Llinell gymorth 24 awr yw Galw Iechyd Cymru, lle bydd nyrsys yn cynnig cyngor cyfrinachol ynghylch iechyd, salwch a'r GIG. Mae Galw Iechyd Cymru yn ateb galwadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Drwy’r llinell ieithoedd, mae hefyd yn ateb galwadau mewn mwy na 120 o ieithoedd eraill.
Casgliad data a dull cyfrifo
Darperir y data gan yr Adran Gwybodeg Iechyd yn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
Yn fisol ers mis Gorffennaf 2000 i fis Fawrth 2020
Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Mae'r wybodaeth hon wedi'i chynnwys yn y datganiad ystadegol - gweler y ddolen gyswllt.
Ansawdd ystadegol
Cyrchwyd y data o set ddata weithredol a ddarparwyd gan Galw Iechyd Cymru. Cynhelir gwiriadau rheolaidd er mwyn sicrhau bod y data yn gyson ac yn gwneud synnwyr.