Gweithgarwch gwasanaeth 111 yng Nghymru, yn ôl dyddiad a mesur
Cyhoeddir data ar gyfer nifer y: galwadau a gynigir, a atebwyd ac a adawyd ar gyfer gwasanaeth 111 y GIG yng Nghymru.
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Gwybodaeth cryno
- Dolenni'r we
- Data agored
Teitl
Galwadau i'r gwasanaeth 111 yng Nghymru, yn ôl dyddiad a mesurDiweddariad diwethaf
21/11/2024Diweddariad nesaf
19/12/2024Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans CymruCyswllt ebost
ystadegau.iechyd@llyw.cymruDynodiad
Gwybodaeth reolaetholLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
CymruCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegAllweddeiriau
Galwadau 111Ansawdd ystadegol
I weld y wybodaeth hon, dilynwch y ddolen i’r cyhoeddiad ystadegol perthnasol.Sylwch fod y data a gynhwysir yn y set ddata hwn yn cwmpasu cyfnod yn ystod pandemig coronafeirws (COVID-19), sydd wedi effeithio ar y ffordd y mae rhai gwasanaethau'r GIG yn cael eu cynnig a dewisiadau pobl o ran gwasanaethau iechyd. Gweler y datganiad diweddaraf am ragor o wybodaeth.
Disgrifiad cyffredinol
Cyhoeddir data ar gyfer nifer y: galwadau a gynigir, a atebwyd ac a adawyd ar gyfer gwasanaeth 111 y GIG yng Nghymru.Cyfanswm nifer y galwadau a 'gynigir' i'r gwasanaeth 111 yn ystod y mis yw cyfanswm nifer y galwadau a atebwyd ac a adawyd. Mae galwad yn cael ei hystyried yn 'gynnig' cyn gynted a bydd yr alwad yn cysylltu â system teleffonau’r gwasanaeth.
Dosberthir galwadau fel rhai a atebwyd os atebwyd yr alwad gan driniwr galwadau 111. Dosberthir galwadau fel rhai 'wedi'u gadael' pe bai'r galwr yn hongian cyn i'r alwad gael ei hateb gan driniwr galwadau 111 ar ôl y neges a recordiwyd ymlaen llaw (neu ar ôl y 30 eiliad gychwynnol os nad oes neges wedi'i recordio ymlaen llaw).
Cyhoeddir data hefyd ar gyfer nifer y galwadau a wnaed i'r gwasanaeth 111 yn ystod y mis lle nododd y galwr eu bod yn dymuno cynnal yr alwad yn Gymraeg.
Casgliad data a dull cyfrifo
Mae byrddau iechyd lleol yn cyflwyno data i WAST sy'n darparu darn data cyfunol i Lywodraeth Cymru bob mis.Amlder cyhoeddi
MisolCyfnodau data dan sylw
Ebrill 2022 ymlaenDefnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Cyn pandemig COVID-19 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddata ar alwadau i Galw Iechyd Cymru. Yn ystod nifer o flynyddoedd, cafodd Galw Iechyd Cymru ei ddiddymu'n raddol ar draws y byrddau iechyd a'i ddisodli gan y gwasanaeth 111. Gan nad oedd data bellach yn gyson ledled Cymru, daeth y broses o gyhoeddi'r ystadegau a ryddhawyd i ben. Erbyn canol mis Mawrth roedd pob bwrdd iechyd wedi gweithredu'r system 111, felly roedd yn bosibl cyhoeddi cyfres ystadegol newydd. Y cyfnod cyntaf y mae data ar gael ar ei gyfer yw Ebrill 2022.Yn ystod pandemig COVID-19 darparodd YGAC wybodaeth reoli am alwadau i Galw Iechyd Cymru ac 111 fel y gellid monitro'r gwasanaeth.
Gwybodaeth am ddiwygiadau
Mae’r data yn agored i newid.Diwygiwyd data gwirio symptomau a gwblhawyd ar gyfer Ebrill a Mai ar 21/07/2022.
Darganfu WAST fod rhai gwiriadau symptomau a gwblhawyd yn cael eu cyfrif fwy nag unwaith, yn yr achos lle roedd defnyddiwr wedi dychwelyd i'r dudalen flaenorol ar ôl derbyn canlyniad a naill ai'n ailgyflwyno ei ateb neu'n ei newid. Mae methodoleg newydd wedi'i dyfeisio sy'n cyfrif y canlyniad diweddaraf ar gyfer y sesiwn yn unig, ni waeth faint o weithiau y gallai'r defnyddiwr fod wedi cyrraedd canlyniad trwy newid y wybodaeth a ddarparwyd ganddynt.
Dolenni'r we
https://llyw.cymru/crynodeb-perfformiad-gweithgaredd-y-gig?_ga=2.134281144.899861144.1652260955-1768551579.1635416404https://llyw.cymru/crynodeb-perfformiad-gweithgaredd-y-gig-adroddiad-ansawdd