Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl Wythnos, Hydref 2009 - Hydref 2019
Sylwch fod y data a gynhwysir yn y set ddata hwn yn cwmpasu cyfnod yn ystod pandemig coronafeirws (COVID-19), sydd wedi effeithio ar y ffordd y mae rhai gwasanaethau'r GIG yn cael eu cynnig a dewisiadau pobl o ran gwasanaethau iechyd. Gweler y datganiad diweddaraf am ragor o wybodaeth.
None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Mae'r tabl hwn yn darparu data amseroedd aros gwasanaethau diagnostig a therapi ar gyfer Hydref 2009 - Hydref 2019.Casgliad data a dull cyfrifo
I weld y wybodaeth hon, dilynwch y ddolen i’r cyhoeddiad ystadegol perthnasol.O 1 Ebrill 2019, symudodd darpariaeth gwasanaeth iechyd trigolion awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Am ragor o wybodaeth gweler y datganiad ar y cyd gan Fyrddau Iechyd Prifysgol Cwm Taf ac Abertawe Bro Morgannwg (gweler y dolenni gwe). Mae enwau'r byrddau iechyd wedi newid; mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae dolen i ddatganiad gan y gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar gael yn yr adran dolenni’r we.
Mae safleoedd a gynhwyswyd yn flaenorol o dan Cymunedol yn Betsi Cadwaladr wedi eu cynnwys yn unigol yn y data o Hydref 2019 ymlaen. Y safleoedd yw Abergele Hospital, Bryn Beryl Hospital, Cefni Hospital, Dolgellau & Barmouth District, Eryri Hospital, NW Cancer Treament Centre, Ruthin Community Hospital, Tywyn & District War Memorial, Ysbyty Alltwen a Ysbyty Penrhos Stanley.
Amlder cyhoeddi
Dim hwy diweddaruCyfnodau data dan sylw
Hydref 2009 - Hydref 2019Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
I weld y wybodaeth hon, dilynwch y ddolen i’r cyhoeddiad ystadegol perthnasol.Teitl
Amseroedd Aros Gwasanaethau Therapi a Diagnostig yn ôl wythnosDiweddariad diwethaf
17/04/2022Diweddariad nesaf
Dim diweddariadau pellach, oni bau eu bod yn amodol ar adolygiad.Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Gwasanaethau diagnostig a therapi amseroedd aros, Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC)Cyswllt ebost
ystadegau.iechyd@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Byrddau iechyd lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDolenni'r we
I weld y cyhoeddiad ystadegol diweddaraf ar wasanaethau therapi a diagnostig, dilynwch y ddolen ganlynolhttps://llyw.cymru/amseroedd-aros-gwasanaethau-diagnostig-therapi-gig
https://cwmtaf.wales/welsh-government-announce-decision-on-bridgend-boundary-change/
https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-ffin-y-byrddau-iechyd-ym-mhen-y-bont-ar-ogwr-cynllunio-cysylltiol
Allweddeiriau
ysbyty; amseroedd aros; diagnostig; therapiAnsawdd ystadegol
I weld y wybodaeth hon, dilynwch y ddolen i’r cyhoeddiad ystadegol perthnasol.Nid oedd Betsi Cadwaladr yn gallu cyflwyno data yn ymwneud ag amseroedd aros yn ymwneud â therapi ym mis Ebrill 2020 oherwydd y pandemig Coronafeirws (COVID-19). Ni chyflwynodd Ysbyty Derwen unrhyw ddata ar gyfer therapïau o fis Awst 2020 oherwydd y prosiect Ymfudo Iechyd Meddwl. Nid oedd modd i Ben-y-bont ar Ogwr gyflwyno data is-arbenigedd ymgynghorwyr, gastrosgopi ac MRI ar gyfer mis Awst a mis Medi 2020. Mae hyn yn effeithio ar ddata gweithgarwch a pherfformiad gwasanaethau diagnostig a therapïau yng Nghwm Taf Morgannwg, Bae Abertawe ac ar lefel Cymru yn y misoedd hynny.
Oherwydd y pandemig COVID-19 (coronafeirws) cafodd pob apwyntiad i gleifion allanol nad oeddynt yn rhai brys eu hatal dros dro ym mis Mawrth 2020. O ganlyniad, bu'n rhaid i'r rhan fwyaf o ysbytai gyfyngu ar y gwasanaethau Diagnostig a Therapi a gynigiwyd ganddynt, neu eu hatal dros dro, ac arweiniodd hyn at gynnydd yn y niferoedd a oedd yn aros ym mis Ebrill 2020 a’r misoedd dilynol.
Ers Ebrill 2018 (ac o gyhoeddiad Mehefin 2018 ymlaen), cafodd profion diagnostig ychwanegol ar gyfer Cardioleg eu cynnwys yn yr amseroedd aros Diagnostig a Therapi. Mae’r cofnodion newydd hyn wedi'u cynnwys yn y cyfansymiau amseroedd aros ac o ganlyniad gwelwyd cynnydd yn nifer y bobl sy'n aros am brawf diagnostig.
Amcangyfrifir data ar gyfer mis Ebrill 2017 ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf gan ddefnyddio eu data ar gyfer mis Mawrth 2017, gan nad oeddent yn gallu darparu unrhyw ddata ar gyfer mis Ebrill 2017.
Oherwydd mater data, nid adroddwyd yn ddigonol ar ffigurau ar gyfer meddygaeth niwclear rhwng Chwefror 2015 a Gorffennaf 2015 yn gynwysedig. Yn ystod y misoedd hyn nid adroddwyd ar ddata ar gyfer Sganiau Darlifiad Myocardaidd o dan feddygaeth niwclear, ond y tu allan i'r misoedd hyn, roedd y prawf hwn yn cael ei gynnwys o dan feddygaeth niwclear. Felly, roedd y gostyngiad yn nifer y cleifion a welwyd yn Chwefror 2015 a'r cynnydd a welwyd yn Awst 2015 i'w briodoli i'r ffordd yr adroddwyd ar y data, yn hytrach na newidiadau yn nifer y cleifion. Mae hyn wedi'i achosi gwahaniaeth o ryw 350-400 o gleifion bod mis a rhyw 150 i 190 o'r rheiny bob mis yn aros 8 wythnos neu'n hwy am eu sgan. Felly mae hepgor y cleifion hyn yn gwella ychydig ar berfformiad Cymru yn erbyn y safon.
Amcangyfrifir data niwroffisioleg ar gyfer mis Ebrill 2014 i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gan ddefnyddio ei ddata ar gyfer mis Mawrth 2014. Mae hyn oherwydd i'r gwasanaeth gael ei roi ar waith mewn ysbyty newydd. O ganlyniad, roedd y data ar gyfer mis Ebrill 2014 yn annibynadwy ac felly, ni chawsant eu cyflwyno gan y Bwrdd Iechyd Lleol.
Amcangyfrifir data ffisiotherapi ar gyfer mis Chwefror 2013 i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro gan ddefnyddio ei ddata ar gyfer mis Ionawr 2013. Mae hyn oherwydd nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn gallu darparu data llawn ar ffisiotherapi ar gyfer mis Chwefror 2013, gan fod salwch staff yn golygu nad oedd cleifion yn cael eu cofnodi ar y system mewn pryd cyn i'r wybodaeth gael ei chyflwyno.
Amcangyfrifir data radioleg a delweddu ar gyfer mis Mehefin 2013 i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro gan ddefnyddio ei ddata ar gyfer mis Mai 2013. Mae hyn oherwydd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro brofi anawsterau technegol gyda'r data sylfaenol.
Amcangyfrifir data ffisiotherapi ar gyfer mis Hydref 2012 i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro gan ddefnyddio ei ddata ar gyfer mis Medi 2012, gan nad oedd y Bwrdd yn gallu darparu data llawn ar ffisiotherapi ar gyfer mis Hydref 2012.
Mae Endosgopi Diagnostig, Deieteg, Therapi Galwedigaethol, Mesuriadau Ffisiolegol, Ffisiotherapi a Therapi Iaith a Lleferydd ar gyfer Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg (Bwrdd Iechyd Hywel Dda) wedi eu hamcangyfrif ar gyfer Medi 2010 – Mai 2011 gan ddefnyddio data o fis Awst 2010 gan nad oeddent yn gallu cyflwyno data oherwydd eu bod yn mudo o PAS i Myrddin.