Amcangyfrif o nifer yr apwyntiadau a fynychir yn ôl categori, ardal a mis
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Amcangyfrif o nifer yr apwyntiadau a fynychir yn ôl categori, ardal a misDiweddariad diwethaf
19 Rhagfyr 2024Diweddariad nesaf
I gael ei gadarnhauSefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Porth gwybodaeth gofal sylfaenol, Iechyd a Gofal Digidol CymruCyswllt ebost
ystadegau.iechyd@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau arbrofolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
ClwstwrCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae hyn yn dangos y nifer amcangyfrifedig misol o apwyntiadau lle’r oedd y claf yn bresennol yn ôl categori’r apwyntiad (dull o ymgynghori, math o ymarferydd a’r rheswm dros yr apwyntiad), mesur (nifer yr apwyntiadau lle’r oedd y claf yn bresennol neu nifer cyfartalog yr apwyntiadau lle’r oedd y claf yn bresennol fesul diwrnod gwaith) ac ardal (bwrdd iechyd a chlwstwr).Casgliad data a dull cyfrifo
Mae’r term ‘apwyntiad’ yn cyfeirio at yr holl weithgareddau sy’n gysylltiedig â chleifion a gofnodir yn llyfr apwyntiadau practis cyffredinol. Bydd mwyafrif helaeth y gweithgareddau a gofnodir yn apwyntiadau traddodiadol lle mae claf yn cael ymgynghoriad â meddyg teulu, nyrs neu weithiwr iechyd proffesiynol arall. Bydd y term hefyd yn cwmpasu rhai gweithgareddau eraill y mae staff yn eu cyflawni ar gyfer cleifion, ond heb gynnal ymgynghoriad (fel adolygiad o feddyginiaethau) os byddant wedi’u cofnodi yn y llyfr apwyntiadau. Ni fydd yn cwmpasu unrhyw weithgareddau sy’n gysylltiedig â chleifion nad ydynt wedi’u cofnodi yn y llyfr apwyntiadau.Fel rhan o brosiect gwella ansawdd data gweithgareddau’r Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd (QAIF) ar gyfer 2021-22, gofynnwyd i bractisau gategoreiddio apwyntiadau yn ôl dull, math o ymarferydd a rheswm dros yr ymgynghoriad gan ddefnyddio’r Porth Gwybodaeth Gofal Sylfaenol. Daeth yn ofynnol i bractisau ymgymryd â’r ymarfer hwn ar gyfer data o fis Gorffennaf 2022 ymlaen.
Apwyntiadau wyneb yn wyneb yw’r rhai lle mae’r claf yn bresennol yn bersonol yn y practis. Apwyntiadau o bell yw’r rhai a gynhelir dros y ffôn neu drwy alwad fideo. Bydd apwyntiadau ymweliadau â’r cartref yn cynnwys apwyntiadau lle mae staff y practis yn ymweld â phreswylfa’r claf sy’n cynnwys sefydliadau byw cymunol fel cartrefi nyrsio.
Dylai apwyntiadau â meddyg teulu ac â phresgripsiynydd annibynnol gwmpasu apwyntiadau â phob math o feddygon teulu, gan gynnwys cofrestryddion mewn practis cyffredinol, yn ogystal ag apwyntiadau â staff fel uwch-ymarferwyr nyrsio, fferyllwyr a ffisiotherapyddion sydd wedi cymhwyso i roi presgripsiynau fel y diffinnir gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.
Dylai apwyntiadau â nyrsys, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, neu â rolau clinigol eraill gwmpasu apwyntiadau â staff clinigol sydd wedi cofrestru â chorff proffesiynol (er enghraifft, nyrsys sydd wedi cofrestru â’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth) ond nad ydynt wedi cymhwyso i roi presgripsiynau. Ni ddylent gynnwys enghreifftiau o ryngweithio â staff gweinyddol neu staff cymorth anghlinigol.
Mae apwyntiadau sy’n cael eu dosbarthu yn ôl eu rheswm yn rhai ar gyfer cyflyrau cronig, a gynlluniwyd, neu gyflyrau nad ydynt yn acíwt fel arfer yn rhai ar gyfer cyflyrau sy’n bodoli eisoes ac sy’n barhaus ers cyfnod hirach o amser ac maen nhw’n cael eu rheoli fel clefydau cronig. Ar y llaw arall, mae cyflyrau brys neu acíwt fel arfer yn rhai sydd wedi digwydd dros y tymor byr. Gall rheswm claf dros drefnu apwyntiad fod yn gymhleth a dylai staff sy’n cofnodi’r wybodaeth hon farnu yn y ffordd orau wrth gategoreiddio’r rheswm dros yr apwyntiad. Fel arfer, byddai hyn yn cael ei wneud gan aelod gweinyddol o staff am resymau clinigol ac yn amodol ar gael ei newid, yn dilyn cyngor gan y gweithiwr iechyd proffesiynol sy’n darparu’r apwyntiad neu reolwr y practis.
Amlder cyhoeddi
ChwarterolCyfnodau data dan sylw
Mae’r data yn berthnasol i’r mis penodedig.Gwybodaeth am ddiwygiadau
Mae data ar gyfer y cyfnod rhwng mis Hydref 2023 a mis Mehefin 2024 wedi'u diwygio yn unol â'n polisi diwygiadau cynlluniedig. Roedd newidiadau bach ar lefel Cymru, gyda newidiadau yn amrywio rhwng llai na 0.1% a 0.4% ar gyfer y data ynghylch apwyntiadau.Nid yw’r data a gyflwynir i’r Porth Gwybodaeth Gofal Sylfaenol (PCIP) yn cael eu diwygio fel mater o drefn, ond gall practisau ail-gategoreiddio data apwyntiadau yn ôl-weithredol ar gyfer y dull ymgynghori, math o ymgynghoriad a’r rheswm dros yr apwyntiad ar unrhyw amser. Nid oes cyfyngiad ar ba mor bell yn ôl y gall practisau adolygu data a byddai unrhyw ddata a adolygwyd yn cael eu cynnwys yn PCIP y diwrnod canlynol.
Y bwriad yw y bydd ystadegwyr Llywodraeth Cymru yn prosesu data y 12 mis blaenorol ar yr un pryd â phob cyhoeddiad ystadegol chwarterol. Mae hyn yn golygu y gall y data a gyhoeddwyd ar gyfer y 12 mis blaenorol gael eu hadolygu. Bydd unrhyw adolygiadau mawr yn cael eu hamlygu yn y datganiadau ystadegol a’r tablau data.
Ni fydd data cyhoeddedig, o gyfnodau amser sy’n fwy na 12 mis cyn y cyfnod cyfeirio yn cael eu hadolygu oni bai bod gwall yn cael ei ddarganfod. Os bydd hyn yn digwydd, bydd yr adolygiad hefyd yn cael ei amlygu yn y datganiadau ystadegol a’r tablau data.
Dolenni'r we
https://www.llyw.cymru/gweithgaredd-practis-cyffredinolhttps://www.llyw.cymru/gweithgaredd-practis-cyffredinol-adroddiad-ansawdd
Ansawdd ystadegol
Mae rhagor o wybodaeth i’w chael yn yr adroddiad ansawdd.Er y bydd rhywfaint o amrywioldeb o fis i fis yn y nifer amcangyfrifedig o apwyntiadau fesul diwrnod gwaith, mewn rhai achosion efallai y bydd newidiadau mwy na’r disgwyl, yn enwedig ar lefel clwstwr.