Perfformiad yn erbyn y targed o bedair awr o ran amseroedd aros ar gyfer pob cyfleuster gofal brys yn ôl bwrdd iechyd lleol
Sylwch fod y data a gynhwysir yn y set ddata hwn yn cwmpasu cyfnod yn ystod pandemig coronafeirws (COVID-19), sydd wedi effeithio ar y ffordd y mae rhai gwasanaethau'r GIG yn cael eu cynnig a dewisiadau pobl o ran gwasanaethau iechyd. Gweler y datganiad diweddaraf am ragor o wybodaeth.
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Teitl
Perfformiad yn erbyn targedau amseroedd aros, ar gyfer pob cyfleuster gofal brys yn ôl bwrdd iechyd lleolDiweddariad diwethaf
24/10/2024Diweddariad nesaf
21/11/2024Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Set ddata adran achosion brys (EDDS), Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC)Cyswllt ebost
ystadegau.iechyd@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Byrddau iechyd lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegCasgliad data a dull cyfrifo
I weld y wybodaeth hon, dilynwch y ddolen i’r cyhoeddiad ystadegol perthnasol.O 1 Ebrill 2019, symudodd darpariaeth gwasanaeth iechyd trigolion awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Am ragor o wybodaeth gweler y datganiad ar y cyd gan Fyrddau Iechyd Prifysgol Cwm Taf ac Abertawe Bro Morgannwg (gweler y dolenni gwe). Mae enwau'r byrddau iechyd wedi newid; mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae dolen i ddatganiad gan y gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar gael yn yr adran dolenni’r we.
Cymerodd ‘Cardigan Integrated Care Centre’ drosto ‘Cardigan and District Memorial Hospital’ o ganol mis Rhagfyr 2019. Ar gyfer Rhagfyr 2019, adroddwyd data yn erbyn y ddau safle am hyd yr amser yr oeddent ar agor yn ystod y mis.
Amlder cyhoeddi
MisolCyfnodau data dan sylw
O fis Ebrill 2013 ymlaenDefnyddwyr, defnydd a chyd-destun
I weld y wybodaeth hon, dilynwch y ddolen i’r cyhoeddiad ystadegol perthnasol.Gwybodaeth am ddiwygiadau
Bob mis, gall Byrddau Iechyd Lleol ailgyflwyno data i DHCW os ydynt wedi cynnal gwaith dilysu pellach yn ystod y mis ac efallai y bydd angen iddynt adolygu eu data. Yn 2013, gwnaethom edrych ar faint ac effaith ailgyflwyno’r data. Roedd effaith y newidiadau’n tueddu i fod yn fach iawn, gan gyfrif am newid o lai nag un pwynt canrannol yn erbyn y targed o 4 awr ar gyfer adrannau damweiniau ac achosion brys.Diwygiwyd data presenoldeb ar gyfer Ionawr 2015, Rhagfyr 2016 a Gorffennaf 2017 ar 18/04/2019 i gyd-fynd a’r porth adrodd GIG Cymru ac ymgorffori ail gyflwyniadau.
Disgrifiad cyffredinol
Mae cwmpas ehangach o ystadegau perfformiad adrannau brys bellach yn cael ei gyhoeddi ar wefan yr Uned Comisiynu Cydweithredol Cenedlaethol (NCCU), fel rheolwyr. Mae hyn yn cynnwys mesur yr amser rhwng y claf yn cyrraedd a chael ei frysbennu, yr amser rhwng y claf yn cyrraedd a chael cysylltiad â gwneuthurwr penderfyniadau clinigol, a dadansoddiad o ble fydd y claf yn mynd ar ôl gadael yr adran achosion brys. Caiff y rhain eu diweddaru bob mis ar yr un diwrnod â’r cyhoeddiad Ystadegau Gwladol hwn.Ni fydd modd cymharu data cyn mis Ionawr 2013 yn uniongyrchol â data ar gyfer mis Ionawr 2013 ymlaen oherwydd newid mewn methodoleg. Gweler nodiadau yng nghyhoeddiad mis Mawrth 2013 am fwy o fanylion (Ionawr 2013).
Ar gyfer data o fis Mawrth 2017 ymlaen, bydd yna ddull newydd o gyhoeddi data ar amseroedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys: Cyn data mis Awst 2012, roedd data amseroedd aros misol adrannau damweiniau ac achosion brys yn cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru fel ystadegau swyddogol mewn Cyhoeddiad Ystadegol, gyda data manylach ar StatsCymru.
Roedd y data misol mis Awst 2012 i fis Chwefror 2017 wedi cael ei gyhoeddi gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) ar ei wefan fel gwybodaeth reoli.
Cyhoeddwyd y data misol o fis Mawrth 2017 ymlaen ar StatsCymru a therfynwyd cyhoeddiad DIechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW).
Ym mis Rhagfyr 2011, cyflwynwyd rhai newidiadau technegol i adroddiadau adrannau damweiniau ac achosion brys mewn perthynas ag eithriadau clinigol a gweithredol. Mae’r canllawiau isod wedi bod yn berthnasol yng Nghymru ers mis Rhagfyr 2011. Felly, ni fydd y ddwy sefyllfa isod yn cael eu hystyried yn achosion o dorri targedau mwyach: Os bydd clinigwr yn penderfynu mai’r adran damweiniau ac achosion brys yw’r lle mwyaf diogel i glaf, dylai’r claf aros yno hyd nes y bydd hi’n ddiogel ei symud; ac ni ddylai Cleifion gael eu derbyn er mwyn osgoi torri’r targedau’n unig. Dylai clinigwyr dderbyn cleifion i gyfleusterau priodol yn unig a dim ond os yw hynny’n briodol.
Ar gyfer data mis Rhagfyr 2011, ni lwyddodd BILlau Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Phrifysgol Betsi Cadwaladr i wneud y newid i’r canllawiau mewn perthynas ag eithriadau clinigol.
Ar gyfer y data rhwng mis Ionawr a mis Gorffennaf 2012, ni lwyddodd BILl Prifysgol Betsi Cadwaladr i roi’r newid ar waith yn llawn ar gyfer pob mis, a llwyddodd BILl Prifysgol Caerdydd a’r Fro i roi’r newid ar waith ar gyfer 26 tan 31 Ionawr yn unig, er ei fod wedi rhoi’r newid ar waith ar gyfer data o fis Chwefror 2012 ymlaen. (Dywedodd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wrthym fod rhaid iddyn nhw ddatblygu a phrofi eu systemau a hyfforddi defnyddwyr i sicrhau casgliad cadarn mewn perthynas ag eithriadau clinigol i gydymffurfio â chanllawiau cydymffurfiaeth newydd yr UE. Cwblhawyd y gwaith hwn ddiwedd mis Ionawr.) Felly, mae’n debygol y bydd ffigurau Cymru ar gyfer y cyfnod rhwng mis Rhagfyr 2011 a mis Gorffennaf 2012 yn is na’r disgwyl.
Cafodd targed ym ymwneud â sicrhau nad yw cleifion yn gorfod aros 12 awr neu fwy mewn unrhyw gyfleuster gofal brys o fis Ebrill 2013 ymlaen ei gyflwyno yn Fframwaith Cyflawni GIG Cymru ar gyfer 2013/14.
Hyd at fis Ebrill 2012, roedd data’n cael ei gyflwyno’n ddyddiol ac yn wythnosol trwy SITREPS. Nid oedd ansawdd y data a adroddwyd yn ddigon da i’w gyhoeddi, felly cymerwyd data o’r adroddiadau wythnosol a ddilyswyd i sicrhau data mwy dibynadwy. O ganlyniad, mae’r wybodaeth a gyflwynir yn seiliedig ar gylch pedair/pump wythnos yn hytrach na misoedd calendr. Mae nifer yr wythnosau mewn unrhyw gylch yn seiliedig ar faint o ddyddiau Llun sydd rhwng diwedd y cylch blaenorol a diwedd y mis. Dyddiad diwedd yr wythnos, sef dydd Llun bob amser, a ddefnyddir i bennu i ba ‘fis’ y mae adroddiad wythnosol penodol yn perthyn. Mae gan fisoedd sy’n cynnwys cyfnod adrodd 5 wythnos nodyn gyferbyn â nhw.
Dangosir data ar gyfer Unedau Mân Anafiadau/Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys Eraill dim ond o fis Ebrill 2012 ymlaen achos ni chasglwyd y wybodaeth hon drwy SITREPS.
Dolenni'r we
I weld y cyhoeddiad ystadegol diweddaraf, dilynwch y ddolen ganlynol:https://llyw.cymru/amser-dreuliwyd-yn-adrannau-damweiniau-ac-achosion-brys-gig
https://cwmtaf.wales/welsh-government-announce-decision-on-bridgend-boundary-change/
https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-ffin-y-byrddau-iechyd-ym-mhen-y-bont-ar-ogwr-cynllunio-cysylltiol
https://uggc.gig.cymru/gofal-brys-ac-argyfwng/dangosyddion-perfformiad-allweddol-arbrofol/
Allweddeiriau
amseroedd aros; Adran Damweiniau ac Achosion Brys; adran achosion brysAnsawdd ystadegol
I weld y wybodaeth hon, dilynwch y ddolen i’r cyhoeddiad ystadegol perthnasol.Yn ystod y pandemig COVID-19, wnaeth sawl Uned Mân Anafiadau cau dros dro, ond mae rhai wedi ail-agor erbyn rwan. Rhain yw Ysbyty'r Barri (caewyd Mawrth 2020; ail-agorwyd Awst 2020); Bryn Beryl (caewyd Mai 2020; ail-agorwyd Awst 2020); Ysbyty Dolgellau ac Abermo (caewyd Ebrill 2020; dal ar gau); Ysbyty Tywyn (caewyd Mehefin 2020; dal ar gau); ac Ysbyty Llanymddyfri (caewyd Ebrill 2020; dal ar gau).
Sylwch fod y data a gynhwysir yn y set ddata hwn yn cwmpasu cyfnod yn ystod pandemig coronafeirws (COVID-19), sydd wedi effeithio ar y ffordd y mae rhai gwasanaethau'r GIG yn cael eu cynnig a dewisiadau pobl o ran gwasanaethau iechyd. Gweler y datganiad diweddaraf am ragor o wybodaeth.