

None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Cafodd y data ar gyfer cyfwerth ag amser llawn rhwng 2006 a 2013 a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y tabl hwn eu dileu oherwydd pryderon ynghylch cywirdeb y dull casglu data.Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn dangos nifer y meddygon teulu yng Nghymru a'r nifer cyfwerth ag amser cyflawn.
Casgliad data a dull cyfrifo
Darperir y data gan y Digidol GIG, sy'n casglu data ar gyfer Cymru a Lloegr gan ddefnyddio cronfa ddata Exeter. Y gronfa ddata hon yw system dalu gyfrifiadurol Meddygon Teulu sydd mewn contract gyda Byrddau Iechyd Lleol.Mae cyfrifiadau WTE yn seiliedig ar nifer y sesiynau mae meddyg teulu'n gweithio yn ystod yr wythnos, hyd at uchafswm o naw sesiwn.
Mae ffigyrau cyfwerth ag amser llawn wedi’u hepgor ers 2015 yn dilyn pryderon a fynegwyd gan ddefnyddwyr am ansawdd y data. Cyhoeddir ffigyrau cyfwerth ag amser llawn unwaith y bydd y mater wedi cael ei ymchwilio’n llawn a’i datrys. Nid yw ffigyrau cyfrif pennau wedi’u heffeithio.