Cymhariaeth o weithluoedd meddygon teulu yn y Deyrnas Unedig yn ôl blwyddyn
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Data agored
Teitl
Cymhariaeth o weithluoedd meddygon teulu yn y Deyrnas Unedig yn ôl blwyddynDiweddariad diwethaf
29 Mawrth 2017Diweddariad nesaf
Mis Mawrth 2019Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruCyswllt ebost
ystadegau.iechyd@llyw.cymruDynodiad
Gwybodaeth reolaetholLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Y Deyrnas UnedigCwmpas daearyddol
Y Deyrnas UnedigCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r tabl hwn yn cynnwys gwybodaeth am Ymarferwyr (ac eithrio Cofrestryddion mewn Practis Cyffredinol, Ymarferwyr Cyffredinol Wrth Gefn a meddygon locwm). Arferai'r tabl hwn gynnwys gwybodaeth am ymarferwyr anghyfyngedig, sydd yn gategori nad yw'n cael ei gydnabod bellach yn dilyn cyflwyno'r contract Ymarferydd Cyffredinol newydd ar 1 Ebrill 2004.Lloegr: Nid yw methodoleg cyfrif pennau newydd 2010 yn gwbl gymaradwy â data blynyddoedd blaenorol oherwydd y gwelliannau sy'n ei wneud yn gyfrifiad mwy manwl o niferoedd absoliwt. Mae'r blynyddoedd blaenorol yn gyfrifiad o gytundebau Ymarferwyr Cyffredinol.
Casgliad data a dull cyfrifo
Darperir y data gan y Digidol GIG, sy'n casglu data ar gyfer Cymru a Lloegr gan ddefnyddio cronfa ddata Exeter. Y gronfa ddata hon yw system dalu gyfrifiadurol Meddygon Teulu sydd mewn contract gyda Byrddau Iechyd Lleol.Mae'r data ar gyfer yr Alban yn cael ei ddarparu gan yr Information Services Division, NHS National Services Scotland, sy'n casglu data gan ddefnyddio Cronfa Ddata Contractwyr Meddygon Teulu (GPCD).
Mae'r data ar gyfer Gogledd Iwerddon yn cael ei ddarparu gan Health and Social Care Northern Ireland (HSCNI).
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Cymru: Dyddiadau'r cyfrifiadau yw 1 Hydref ar gyfer 2009 a 30 Medi ar gyfer pob blwyddyn arall.Lloegr: Ar 30 Medi.
Yr Alban: Ar 1 Hydref. Yn cynnwys meddygon teulu ar gontract Perfformiwr, Perfformiwr Darparwr, Perfformiwr Cyflogedig, Perfformiwr Locwm Cyflogedig, Perfformiwr Cymrawd Gwledig a Pherfformiwr Dychwelyd.
Gogledd Iwerddon: Ar 30 Medi. Mae data ond yn cynnwys Ymarferwyr Anghyfyngedig neu Gyfwerth (UPEs) a meddygon teulu cyfyngedig o dan yr hen gontract.