Mae’r tabl hwn yn darparu data amseroedd aros cyfredol gwasanaethau awdioleg.
Cofnodwyd llwybrau awdioleg o dan arbenigedd therapïau tan fis Mawrth 2024. Ers y cyhoeddiad ym mis Ebrill 2024, cofnodir data am lwybrau awdioleg ar wahân ar StatsCymru. Mae'r llwybrau hyn wedi'u tynnu o'r ôl-gyfres lawn o ddata ynghylch therapïau, sy'n golygu nad oes unrhyw effaith ar gymaroldeb y gyfres dros amser.
Casgliad data a dull cyfrifo
I weld y wybodaeth hon, dilynwch y ddolen i’r cyhoeddiad ystadegol perthnasol.
O 1 Ebrill 2019, symudodd darpariaeth gwasanaeth iechyd trigolion awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Am ragor o wybodaeth gweler y datganiad ar y cyd gan Fyrddau Iechyd Prifysgol Cwm Taf ac Abertawe Bro Morgannwg (gweler y dolenni gwe). Mae enwau'r byrddau iechyd wedi newid; mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae dolen i ddatganiad gan y gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar gael yn yr adran dolenni’r we.
Mae safleoedd a gynhwyswyd yn flaenorol o dan Cymunedol yn Betsi Cadwaladr wedi eu cynnwys yn unigol yn y data o Hydref 2019 ymlaen. Y safleoedd yw Abergele Hospital, Bryn Beryl Hospital, Cefni Hospital, Dolgellau & Barmouth District, Eryri Hospital, NW Cancer Treament Centre, Ruthin Community Hospital, Tywyn & District War Memorial, Ysbyty Alltwen a Ysbyty Penrhos Stanley.