Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Ystadegau Arbrofol Amcangyfrif o nifer yr apwyntiadau a fynychir yn ôl cyfuniad o modd, math o ymarferwr, a rheswm dros apwyntiad, a mis
None
Math o ymarferwr[Hidlwyd]
Rheswm[Hidlwyd]
Modd[Hidlwyd]
Measure1
[Lleihau]Mis[Hidlo]
-
Mis 1
Mesur[Hidlo]
[Ehangu]Cliciwch yma i ddidoliHyd-21[Ehangu]Cliciwch yma i ddidoliTach-21[Ehangu]Cliciwch yma i ddidoliRhag-21[Ehangu]Cliciwch yma i ddidoliIon-22[Ehangu]Cliciwch yma i ddidoliChwef-22[Ehangu]Cliciwch yma i ddidoliMaw-22[Lleihau] Cliciwch yma i ddidoli Total[Lleihau] Cliciwch yma i ddidoli Total[Lleihau] Cliciwch yma i ddidoli Total
Cliciwch yma i ddidoliEbr-22Cliciwch yma i ddidoliMai-22Cliciwch yma i ddidoliMeh-22Cliciwch yma i ddidoliGorff-22Cliciwch yma i ddidoliAwst-22Cliciwch yma i ddidoliMedi-22Cliciwch yma i ddidoliHyd-22Cliciwch yma i ddidoliTach-22Cliciwch yma i ddidoliRhag-22Cliciwch yma i ddidoliIon-23Cliciwch yma i ddidoliChwef-23Cliciwch yma i ddidoliMaw-23Cliciwch yma i ddidoliEbr-23Cliciwch yma i ddidoliMai-23Cliciwch yma i ddidoliMeh-23Cliciwch yma i ddidoliGorff-23Cliciwch yma i ddidoliAwst-23Cliciwch yma i ddidoliMedi-23Cliciwch yma i ddidoliHyd-23Cliciwch yma i ddidoliTach-23Cliciwch yma i ddidoliRhag-23Cliciwch yma i ddidoliIon-24Cliciwch yma i ddidoliChwef-24Cliciwch yma i ddidoliMaw-24Cliciwch yma i ddidoliEbr-24Cliciwch yma i ddidoliMai-24Cliciwch yma i ddidoliMeh-24Cliciwch yma i ddidoliGorff-24Cliciwch yma i ddidoliAwst-24Cliciwch yma i ddidoliMedi-24Cliciwch yma i ddidoliHyd-24Cliciwch yma i ddidoliTach-23Cliciwch yma i ddidoliRhag-24Cliciwch yma i ddidoliIon-25Cliciwch yma i ddidoliChwef-25Cliciwch yma i ddidoliMaw-25
Nifer yr apwyntiadau a fynychwyd 1,812,9271,812,9751,510,5771,460,8641,511,6511,742,2871,447,6041,580,9841,543,6321,534,2571,585,1761,645,2421,926,0931,822,0611,617,9411,626,7891,508,2641,720,01419,558,0571,348,9271,515,4491,569,0211,497,9801,490,8491,582,3301,839,0821,637,4861,286,7081,669,7981,557,0541,498,56018,493,2441,613,9141,532,5131,413,9991,564,7331,363,9531,454,8411,912,9611,542,5751,380,5701,547,0481,372,3811,445,28518,144,773
Nifer cyfartalog yr apwyntiadau a fynychwyd fesul diwrnod gwaith 86,33082,40871,93273,04375,58375,75276,19075,28577,18273,06072,05378,34591,71982,82180,89777,46675,41374,78377,92174,94075,77271,31971,33267,76675,34983,59574,43167,72175,90074,14574,92873,97376,85372,97770,70068,03264,95069,27883,17273,45669,02970,32068,61968,82371,436

Metadata

Teitl

Amcangyfrif o nifer yr apwyntiadau a fynychir yn ôl cyfuniad o modd, math o ymarferwr, a rheswm dros apwyntiad, a mis

Diweddariad diwethaf

19 Rhagfyr 2024 19 Rhagfyr 2024

Diweddariad nesaf

I gael ei gadarnhau

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Porth gwybodaeth gofal sylfaenol, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Cyswllt ebost

ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Dynodiad

Ystadegau arbrofol

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Clwstwr

Cwmpas daearyddol

Cymru

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Allweddeiriau

gweithgaredd practis cyffredinol, apwyntiadau

Disgrifiad cyffredinol

Mae hyn yn dangos y nifer amcangyfrifedig misol o apwyntiadau lle’r oedd y claf yn bresennol drwy gyfuniad o ddull ymgynghori, math o ymarferydd a’r rheswm dros yr apwyntiad, mesur (nifer yr apwyntiadau lle’r oedd y claf yn bresennol neu nifer cyfartalog yr apwyntiadau lle’r oedd y claf yn bresennol fesul diwrnod gwaith) ac ardal (bwrdd iechyd a chlwstwr).

Casgliad data a dull cyfrifo

Mae’r term ‘apwyntiad’ yn cyfeirio at yr holl weithgareddau sy’n gysylltiedig â chleifion a gofnodir yn llyfr apwyntiadau practis cyffredinol. Bydd mwyafrif helaeth y gweithgareddau a gofnodir yn apwyntiadau traddodiadol lle mae claf yn cael ymgynghoriad â meddyg teulu, nyrs neu weithiwr iechyd proffesiynol arall. Bydd y term hefyd yn cwmpasu rhai gweithgareddau eraill y mae staff yn eu cyflawni ar gyfer cleifion, ond heb gynnal ymgynghoriad (fel adolygiad o feddyginiaethau) os byddant wedi’u cofnodi yn y llyfr apwyntiadau. Ni fydd yn cwmpasu unrhyw weithgareddau sy’n gysylltiedig â chleifion nad ydynt wedi’u cofnodi yn y llyfr apwyntiadau.

Fel rhan o brosiect gwella ansawdd data gweithgareddau’r Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd (QAIF) ar gyfer 2021-22, gofynnwyd i bractisau gategoreiddio apwyntiadau yn ôl dull, math o ymarferydd a rheswm dros yr ymgynghoriad gan ddefnyddio’r Porth Gwybodaeth Gofal Sylfaenol. Daeth yn ofynnol i bractisau ymgymryd â’r ymarfer hwn ar gyfer data o fis Gorffennaf 2022 ymlaen.

Apwyntiadau wyneb yn wyneb yw’r rhai lle mae’r claf yn bresennol yn bersonol yn y practis. Apwyntiadau o bell yw’r rhai a gynhelir dros y ffôn neu drwy alwad fideo. Bydd apwyntiadau ymweliadau â’r cartref yn cynnwys apwyntiadau lle mae staff y practis yn ymweld â phreswylfa’r claf sy’n cynnwys sefydliadau byw cymunol fel cartrefi nyrsio.

Dylai apwyntiadau â meddyg teulu ac â phresgripsiynydd annibynnol gwmpasu apwyntiadau â phob math o feddygon teulu, gan gynnwys cofrestryddion mewn practis cyffredinol, yn ogystal ag apwyntiadau â staff fel uwch-ymarferwyr nyrsio, fferyllwyr a ffisiotherapyddion sydd wedi cymhwyso i roi presgripsiynau fel y diffinnir gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.

Dylai apwyntiadau â nyrsys, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, neu â rolau clinigol eraill gwmpasu apwyntiadau â staff clinigol sydd wedi cofrestru â chorff proffesiynol (er enghraifft, nyrsys sydd wedi cofrestru â’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth) ond nad ydynt wedi cymhwyso i roi presgripsiynau. Ni ddylent gynnwys enghreifftiau o ryngweithio â staff gweinyddol neu staff cymorth anghlinigol.

Mae apwyntiadau sy’n cael eu dosbarthu yn ôl eu rheswm yn rhai ar gyfer cyflyrau cronig, a gynlluniwyd, neu gyflyrau nad ydynt yn acíwt fel arfer yn rhai ar gyfer cyflyrau sy’n bodoli eisoes ac sy’n barhaus ers cyfnod hirach o amser ac maen nhw’n cael eu rheoli fel clefydau cronig. Ar y llaw arall, mae cyflyrau brys neu acíwt fel arfer yn rhai sydd wedi digwydd dros y tymor byr. Gall rheswm claf dros drefnu apwyntiad fod yn gymhleth a dylai staff sy’n cofnodi’r wybodaeth hon farnu yn y ffordd orau wrth gategoreiddio’r rheswm dros yr apwyntiad. Fel arfer, byddai hyn yn cael ei wneud gan aelod gweinyddol o staff am resymau clinigol ac yn amodol ar gael ei newid, yn dilyn cyngor gan y gweithiwr iechyd proffesiynol sy’n darparu’r apwyntiad neu reolwr y practis.

Amlder cyhoeddi

Chwarterol

Cyfnodau data dan sylw

Mae’r data yn berthnasol i’r mis penodedig.

Gwybodaeth am ddiwygiadau

Mae data ar gyfer y cyfnod rhwng mis Hydref 2023 a mis Mehefin 2024 wedi'u diwygio yn unol â'n polisi diwygiadau cynlluniedig. Roedd newidiadau bach ar lefel Cymru, gyda newidiadau yn amrywio rhwng llai na 0.1% a 0.4% ar gyfer y data ynghylch apwyntiadau.

Nid yw’r data a gyflwynir i’r Porth Gwybodaeth Gofal Sylfaenol (PCIP) yn cael eu diwygio fel mater o drefn, ond gall practisau ail-gategoreiddio data apwyntiadau yn ôl-weithredol ar gyfer y dull ymgynghori, math o ymgynghoriad a’r rheswm dros yr apwyntiad ar unrhyw amser. Nid oes cyfyngiad ar ba mor bell yn ôl y gall practisau adolygu data a byddai unrhyw ddata a adolygwyd yn cael eu cynnwys yn PCIP y diwrnod canlynol.

Y bwriad yw y bydd ystadegwyr Llywodraeth Cymru yn prosesu data y 12 mis blaenorol ar yr un pryd â phob cyhoeddiad ystadegol chwarterol. Mae hyn yn golygu y gall y data a gyhoeddwyd ar gyfer y 12 mis blaenorol gael eu hadolygu. Bydd unrhyw adolygiadau mawr yn cael eu hamlygu yn y datganiadau ystadegol a’r tablau data.

Ni fydd data cyhoeddedig, o gyfnodau amser sy’n fwy na 12 mis cyn y cyfnod cyfeirio yn cael eu hadolygu oni bai bod gwall yn cael ei ddarganfod. Os bydd hyn yn digwydd, bydd yr adolygiad hefyd yn cael ei amlygu yn y datganiadau ystadegol a’r tablau data.

Ansawdd ystadegol

Mae rhagor o wybodaeth i’w chael yn yr adroddiad ansawdd.

Er y bydd rhywfaint o amrywioldeb o fis i fis yn y nifer amcangyfrifedig o apwyntiadau fesul diwrnod gwaith, mewn rhai achosion efallai y bydd newidiadau mwy na’r disgwyl, yn enwedig ar lefel clwstwr.