Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Ystadegau Gwladol Galwadau ambiwlans mewn argyfwng ac ymatebion i alwadau coch, yn ôl Bwrdd Iechyd Lleol a’r mis
None
Dyddiad[Hidlwyd]
Côd Ardal[Hidlo]
Measure1
Mesur[Hidlo]
Ardal[Hidlwyd]
Cliciwch yma i ddidoliGalwadau cochFel rhan o’r adolygiad parhaus o’r model ymateb clinigol, mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn mynd ati’n rheolaidd i adolygu arferion trin galwadau a chategoreiddio digwyddiadau. Ymddengys fod diweddaru arferion trin galwadau yn yr haf  2019 wedi llwyddo i ddarparu at nifer uwch o ddigwyddiadau coch. Gwneir rhagor o waith i ddeall y newid hwn. Felly, nid oes modd ar hyn o bryd gymharu nifer digwyddiadau coch yn y misoedd diweddar. Gallai cynnydd yn nifer y digwyddiadau coch effeithio ar berfformiad oherwydd bod angen adnoddau ychwanegol i fynd at ddigwyddiad coch.Cliciwch yma i ddidoliGalwadau coch sy’n arwain at ymateb mewn argyfwng yn y fan a’r lleCliciwch yma i ddidoliGalwadau coch sy’n arwain at ymateb mewn argyfwng yn y fan a’r lle o fewn 8 munudCliciwch yma i ddidoliGalwadau coch – % yr ymatebion mewn argyfwng sy’n cyrraedd o fewn 8 munudFel rhan o’r adolygiad parhaus o’r model ymateb clinigol, mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn mynd ati’n rheolaidd i adolygu arferion trin galwadau a chategoreiddio digwyddiadau. Ymddengys fod diweddaru arferion trin galwadau yn yr haf  2019 wedi llwyddo i ddarparu at nifer uwch o ddigwyddiadau coch. Gwneir rhagor o waith i ddeall y newid hwn. Felly, nid oes modd ar hyn o bryd gymharu nifer digwyddiadau coch yn y misoedd diweddar. Gallai cynnydd yn nifer y digwyddiadau coch effeithio ar berfformiad oherwydd bod angen adnoddau ychwanegol i fynd at ddigwyddiad coch.Cliciwch yma i ddidoliGalwadau melynCliciwch yma i ddidoliGalwadau gwyrdd
CYMRU4,9324,8542,37448.925,1745,405
Betsi Cadwaladr1,1191,09754149.36,4741,179
Powys1931918645.01,176225
Hywel Dda58457826245.33,136638
Bae AbertaweO 1 Ebrill 2019, symudodd darpariaeth gwasanaeth iechyd trigolion awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Mae enwau\'r byrddau iechyd wedi newid; mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.68267033750.32,965561
Cwm Taf MorgannwgO 1 Ebrill 2019, symudodd darpariaeth gwasanaeth iechyd trigolion awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Mae enwau\'r byrddau iechyd wedi newid; mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.74172830942.43,175624
Aneurin Bevan90088545651.54,6981,313
Caerdydd a'r Fro71370538354.33,550865

Metadata

Teitl

Galwadau ambiwlans mewn argyfwng ac ymatebion i alwadau coch, yn ôl Bwrdd Iechyd Lleol a’r mis

Diweddariad diwethaf

18/04/2024 18/04/2024

Diweddariad nesaf

23/05/2024

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Cyswllt ebost

ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Dynodiad

Ystadegau Gwladol

Cwmpas daearyddol

Cymru

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Ansawdd ystadegol

Mae’r wybodaeth hon yn cael ei chynnwys yn yr adroddiad ansawdd perthnasol – gweler y ddolen.

Allweddeiriau

Ambiwlans

Disgrifiad cyffredinol

Ers mis Ebrill 2014, mae Byrddau Iechyd Lleol wedi bod yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau ambiwlans mewn argyfwng (galwadau 999) i’w preswylwyr lleol, ac mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi’i chomisiynu i ddarparu gwasanaethau ambiwlans mewn argyfwng ar eu rhan.

Fel y cyhoeddwyd mewn datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd, gweithredwyd model ymateb clinigol newydd yng Nghymru o 1 Hydref 2015.

Mae gan y model newydd dri chategori galwadau – Coch, Melyn a Gwyrdd:
• Coch – achosion brys, lle mae bywyd yn y fantol (mae rhywun mewn perygl o farw, fel trawiad ar y galon). Y targed yw ymateb i 65 y cant o’r galwadau hyn o fewn 8 munud.
• Melyn – Difrifol ond nid yw bywyd yn y fantol (gallai fod angen triniaeth a gofal yn y fan a'r lle ar y cleifion, ac yna gallai fod angen eu cludo i’r ysbyty). Ni fydd targed amser ar gyfer galwadau melyn, ond yn hytrach caiff ystod o ddangosyddion canlyniadau clinigol eu cyflwyno i fesur ansawdd, diogelwch a phrydlondeb wrth ddarparu gofal, ochr yn ochr â gwybodaeth am brofiad cleifion, a chyhoeddir bob chwarter.
• Gwyrdd – Galwadau nad ydynt yn ddifrifol (yn aml gellir eu rheoli drwy wasanaethau iechyd eraill) ac asesiad clinigol dros y ffôn. Nid oes targed amser swyddogol ar gyfer y galwadau hyn.

Ystyrir digwyddiadau y mae criwiau yn dod ar eu traws heb gael galwad mewn argyfwng ymlaen llaw (a elwir yn ‘running calls’ yn Saesneg) fel galwadau coch, yn y un modd â galwadau sy’n cael eu hateb gan un ai weithiwr gofal iechyd proffesiynol sydd â diffibriliwr, neu ddefnyddio ddiffibriliwr cyhoeddus.

Mae Galwadau Brys wedi’u Cynllunio i Weithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol¹ yn rhai gwyrdd. Lle bo bywyd yn y fantol, bydd y galwadau hyn yn cael eu blaenoriaethu’n derfynol trwy’r System Ddosbarthu Feddygol yn ôl Blaenoriaeth.
¹ Meddyg, Ymarferydd Cyffredinol, Ymarferydd Gofal Mewn Argyfwng, Nyrs, Nyrs Ardal, Bydwraig, Parafeddyg, Deintydd, Gweithiwr Cymdeithasol Cymeradwy.

O ganlyniad i’r newidiadau hyn, nid oes modd cymharu rhan fwyaf o’r data o’r cyfnod treialu â’r data cyn mis Hydref 2015. Dyma rai o’r gwahaniaethau:
• Mae categorïau galwadau A ac C wedi’u dileu ac mae galwadau yn ôl lliwiau wedi cymryd eu lle.
• Caniateir hyd at ddwy funud ychwanegol i’r gweithwyr sy’n ateb y galwadau er mwyn pennu’n gywir pa mor ddifrifol yw cyflwr y claf, a’i natur (ar gyfer y galwadau hynny lle nad yw bywyd yn y fantol), a’r adnodd clinigol sy’n ofynnol cyn rhyddhau ambiwlans.
• Mae cyfran fach o’r galwadau a ystyrir yn rhai coch 2 wedi’u symud i’r categori coch ac mae cyfran o’r galwadau wedi’u hail-gategoreiddio o goch 1. Mae hyn yn golygu nad oes modd cymharu perfformiad yr hen gategorïau coch 1/2 a’r categori coch presennol.
• O ganlyniad i’r newidiadau, bydd nifer y galwadau a dderbynnir sydd â tharged amser yn lleihau.
• Mae’r targed amser ymateb o 8 munud yn berthnasol i alwadau coch yn unig ac felly nid oes modd cymharu perfformiad y galwadau hyn cyn ac ar ôl 1 Hydref 2015.

Mae’n dal i fod yn bosibl cymharu cyfanswm nifer y galwadau a gafwyd cyn 1 Hydref 2015 â chyfanswm y nifer o dan y model presennol. Mae modd gwneud hyn drwy ychwanegu galwadau brys meddygon teulu – a gafodd eu nodi fel galwadau brys ac nid galwadau mewn argyfwng – cyn mis Rhagfyr 2011.

Felly, dim ond nifer cyffredinol y galwadau y mae modd eu cymharu dros amser. Ar gyfer yr holl fesurau eraill yn ystod y cyfnod treialu, bydd modd eu cymharu o fewn y model treialu yn unig.

Newidiadau yn ystod y cyfnod treialu
O 11 Tachwedd, bydd galwadau sy’n cael eu codio’n wreiddiol fel rhai melyn neu wyrdd lle mae’r claf yn gwaethygu yn ystod yr alwad gychwynnol yn cael eu hail-godio trwy Holi ac Ateb Proffesiynol neu drwy ddefnyddio cod dosbarthu â llaw/gwyrdroi’r galwadau i fod yn goch. Ar gyfer y galwadau hyn, mae’r cloc yn ailddechrau pan gaiff yr alwad ei hail-godio yn goch.

Bydd galwadau sy’n cael eu codio’n wreiddiol yn goch lle mae cyflwr y claf yn gwella yn ystod yr alwad gychwynnol yn cael eu hail-godio trwy Holi ac Ateb Proffesiynol neu drwy ddefnyddio cod dosbarthu â llaw/gwyrdroi’r galwadau i fod yn felyn neu’n wyrdd gan ddibynnu ar ei gyflwr. Ar gyfer y galwadau hyn, mae’r cloc yn ailddechrau pan gaiff yr alwad ei hail-godio yn felyn neu’n wyrdd.

Roedd effaith gyffredinol hyn yn golygu yr ymatebwyd i 37 galwad yn ychwanegol rhwng 11 a 30 Tachwedd o fewn y targed amser o 8 munud, gan gynyddu’r ganran sy’n cyrraedd yn ystod y targed hwn o 2.2 pwynt canran.


Casgliad data a dull cyfrifo

Ffurflen fisol gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, ar lefel Bwrdd Iechyd Lleol. Caiff data eu cyflwyno ar daenlen Excel a’u trosglwyddo i gronfa ddata Access. Yr Ymddiriedolaeth sy’n gwirio gan gynnwys tueddiadau misol ac yn delio ag unrhyw ymholiadau.

Amlder cyhoeddi

Misol

Cyfnodau data dan sylw

Yn fisol o fis Hydref 2015.

Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun

Mae’r wybodaeth hon yn cael ei chynnwys yn yr adroddiad ansawdd perthnasol – gweler y ddolen.