Disgwyliad oes a disgwyliad bywyd iach adeg genedigaeth yn ôl Bwrdd Iechyd Lleol ac Awdurdod Lleol
None
|
Metadata
Dolenni'r we
Adroddiad gwreiddiol Iechyd Cyhoeddus Cymru ar fesur anghydraddoldebau:http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/922/tudalen/87264Disgrifiad cyffredinol
Mae’r tabl yn dangos data ar gyfer y Dangosydd Cenedlaethol “Disgwyliad oes iach adeg genedigaeth yn cynnwys y bwlch rhwng y lleiaf a’r mwyaf difreintiedig” fel sy’n ofynnol yn ôl Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.Defnyddir disgwyliad oes (DO) yn eang fel mesur ystadegol o'r blynyddoedd disgwyliedig cyfartalog o fywyd ar gyfer plentyn newydd-anedig yn seiliedig ar gyfraddau marwolaeth a welwyd yn ddiweddar. O'r herwydd, mae DO ar enedigaeth hefyd yn fesur o farwolaethau ar draws pob oedran. Dylid nodi, fodd bynnag, bod cyfraddau marwolaeth yn debygol o newid yn y dyfodol, ac felly er mai ein "hamcan gorau" yw'r ffigurau DO ar hyn o bryd, ni allant ddarparu amcangyfrif manwl gywir o rychwant oes unigolyn.
Yn ogystal â DO cyffredinol, mae'n bwysig ystyried disgwyliad oes iach (DOI). Mae hyn yn cynrychioli nifer y blynyddoedd y gallai rhywun ddisgwyl byw mewn iechyd da neu dda iawn. Mae DOI yn cynnwys data arolwg ar iechyd yng Nghymru ac felly gall ei amcangyfrif gael ei effeithio gan unrhyw wall samplu mewn arolwg.
Mae modd cymharu amcangyfrifon o ddisgwyliad oes yn uniongyrchol rhwng ardaloedd, cyfnodau amser a’r rhywau. Crëwyd cyfyngau hyder o 95 y cant sy’n disgrifio’r lefel o ansicrwydd sydd yna ynghylch yr amcangyfrifon. Gellir defnyddio’r cyfyngau hyn i wirio pa mor arwyddocaol yn ystadegol yw’r gwahaniaeth rhwng dau amcangyfrif. Os, er enghraifft, yw’r cyfyngau hyder rhwng yr amcangyfrif o ddisgwyliad oes yn y cyfnod cynharaf a’r amcangyfrif yn y cyfnod hwyrach yn gorgyffwrdd, yna nid yw’r gwahaniaeth rhyngddynt yn arwyddocaol yn ystadegol.
Mae’r amcangyfrifon o ddisgwyliad oes iach yn sensitif iawn i amrywiadau mewn data ar statws iechyd, yn enwedig o ran grwpiau oedran hyn, lle daw llai o ymatebion i’r arolwg. Yr unigolion sy’n llenwi’r arolwg sy’n darparu’r data sy’n cael eu cofnodi gan Arolwg Iechyd Cymru, ac maent yn ddibynnol ar ganfyddiad yr unigolion o’u hiechyd eu hunain.
Casgliad data a dull cyfrifo
Cafodd disgwyliad oes ei gyfrifo gan ddefnyddio’r dull a ffefrir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer cyfrifo disgwyliad oes adeg genedigaeth ar gyfer ardaloedd bach, fel a ddisgrifir gan Eayres & Williams a Toson & Baker.Mae tystiolaeth wedi dangos bod y dull hwn yn ddigon dibynadwy ar gyfer poblogaethau o fwy na 5000.
Mae’n defnyddio amcangyfrifon poblogaeth a data ar farwolaethau i gyfrifo tabl bywyd, sy’n cael ei ddefnyddio fel sail ar gyfer cyfrifo’r tebygolrwydd o oroesi pob un o’r grwpiau oedran 5 mlynedd, gan ystyried bod y grwp oedran blaenorol wedi’i oroesi. Mae’n amcangyfrif y nifer cyfartalog o flynyddoedd o fywyd a ddisgwylir ar gyfer unrhyw oedran penodol. Yn yr adroddiad hwn, dim ond y nifer cyfartalog o flynyddoedd a ddisgwylir o enedigaeth a gyflwynir.
Mae’r canlyniadau yn cael eu hadrodd gyda chyfyngau hyder o 95 y cant.
Y prif fesur sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer yr anghydraddoldeb mewn disgwyliad oes yn yr adroddiad hwn yw’r Mynegai Gogwydd Anghydraddoldeb (Slope Index of Inequality (SII)). Mae’r SII yn mesur y gwahaniaeth rhwng disgwyliad oes yn y lleiaf a’r mwyaf difreintiedig, gan ystyried y dosbarthiad ar draws y boblogaeth gyfan. Gan hynny, mae’n fesur sy’n ystyried y graddiant cymdeithasol, ond mae’n crynhoi hyn fel bwlch absoliwt rhwng disgwyliad oes a’r ddau begwn o’r sbectrwm amddifadedd.
I fesur y bwlch anghydraddoldeb hwn mewn cyfraddau marwolaeth, mae’r adroddiad hwn yn defnyddio cymhareb y gyfradd. Mae hon yn cael ei chyfrifo drwy rannu’r gyfradd yn y bumed ran fwyaf difreintiedig â’r gyfradd yn y bumed ran leiaf difreintiedig. Os yw’r gyfradd hon yn fwy nag un, yna mae’r gyfradd yn uwch yn y bumed ran fwyaf difreintiedig. Mae cymhareb y gyfradd o ddau yn golygu bod y gyfradd ddwywaith mor fawr yn y bumed ran fwyaf difreintiedig ag ydyw yn y bumed ran leiaf difreintiedig.
Dylid cadw mewn cof y cafeat ynghylch y pryderon am y defnydd o amcangyfrifon poblogaeth a ddarperir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS). Wrth baratoi’r adroddiad hwn, canfuwyd bod amcangyfrifon yr ONS o’r boblogaeth 85+ oed yn rhy isel mewn rhai ardaloedd. Yn y rhan fwyaf o Gymru, ychydig o effaith y bydd hyn yn ei chael ar ddisgwyliad oes a chyfraddau marwolaeth, ac nid yw’r effaith ar ffigurau cenedlaethol yn debygol o fod o bwys ychwaith. Mae rhagor o fanylion ar gael ar y wefan sydd i’w chael drwy ddilyn y ddolen uchod.