Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Ystadegau Gwladol Galwadau brys ambiwlans ac ymatebion i alwadau coch, yn ôl Bwrdd Iechyd Lleol a’r flwyddyn
None
Cod ardal[Hidlo]
Measure1
Mesur[Hidlo]
Blwyddyn[Hidlo]
Ardal[Hidlo]
[Lleihau]Galwadau coch[Lleihau]Galwadau coch sy’n arwain at ymateb mewn argyfwng yn y fan a’r lle[Lleihau]Galwadau coch sy’n arwain at ymateb mewn argyfwng yn y fan a’r lle o fewn 8 munud[Lleihau]Galwadau coch – % yr ymatebion mewn argyfwng sy’n cyrraedd o fewn 8 munud[Lleihau]Galwadau melyn[Lleihau]Galwadau gwyrdd
Cliciwch yma i ddidoli2016-17Cliciwch yma i ddidoli2017-18Cliciwch yma i ddidoli2018-19Cliciwch yma i ddidoli2016-17Cliciwch yma i ddidoli2017-18Cliciwch yma i ddidoli2018-19Cliciwch yma i ddidoli2016-17Cliciwch yma i ddidoli2017-18Cliciwch yma i ddidoli2018-19Cliciwch yma i ddidoli2016-17Cliciwch yma i ddidoli2017-18Cliciwch yma i ddidoli2018-19Cliciwch yma i ddidoli2016-17Cliciwch yma i ddidoli2017-18Cliciwch yma i ddidoli2018-19Cliciwch yma i ddidoli2016-17Cliciwch yma i ddidoli2017-18Cliciwch yma i ddidoli2018-19
Betsi Cadwaladr4,6734,9495,0384,6164,8864,9873,5573,7113,61177.176.072.470,99980,58783,56240,25036,31131,091
Powys73879796573178796150154263368.568.965.911,36213,04213,7496,9996,0145,323
Hywel Dda2,2912,7582,8232,2722,7342,7981,5861,8651,83569.868.265.633,87237,96339,49619,07316,97714,637
Abertawe Bro Morgannwg3,8964,4944,7473,8554,4464,7012,9063,3023,59375.474.376.450,45255,27954,27622,72520,12516,791
Cwm Taf1,8582,1482,3061,8392,1292,2851,3841,5421,65875.372.472.626,95929,80329,97013,12113,01810,622
Aneurin Bevan3,6574,0214,4463,6183,9864,3992,7612,9363,21076.373.773.053,31057,93357,24025,76023,76520,503
Caerdydd a'r Fro3,3983,7114,1133,3553,6714,0632,7863,0013,30483.081.781.343,39446,89046,28720,43818,85915,263
CYMRU20,51122,87824,43820,28622,63924,19415,48116,89917,84476.374.673.8290,348321,497324,580148,366135,069114,230

Metadata

Teitl

Galwadau brys ambiwlans ac ymatebion i alwadau coch, yn ôl Bwrdd Iechyd Lleol a’r flwyddyn

Diweddariad diwethaf

26 Mehefin 2019 26 Mehefin 2019

Diweddariad nesaf

Mehefin 2020

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Cyswllt ebost

ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Dynodiad

Ystadegau Gwladol

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Byrddau iechyd lleol

Cwmpas daearyddol

Cymru

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Disgrifiad cyffredinol

Ers mis Ebrill 2014, mae Byrddau Iechyd Lleol wedi bod yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau ambiwlans mewn argyfwng (galwadau 999) i’w preswylwyr lleol, ac mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi’i chomisiynu i ddarparu gwasanaethau ambiwlans mewn argyfwng ar eu rhan.

Fel y cyhoeddwyd mewn datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd, gweithredwyd model ymateb clinigol newydd yng Nghymru o 1 Hydref 2015.

Mae gan y model newydd dri chategori galwadau – Coch, Melyn a Gwyrdd:
• Coch – achosion brys, lle mae bywyd yn y fantol (mae rhywun mewn perygl o farw, fel trawiad ar y galon). Y targed yw ymateb i 65 y cant o’r galwadau hyn o fewn 8 munud.
• Melyn – Difrifol ond nid yw bywyd yn y fantol (gallai fod angen triniaeth a gofal yn y fan a'r lle ar y cleifion, ac yna gallai fod angen eu cludo i’r ysbyty). Ni fydd targed amser ar gyfer galwadau melyn, ond yn hytrach caiff ystod o ddangosyddion canlyniadau clinigol eu cyflwyno i fesur ansawdd, diogelwch a phrydlondeb wrth ddarparu gofal, ochr yn ochr â gwybodaeth am brofiad cleifion, a chyhoeddir bob chwarter.
• Gwyrdd – Galwadau nad ydynt yn ddifrifol (yn aml gellir eu rheoli drwy wasanaethau iechyd eraill) ac asesiad clinigol dros y ffôn. Nid oes targed amser swyddogol ar gyfer y galwadau hyn.

Ystyrir digwyddiadau y mae criwiau yn dod ar eu traws heb gael galwad mewn argyfwng ymlaen llaw (a elwir yn ‘running calls’ yn Saesneg) fel galwadau coch, yn y un modd â galwadau sy’n cael eu hateb gan un ai weithiwr gofal iechyd proffesiynol sydd â diffibriliwr, neu ddefnyddio ddiffibriliwr cyhoeddus.

Mae Galwadau Brys wedi’u Cynllunio i Weithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol¹ yn rhai gwyrdd. Lle bo bywyd yn y fantol, bydd y galwadau hyn yn cael eu blaenoriaethu’n derfynol trwy’r System Ddosbarthu Feddygol yn ôl Blaenoriaeth.
¹ Meddyg, Ymarferydd Cyffredinol, Ymarferydd Gofal Mewn Argyfwng, Nyrs, Nyrs Ardal, Bydwraig, Parafeddyg, Deintydd, Gweithiwr Cymdeithasol Cymeradwy.

O ganlyniad i’r newidiadau hyn, nid oes modd cymharu rhan fwyaf o’r data o’r cyfnod treialu â’r data cyn mis Hydref 2015. Dyma rai o’r gwahaniaethau:
• Mae categorïau galwadau A ac C wedi’u dileu ac mae galwadau yn ôl lliwiau wedi cymryd eu lle.
• Caniateir hyd at ddwy funud ychwanegol i’r gweithwyr sy’n ateb y galwadau er mwyn pennu’n gywir pa mor ddifrifol yw cyflwr y claf, a’i natur (ar gyfer y galwadau hynny lle nad yw bywyd yn y fantol), a’r adnodd clinigol sy’n ofynnol cyn rhyddhau ambiwlans.
• Mae cyfran fach o’r galwadau a ystyrir yn rhai coch 2 wedi’u symud i’r categori coch ac mae cyfran o’r galwadau wedi’u hail-gategoreiddio o goch 1. Mae hyn yn golygu nad oes modd cymharu perfformiad yr hen gategorïau coch 1/2 a’r categori coch presennol.
• O ganlyniad i’r newidiadau, bydd nifer y galwadau a dderbynnir sydd â tharged amser yn lleihau.
• Mae’r targed amser ymateb o 8 munud yn berthnasol i alwadau coch yn unig ac felly nid oes modd cymharu perfformiad y galwadau hyn cyn ac ar ôl 1 Hydref 2015.

Mae’n dal i fod yn bosibl cymharu cyfanswm nifer y galwadau a gafwyd cyn 1 Hydref 2015 â chyfanswm y nifer o dan y model presennol. Mae modd gwneud hyn drwy ychwanegu galwadau brys meddygon teulu – a gafodd eu nodi fel galwadau brys ac nid galwadau mewn argyfwng – cyn mis Rhagfyr 2011.

Felly, dim ond nifer cyffredinol y galwadau y mae modd eu cymharu dros amser. Ar gyfer yr holl fesurau eraill yn ystod y cyfnod treialu, bydd modd eu cymharu o fewn y model treialu yn unig.

Newidiadau yn ystod y cyfnod treialu
O 11 Tachwedd, bydd galwadau sy’n cael eu codio’n wreiddiol fel rhai melyn neu wyrdd lle mae’r claf yn gwaethygu yn ystod yr alwad gychwynnol yn cael eu hail-godio trwy Holi ac Ateb Proffesiynol neu drwy ddefnyddio cod dosbarthu â llaw/gwyrdroi’r galwadau i fod yn goch. Ar gyfer y galwadau hyn, mae’r cloc yn ailddechrau pan gaiff yr alwad ei hail-godio yn goch.

Bydd galwadau sy’n cael eu codio’n wreiddiol yn goch lle mae cyflwr y claf yn gwella yn ystod yr alwad gychwynnol yn cael eu hail-godio trwy Holi ac Ateb Proffesiynol neu drwy ddefnyddio cod dosbarthu â llaw/gwyrdroi’r galwadau i fod yn felyn neu’n wyrdd gan ddibynnu ar ei gyflwr. Ar gyfer y galwadau hyn, mae’r cloc yn ailddechrau pan gaiff yr alwad ei hail-godio yn felyn neu’n wyrdd.

Roedd effaith gyffredinol hyn yn golygu yr ymatebwyd i 37 galwad yn ychwanegol rhwng 11 a 30 Tachwedd o fewn y targed amser o 8 munud, gan gynyddu’r ganran sy’n cyrraedd yn ystod y targed hwn o 2.2 pwynt canran.


Casgliad data a dull cyfrifo

Ffurflen fisol gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, ar lefel Bwrdd Iechyd Lleol. Caiff data eu cyflwyno ar daenlen Excel a’u trosglwyddo i gronfa ddata Access. Yr Ymddiriedolaeth sy’n gwirio gan gynnwys tueddiadau misol ac yn delio ag unrhyw ymholiadau.

Amlder cyhoeddi

Blynyddol

Cyfnodau data dan sylw

2016-17 ymlaen

Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun

Mae’r wybodaeth hon yn cael ei chynnwys yn yr adroddiad ansawdd perthnasol – gweler y ddolen.

Allweddeiriau

Ambiwlans

Ansawdd ystadegol

Mae’r wybodaeth hon yn cael ei chynnwys yn yr adroddiad ansawdd perthnasol – gweler y ddolen.