Ystadegau Arbrofol: O dan y llwybr lle’r amheuir canser, mae llwybr yn dechrau ar y pwynt o amheuaeth (er enghraifft pan fydd meddyg teulu'n gwneud atgyfeiriad) a dyma pryd mae'r amser aros a gofnodwyd yn dechrau. Mae llwybr yn cau, ac mae ei amser aros yn dod i ben, pan fydd y claf yn dechrau ei driniaeth ddiffiniol gyntaf, yn cael ei israddio (dywedir nad oes ganddynt ganser), yn dewis peidio â chael triniaeth neu os bydd y claf yn marw. Mae'r data hwn yn mesur gweithgarwch drwy nifer y llwybrau a agorwyd yn dilyn amheuaeth o ganser. Sylwer y gall claf fod ar fwy nag un llwybr.
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Allweddeiriau
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Teitl
Llwybr Lle’r Amheuir Canser (llwybrau agored): Nifer y llwybrau cleifion wedi’u hagor ar y llwybr lle’r amheuir canser gan fwrdd iechyd lleol, lleoliad tiwmor, a misDiweddariad diwethaf
21/11/2024Diweddariad nesaf
19/12/2024Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Lwybr Canser a Amheuir, Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) ac Adnodd Data Cenedlaethol (NDR)Cyswllt ebost
ystadegau.iechyd@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Byrddau iechyd lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Ystadegau Arbrofol: O dan y llwybr lle’r amheuir canser, mae llwybr yn dechrau ar y pwynt o amheuaeth (er enghraifft pan fydd meddyg teulu'n gwneud atgyfeiriad) a dyma pryd mae'r amser aros a gofnodwyd yn dechrau. Mae llwybr yn cau, ac mae ei amser aros yn dod i ben, pan fydd y claf yn dechrau ei driniaeth ddiffiniol gyntaf, yn cael ei israddio (dywedir nad oes ganddynt ganser), yn dewis peidio â chael triniaeth neu os bydd y claf yn marw. Mae'r data hwn yn mesur gweithgarwch drwy nifer y llwybrau a agorwyd yn dilyn amheuaeth o ganser. Sylwer y gall claf fod ar fwy nag un llwybr.Casgliad data a dull cyfrifo
I weld y wybodaeth hon, dilynwch y ddolen we i’r cyhoeddiad ystadegol perthnasol.Amlder cyhoeddi
MisolAllweddeiriau
Canser Llwybr Lle’r Amheuir CanserDolenni'r we
https://llyw.cymru/crynodeb-perfformiad-gweithgaredd-y-gig?_ga=2.137490102.742904852.1612428372-1570334857.1608563790Ansawdd ystadegol
Caiff data llwybr lle’r amheuir canser ei fesur gan lwybrau cleifion yn hytrach na chleifion unigryw. Y rheswm am hyn yw y gall un claf agor nifer o lwybrau canser os amheuir bod canser mewn mwy nag un safle tiwmor. Wrth sicrhau ansawdd data llwybrau agored ar gyfer mis Hydref, Tachwedd a Rhagfyr 2021, amcangyfrifwyd bod nifer y llwybrau a agorwyd tua 2-3% yn uwch na nifer y cleifion unigryw yr amheuir bod ganddynt ganser.Mae data llwybrau agored a gesglir drwy'r dull NDR yn debyg yn fras i'r casgliad data cyfanredol blaenorol, ond ni ddylid gwneud cymariaethau uniongyrchol rhwng y ddwy ffynhonnell oherwydd gwyddys bod y dull blaenorol yn cynnwys llawer o lwybrau dyblyg. Mae hyn yn golygu na ddylid cymharu nifer y llwybrau a agorwyd ymhen misoedd cyn Rhagfyr 2021 yn uniongyrchol â data o fis Rhagfyr 2021 ymlaen.
Dewch o hyd i'r wybodaeth hon yn y datganiad ystadegol cysylltiedig, yn unol â'r ddolen we a roddir.
Noder bod data a gynhwysir yn y datganiad ystadegol hwn yn cwmpasu cyfnod o amser yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19), sydd wedi effeithio ar sut y cynigiwyd rhai gwasanaethau'r GIG a dewisiadau pobl o ran gwasanaethau iechyd. Gweler y datganiad diweddaraf am fwy o wybodaeth.
I weld y wybodaeth hon, dilynwch y ddolen i’r cyhoeddiad ystadegol perthnasol.
Sylwch fod y data a gynhwysir yn y set ddata hwn yn cwmpasu cyfnod yn ystod pandemig coronafeirws (COVID-19), sydd wedi effeithio ar y ffordd y mae rhai gwasanaethau'r GIG yn cael eu cynnig a dewisiadau pobl o ran gwasanaethau iechyd. Gweler y datganiad diweddaraf am ragor o wybodaeth.
Nid yw'r data hyd at fis Tachwedd 2020 yn cynnwys pob llwybr sy'n effeithio ar blant. Mae'r data o fis Tachwedd 2020 ymlaen yn cynnwys yr holl lwybrau SCP yr adroddwyd amdanynt ar gyfer cleifion o bob oed. Mae effaith y newid hwn yn yr ymdriniaeth yn fach iawn. Mae'r data ychwanegol yn golygu cynnydd o tua 0.2% yng nghyfansymiau Cymru.