Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Ystadegau Arbrofol Llwybrau Gofal Oedi fesul darparwr bwrdd iechyd lleol a dyddiad

Mae'r data'n dangos nifer yr oedolion a oedd yn defnyddio gwely ysbyty'r GIG, a oedd yn barod yn glinigol i ddychwelyd adref neu symud ymlaen i'r cam nesaf o ofal, a brofodd oedi wrth drosglwyddo o fwy na 48 awr y tu hwnt i'r pwynt yr oeddent mewn sefyllfa i gael eu rhyddhau. Mae 'cam nesaf o ofal' yn cyfeirio at bob cyrchfan y tu allan i ysbytai'r GIG. Mae'r ffigurau yn rhoi cipolwg o'r oedi presennol sy'n cael eu gweld ar drydydd dydd Mercher pob mis ledled Cymru. Nid ydynt yn adlewyrchu sawl achos o oedi a fu yn ystod y mis.

None
[Lleihau]Awdurdod lleol[Hidlwyd]
-
Awdurdod lleol 1[Hidlo]
[Lleihau]Rheswm dros oedi[Hidlwyd]
-
[Lleihau]Rheswm dros oedi 1[Hidlo]
-
Rheswm dros oedi 2[Hidlo]
Measure1
[Lleihau]Bwrdd Iechyd Lleol[Hidlo]
-
Bwrdd Iechyd Lleol 1
Dyddiad[Hidlo]
[Lleihau]CymruCliciwch yma i ddidoliCymru
Cliciwch yma i ddidoliBwrdd Iechyd Prifysgol Betsi CadwaladrCliciwch yma i ddidoliBwrdd Iechyd Addysgu PowysCliciwch yma i ddidoliBwrdd Iechyd Prifysgol Hywel DdaCliciwch yma i ddidoliBwrdd Iechyd Prifysgol Bae AbertaweCliciwch yma i ddidoliBwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r FroCliciwch yma i ddidoliBwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf MorgannwgCliciwch yma i ddidoliBwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin BevanCliciwch yma i ddidoliFelindre
Ebrill 202332659278294247296250.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol1,750
Mai 20232906923025721723322731,526
Mehefin 20233436324725621625824111,625
Gorffennaf 20233436525621817625525521,570
Awst 20233406323819816030125111,552
Medi 20233546522223217329126011,598
Hydref 20233396019221119128826821,551
Tachwedd 202333552227205202282264.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol1,567
Rhagfyr 202332356190193149224226.Nid yw\'r eitem ddata yn berthnasol1,361
Ionawr 20243625920721817326226611,548
Chwefror 20243245621223723833024021,639
Mawrth 20243477022024321133623221,661

Metadata

Disgrifiad cyffredinol

Mae oedi wrth ryddhau cleifion yn digwydd pan na all claf sy'n barod yn glinigol i gael ei ryddhau adael yr ysbyty oherwydd nad yw'r gofal a'r cymorth parhaus angenrheidiol neu lety addas ar ei gyfer ar gael eto.
Mae'r data yn dangos nifer yr oedolion a oedd yn defnyddio gwely ysbyty'r GIG, a oedd yn ffit yn glinigol ac yn barod i ddychwelyd adref neu symud ymlaen i'r cam nesaf o ofal, a brofodd oedi wrth drosglwyddo o fwy na 48 awr y tu hwnt i'r pwynt yr oeddent yn ffit yn glinigol i gael eu rhyddhau. Mae 'cam nesaf o ofal' yn cyfeirio at bob cyrchfan y tu allan i ysbytai'r GIG.
Mae'r ffigurau yn rhoi cipolwg o'r achosion presennol o oedi sy'n cael eu gweld ar ddiwrnod penodol bob mis ledled Cymru. Nid ydynt yn adlewyrchu cyfanswm yr achosion o oedi a ddigwyddodd dros y mis.
Defnyddir y data i fonitro nifer yr achosion o oedi, a'r rhesymau dros yr achosion hynny, gan gynorthwyo partneriaid yn y GIG ac Awdurdodau Lleol i ddatblygu cynlluniau rhanbarthol gyda ffocws ar gamau gweithredu sy'n seiliedig ar ganlyniadau i leihau oedi wrth ryddhau ar draws y system iechyd.


Casgliad data a dull cyfrifo

Mae data yn cael eu darparu gan Fyrddau Iechyd Lleol a'u dilysu ar y cyd â phartneriaid yn yr Awdurdodau Lleol.
Mae Oedi mewn Llwybrau Gofal yn gyfrifiad cipolwg o'r bobl sy'n profi oedi wrth eu rhyddhau a'r rheswm dros hynny ar bwynt penodol bob mis. Mae'n ofynnol i Fyrddau Iechyd echdynnu'r data o systemau lleol ar ddiwrnod y cyfrifiad bob mis, a dilysu'r oedi gyda phartneriaid yn yr Awdurdodau Lleol. Yn dilyn hynny, cofnodir cofnodion data drwy gyfrwng teclyn ar y we a'u cyflwyno i GIG Cymru.


Amlder cyhoeddi

Misol

Cyfnodau data dan sylw

Ebrill 2023 ymlaen

Gwybodaeth am ddiwygiadau

Mae data yn destun adolygiad

Teitl

Oedi yn achos Llwybrau Gofal

Diweddariad diwethaf

18/04/2024 18/04/2024

Diweddariad nesaf

23/05/2024

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Oedi yn achos Llwybrau Gofal, Uned Gyflawni’r GIG

Cyswllt ebost

ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Dynodiad

Ystadegau arbrofol

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Awdurdodau lleol

Cwmpas daearyddol

Byrddau iechyd lleol

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Ansawdd ystadegol

Mae data yn cael eu darparu gan Fyrddau Iechyd Lleol a'u dilysu ar y cyd â phartneriaid yn yr Awdurdodau Lleol.
Mae Oedi mewn Llwybrau Gofal yn gyfrifiad cipolwg o'r bobl sy'n profi oedi wrth eu rhyddhau a'r rheswm dros hynny ar bwynt penodol bob mis. Mae'n ofynnol i Fyrddau Iechyd echdynnu'r data o systemau lleol ar ddiwrnod y cyfrifiad bob mis, a dilysu'r oedi gyda phartneriaid yn yr Awdurdodau Lleol. Yn dilyn hynny, cofnodir cofnodion data drwy gyfrwng teclyn ar y we a'u cyflwyno i GIG Cymru.
Ar ddechrau pandemig COVID-19, ataliodd Llywodraeth Cymru ofynion adrodd ar oedi wrth drosglwyddo gofal (DTOC), ynghyd â llawer o setiau data eraill. Cyflwynodd Llywodraeth Cymru’r Gofynion gwasanaeth rhyddhau o'r ysbyty: COVID-19 | LLYW.CYMRU, a oedd yn cynnwys proses wedi'i diweddaru ar gyfer rhyddhau cleifion gyda mwy o ffocws ar adsefydlu ac ailalluogi i wella llif cleifion a chefnogi canlyniadau gwell.
O fis Gorffennaf 2020, roedd data am oedi wrth ryddhau cleifion yn cael eu casglu fel gwybodaeth reoli yn wythnosol. Ni chafodd y data hyn eu dilysu yn ffurfiol.
O ganlyniad, fel proses ffurfiol newydd, mae Oedi yn achos Llwybrau Gofal (POCD) wedi'i ddatblygu a'i brofi i ddisodli DTOC. Mae'r system hon bellach wedi'i chyflwyno ar draws yr holl Fyrddau Iechyd Lleol a'r Awdurdodau Lleol ac mae'r data cyntaf sydd wedi'u dilysu yn llawn ac sydd wedi'u sicrhau o ran ansawdd ar gael o fis Ebrill 2023.
Mae canllawiau rhyddhau Llywodraeth Cymru (Gofynion gwasanaeth rhyddhau o'r ysbyty: COVID-19 | LLYW.CYMRU) yn nodi'r dull diofyn o ran rhyddhau cleifion o'r ysbytai – llwybrau Rhyddhau i Adfer yna Asesu (D2RA) (neu 'lwybrau adfer').
Mae'r dull D2RA yn seiliedig ar dystiolaeth o ganlyniadau gwell i bobl sy'n trosglwyddo cyn gynted â phosibl i'w preswylfa arferol neu leoliad gofal addas arall ar gyfer adsefydlu neu ailalluogi cyn asesiadau ar gyfer gofal tymor hwy. Gallai llwybr D2RA (neu lwybr adfer) fod yng nghartref person ei hun, mewn ysbyty gymuned neu mewn lleoliad cam-i-lawr arall.


Allweddeiriau

Discharge Discharges