O dan yr un llwybr canser, mae llwybr yn dechrau pan fydd amheuaeth (er enghraifft pan fydd meddyg teulu’n gwneud atgyfeiriad) a dyma pryd mae’r amser aros a gofnodir yn dechrau. Bydd y llwybr yn cael ei gau, a bydd yr amser aros yn dod i ben, pan fydd y claf yn dechrau ei driniaeth ddiffiniol gyntaf, yn cael ei israddio (yn cael gwybod nas oes canser arno), yn dewis peidio â chael triniaeth neu os bydd y claf yn marw. Bydd y casglu data newydd yn seiliedig ar ddata am y llwybrau sy’n cael eu cau (llwybrau sydd wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf) a byddant yn mesur gweithgarwch drwy nifer y cleifion sy’n cael eu trin neu sy’n cael gwybod gan arbenigwr nad oes canser arnynt, yn hytrach na nifer y cleifion sy’n ymuno â’r llwybr.
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth cryno
- Dolenni'r we
- Data agored
Teitl
Llwybr amheuaeth o ganser (llwybrau caeedig): Nifer y cleifion a israddiwyd, a ddechreuodd eu triniaeth, a gafodd eu trin, a gafodd eu trin o fewn 62 diwrnod i’r amheuaeth gyntaf o ganser, yn ôl bwrdd iechyd lleol, safle’r canser, grwp oedran, rhyw, mesur a mis.Diweddariad diwethaf
21/11/2024Diweddariad nesaf
19/12/2024Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Lwybr Canser a Amheuir, Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) ac Adnodd Data Cenedlaethol (NDR)Cyswllt ebost
ystadegau.iechyd@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Byrddau iechyd lleolCwmpas daearyddol
Byrddau iechyd lleolCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegAnsawdd ystadegol
Mae data ar oedran a rhyw yn destun llai o wiriadau ansawdd a chynghorir pwyll wrth ei ddehongliI weld y wybodaeth hon, dilynwch y ddolen i’r cyhoeddiad ystadegol perthnasol.
Sylwch fod y data a gynhwysir yn y set ddata hwn yn cwmpasu cyfnod yn ystod pandemig coronafeirws (COVID-19), sydd wedi effeithio ar y ffordd y mae rhai gwasanaethau'r GIG yn cael eu cynnig a dewisiadau pobl o ran gwasanaethau iechyd. Gweler y datganiad diweddaraf am ragor o wybodaeth.
Nid yw'r data hyd at fis Tachwedd 2020 yn cynnwys pob llwybr sy'n effeithio ar blant. Mae'r data o fis Tachwedd 2020 ymlaen yn cynnwys yr holl lwybrau SCP yr adroddwyd amdanynt ar gyfer cleifion o bob oed. Mae effaith y newid hwn yn yr ymdriniaeth yn fach iawn. Mae'r data ychwanegol yn golygu cynnydd o tua 0.2% yng nghyfansymiau Cymru.
Allweddeiriau
Canser; Llwybr Lle’r Amheuir CanserDisgrifiad cyffredinol
O dan yr un llwybr canser, mae llwybr yn dechrau pan fydd amheuaeth (er enghraifft pan fydd meddyg teulu’n gwneud atgyfeiriad) a dyma pryd mae’r amser aros a gofnodir yn dechrau. Bydd y llwybr yn cael ei gau, a bydd yr amser aros yn dod i ben, pan fydd y claf yn dechrau ei driniaeth ddiffiniol gyntaf, yn cael ei israddio (yn cael gwybod nas oes canser arno), yn dewis peidio â chael triniaeth neu os bydd y claf yn marw. Bydd y casglu data newydd yn seiliedig ar ddata am y llwybrau sy’n cael eu cau (llwybrau sydd wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf) a byddant yn mesur gweithgarwch drwy nifer y cleifion sy’n cael eu trin neu sy’n cael gwybod gan arbenigwr nad oes canser arnynt, yn hytrach na nifer y cleifion sy’n ymuno â’r llwybr.Bwriedir cyhoeddi nifer o fesurau ehangach o’r un llwybr canser ym mis Mawrth, er mwyn rhoi mwy o gyd-destun i weithgarwch a pherfformiad gwasanaethau canser yng Nghymru. Y bwriad yw y bydd data mwy cadarn yn cael eu casglu o ddata llwybrau agored yn nes ymlaen yn 2021.
Casgliad data a dull cyfrifo
I weld y wybodaeth hon, dilynwch y ddolen i’r cyhoeddiad ystadegol perthnasol.Amlder cyhoeddi
MisolCyfnodau data dan sylw
Rhagfyr 2020 ymlaenGwybodaeth am ddiwygiadau
Mae'r data ar gyfer mis Rhagfyr 2020 wedi'i ddiwygio yn dilyn diwygiad i'r fethodoleg echdynnu data.Mae data'n destun adolygiad.
Mae diwygiadau pellach wedi’u gwneud i ddata ar gyfer Gorffennaf, Awst a Medi 2021. Mae’r newidiadau hyn yn cael effaith fach ar ffigurau lefel Cymru ond yn effeithio’n benodol ar fyrddau iechyd Betsi Cadwaladr a Chaerdydd a’r Fro. Mae hyn oherwydd bod cod anghywir wedi'i weithredu i echdynnu'r data.