaeth yng Nghymru.
Mae penderfynu pa ddull mesur sydd fwyaf priodol i'w ddefnyddio yn dibynnu ar ddiben yr hyn y defnyddir y mesur ar ei gyfer. Argymhellir defnyddio dulliau mesur 'rhif' wrth dargedu'r nifer fwyaf o bobl sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig, tra ei bod yn fwy priodol defnyddio'r dulliau mesur 'canrannol' wrth dargedu'r crynodiad uchaf o bobl sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig.
Er bod y canlyniadau ar lefel practis a chlwstwr yn weddol debyg, bydd y data ar lefel practis yn darparu dadansoddiad mwy gronynnog o amddifadedd. Mae clystyrau'n grwpio practisau, felly er y gall rhai wasanaethu poblogaethau tebyg yn fras, mae'n anochel y bydd gan rai practisau boblogaeth fwy difreintiedig nag eraill yn yr un clwstwr. Efallai y bydd dadansoddiad o glystyrau’n fwyaf priodol wrth dargedu ardaloedd ehangach, ond gall y darlun manylach gael ei guddio wrth gyfuno data ar gyfer practisau unigol.
Teitl
Amddifadedd ar lefel Clwstwr Meddygon TeuluDiweddariad diwethaf
23 Gorffennaf 2024Diweddariad nesaf
I gael ei gadarnhauSefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Gwasanaethau Contractwyr, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG CymruFfynhonnell 2
Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
System Adrodd Genedlaethol ar gyfer Gweithlu CymruCyswllt ebost
ystadegau.iechyd@llyw.cymruCwmpas daearyddol
Byrddau iechyd lleolTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegAnsawdd ystadegol
Mae cwmpas ac ansawdd y data a ddefnyddir yn y tablau hyn yn dda. Mae pob practis meddyg teulu sydd â chontractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (GMC) ar adeg echdynnu data wedi'i gynnwys. Mae data ar boblogaeth practisau ar gael ar gyfer pob practis.Nid oedd canran fach o ddata wedi'i chynnwys yn y dadansoddiad.
Gan fod MALIC yn fesur o amddifadedd sy'n berthnasol i Gymru yn unig, ni ellid cynnwys trigolion Lloegr yn y model. Gan fod gennym ddata wedi'i gasglu ar gyfer practisau cyffredinol yng Nghymru wedi’i gasglu ar sail gyson, nid yw practisau Lloegr wedi'u cynnwys, ac felly ni fydd unrhyw breswylwyr o Gymru sydd wedi'u cofrestru mewn practisau yn Lloegr yn cael eu cynnwys. Er mwyn rhoi cyd-destun, yn yr echdyniad ar Ebrill 2024 roedd 21,067 o gleifion wedi'u cofrestru i bractisau cyffredinol yng Nghymru a oedd yn byw yn Lloegr, ac roedd 13,339 o gleifion wedi'u cofrestru mewn practisau cyffredinol yn Lloegr a oedd yn byw yng Nghymru.
Pan fo claf yn byw yn Lloegr ond wedi'i gofrestru i feddygfa yng Nghymru, yn y dadansoddiad hwn cânt eu tynnu oddi ar restr y practis hwnnw o faint y boblogaeth hefyd, er mwyn peidio â chamgyfrif canran y cleifion sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig.
Nid yw cleifion sydd wedi'u cofrestru mewn practisau nad ydynt yn rhai GMC wedi'u cynnwys yn y dadansoddiad ychwaith.
Mae cleifion sydd wedi'u cofrestru mewn practisau yng Nghymru a oedd â data coll ar lefel LSOA hefyd wedi'u hepgor o'r dadansoddiad; roedd 108 o gleifion yn y data ar gyfer Ionawr 2022, 43 o gleifion yn y data ar gyfer mis Ebrill 2023 a 49 o gleifion yn y data ar gyfer mis Ebrill 2024.
Allweddeiriau
Clwstwr, cwintel amddifadedd, gofal sylfaenol, MALIC, gweithlu meddygon teuluDolenni'r we
https://llyw.cymru/mynegai-amddifadedd-lluosog-cymruhttps://llyw.cymru/gweithlu-practis-cyffredinol
https://llyw.cymru/poblogaeth-gweithlu-clwstwr-practisau-cyffredinol-gofal-sylfaenol-yn-ol-amddifadedd-ar-31-rhagfyr-2021