Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Bwydo ar y fron yn ôl oedran y babi a grŵp ethnig
None
Mesur[Hidlwyd]
Blwyddyn[Hidlwyd]
Measure1
Statws[Hidlo]
Oedran y babi[Hidlo]
[Lleihau]Grwp ethnig[Hidlo]
-
-
Grwp ethnig 1
[Lleihau]Bwydo ar y fron[Lleihau]Ddim yn bwydo ar y fron[Lleihau]Heb ei nodi[Lleihau]Cofnodion â data dilys[Lleihau]Cyfanswm
Cliciwch yma i ddidoliBwriadNi wnaeth Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan ddarparu data wedi’i gofnodi’n gywir ar gyfer yr eitem ddata bwriad i fwydo ar y fron yn 2024 felly mae wedi’i eithrio o’r data bwriad i fwydo ar y fron.Cliciwch yma i ddidoliGeniCliciwch yma i ddidoli10 diwrnod oedCliciwch yma i ddidoli6 wythnos oedCliciwch yma i ddidoli6 mis oedCliciwch yma i ddidoliBwriadNi wnaeth Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan ddarparu data wedi’i gofnodi’n gywir ar gyfer yr eitem ddata bwriad i fwydo ar y fron yn 2024 felly mae wedi’i eithrio o’r data bwriad i fwydo ar y fron.Cliciwch yma i ddidoliGeniCliciwch yma i ddidoli10 diwrnod oedCliciwch yma i ddidoli6 wythnos oedCliciwch yma i ddidoli6 mis oedCliciwch yma i ddidoliBwriadNi wnaeth Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan ddarparu data wedi’i gofnodi’n gywir ar gyfer yr eitem ddata bwriad i fwydo ar y fron yn 2024 felly mae wedi’i eithrio o’r data bwriad i fwydo ar y fron.Cliciwch yma i ddidoliGeniCliciwch yma i ddidoli10 diwrnod oedCliciwch yma i ddidoli6 wythnos oedCliciwch yma i ddidoli6 mis oedCliciwch yma i ddidoliBwriadNi wnaeth Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan ddarparu data wedi’i gofnodi’n gywir ar gyfer yr eitem ddata bwriad i fwydo ar y fron yn 2024 felly mae wedi’i eithrio o’r data bwriad i fwydo ar y fron.Cliciwch yma i ddidoliGeniCliciwch yma i ddidoli10 diwrnod oedCliciwch yma i ddidoli6 wythnos oedCliciwch yma i ddidoli6 mis oedCliciwch yma i ddidoliBwriadNi wnaeth Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan ddarparu data wedi’i gofnodi’n gywir ar gyfer yr eitem ddata bwriad i fwydo ar y fron yn 2024 felly mae wedi’i eithrio o’r data bwriad i fwydo ar y fron.Cliciwch yma i ddidoliGeniCliciwch yma i ddidoli10 diwrnod oedCliciwch yma i ddidoli6 wythnos oedCliciwch yma i ddidoli6 mis oed
[Lleihau]Pob grwp ethnig130.0129.3112.783.861.270.070.787.3115.1138.84.213.020.749.353.7195.8187.0179.3150.7146.3.Nid yw\'r eitem o ddata yn gymwys.Nid yw\'r eitem o ddata yn gymwys.Nid yw\'r eitem o ddata yn gymwys.Nid yw\'r eitem o ddata yn gymwys.Nid yw\'r eitem o ddata yn gymwys
Pob grwp ethnigAsiaiddPacistanaidd, Bangladeshaidd, Tsieineaidd, Indiaidd, unrhyw gefndir Asiaidd arall159.0159.8172.5142.2103.241.040.227.557.896.88.214.416.188.088.7191.8185.6183.9112.0111.3.Nid yw\'r eitem o ddata yn gymwys.Nid yw\'r eitem o ddata yn gymwys.Nid yw\'r eitem o ddata yn gymwys.Nid yw\'r eitem o ddata yn gymwys.Nid yw\'r eitem o ddata yn gymwys
DuAffricanaidd, Caribïaidd, unrhyw gefndir du arall159.6164.1184.6172.7142.740.435.915.427.357.310.013.918.988.489.2190.0186.1181.1111.6110.8.Nid yw\'r eitem o ddata yn gymwys.Nid yw\'r eitem o ddata yn gymwys.Nid yw\'r eitem o ddata yn gymwys.Nid yw\'r eitem o ddata yn gymwys.Nid yw\'r eitem o ddata yn gymwys
Cymysg/LluosogGwyn ac Asiaidd, gwyn a du Affricanaidd, gwyn a du Caribïaidd, unrhyw gefndir cymysg arall146.2144.5141.7113.182.753.855.558.386.9117.310.517.016.482.278.1189.5183.0183.6117.8121.9.Nid yw\'r eitem o ddata yn gymwys.Nid yw\'r eitem o ddata yn gymwys.Nid yw\'r eitem o ddata yn gymwys.Nid yw\'r eitem o ddata yn gymwys.Nid yw\'r eitem o ddata yn gymwys
GwynUnrhyw gefndir gwyn125.6121.0103.575.253.374.479.096.5124.8146.74.216.122.656.662.4195.8183.9177.4143.4137.6.Nid yw\'r eitem o ddata yn gymwys.Nid yw\'r eitem o ddata yn gymwys.Nid yw\'r eitem o ddata yn gymwys.Nid yw\'r eitem o ddata yn gymwys.Nid yw\'r eitem o ddata yn gymwys
Arall158.9160.0169.9138.4104.441.140.030.161.695.68.514.916.685.488.8191.5185.1183.4114.6111.2.Nid yw\'r eitem o ddata yn gymwys.Nid yw\'r eitem o ddata yn gymwys.Nid yw\'r eitem o ddata yn gymwys.Nid yw\'r eitem o ddata yn gymwys.Nid yw\'r eitem o ddata yn gymwys
Heb ei nodi131.3134.2111.086.963.168.765.889.0113.1136.92.17.018.526.632.9197.9193.0181.5173.4167.1.Nid yw\'r eitem o ddata yn gymwys.Nid yw\'r eitem o ddata yn gymwys.Nid yw\'r eitem o ddata yn gymwys.Nid yw\'r eitem o ddata yn gymwys.Nid yw\'r eitem o ddata yn gymwys

Metadata

Teitl

Bwydo ar y fron yn ôl oedran y babi a grwp ethnig, 2018-2024

Diweddariad diwethaf

Awst 2025 Awst 2025

Diweddariad nesaf

Gorffennaf 2026 (dros dro)

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Cronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD), Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC)

Ffynhonnell 2

Maternity Indicators data set

Cyswllt ebost

ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cwmpas daearyddol

Cymru

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Allweddeiriau

Iechyd plant; Genedigaethau; bwydo ar y fron; ethnigrwydd

Disgrifiad cyffredinol

Mae’r ystadegau hyn yn deillio o ddwy ffynhonnell ddata sef set ddata Dangosyddion Mamolaeth lle cofnodir bwriad mam i fwydo ar y fron cyn genedigaeth a’r Gronfa Ddata Genedlaethol Iechyd Plant Cymunedol lle cofnodir data o ran bwydo ar y fron adeg genedigaeth ac ar gyfer babanod sy’n 10 diwrnod, 6 wythnos a 6 mis oed ac mae’n cyfeirio at gofnodion lle cofnodwyd unrhyw fwydo ar y fron. Darperir y ffynonellau data hyn i Lywodraeth Cymru gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru.
Sefydlwyd set ddata Dangosyddion Mamolaeth yn 2016. Mae’n cyfuno cofnodion o asesiad cychwynnol ynglyn â’r fam â chofnodion geni’r plentyn gan alluogi Llywodraeth Cymru i fonitro ei set gychwynnol o ddangosyddion canlyniadau a mesurau perfformiad (Dangosyddion Mamolaeth). Sefydlwyd y rhain i fesur effeithiolrwydd ac ansawdd gwasanaethau mamolaeth Cymru. Mae’r set ddata Dangosyddion Mamolaeth yn caniatáu inni ddadansoddi nodweddion beichiogrwydd y fam a’r broses eni, y mae ‘bwriad i fwydo ar y fron’ yn un ohonynt. Mae’r broses o gynhyrchu’r data hwn yn gymhleth, yn bennaf oherwydd y gellir cael data asesiadau cychwynnol lluosog ac nad yw cofnodion asesiadau cychwynnol a genedigaethau’n gyflawn bob amser.
Sefydlwyd y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn 2004 ac mae’n cynnwys cofnodion dienw yr holl blant sydd wedi’u geni yng Nghymru, sy’n byw yng Nghymru neu sydd wedi cael triniaeth yng Nghymru ar ôl 1987. Mae’r gronfa ddata yn dwyn ynghyd ddata o gronfeydd data lleol y System Iechyd Plant Cymunedol sy’n cael eu cadw gan fyrddau iechyd lleol. Prif swyddogaeth y gronfa ddata yw darparu cofnod ar-lein o iechyd a gofal plentyn o’r adeg y caiff ei eni nes bydd yn cyrraedd oed gadael ysgol. Mae’r ystadegau yn y datganiad hwn yn seiliedig ar y data a gofnodwyd adeg genedigaeth ac yn fuan wedi genedigaeth.
Mae manylion llawn pob eitem ddata sydd ar gael yn y set ddata Dangosyddion Mamolaeth a’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol ar gael yng Ngeiriadur Data GIG Cymru: http://www.datadictionary.wales.nhs.uk/#!WordDocuments/datasetstructure20.htm
Mae’r geiriadur data hefyd yn diffinio sut y mae grwpiau ethnig yn cael eu dosbarthu, fel a ganlyn: Gwyn (unrhyw gefndir gwyn); Asiaidd (Pacistanaidd, Bangladeshaidd, Tsieineaidd, Indiaidd, unrhyw gefndir Asiaidd arall); Cymysg neu Aml-ethnig (gwyn ac Asiaidd, gwyn a du Affricanaidd, gwyn a Du Caribïaidd, unrhyw gefndir cymysg arall); Arall (unrhyw grwp ethnig arall); Du (Affricanaidd, Caribïaidd, unrhyw gefndir du arall).


Casgliad data a dull cyfrifo

Mae’r data o set ddata Dangosyddion Mamolaeth dim ond yn cynnwys data asesiadau cychwynnol lle’r oedd yr asesiad cychwynnol a’r enedigaeth wedi digwydd yn yr un bwrdd iechyd, a hynny yng Nghymru yn unig.
Dylai’r data gynnwys pob genedigaeth yn yr ysbyty a rhai genedigaethau yn y cartref, fodd bynnag, oherwydd y ffordd y caiff y data ei gofnodi, nid ydym yn gallu gwahaniaethu rhwng genedigaethau yn y cartref a genedigaethau yn yr ysbyty mewn rhai byrddau iechyd. Nid yw genedigaethau i famau sy’n byw yng Nghymru a roddodd enedigaeth yn Lloegr neu mewn unrhyw wlad arall y tu allan i Gymru wedi’u cynnwys yn y data.
Mae data ar gyfer pob blwyddyn galendr yn cyfeirio at ba bryd y ganed y babi ar gyfer ystadegau genedigaeth ac asesiad cychwynnol. Mae’n bosibl bod asesiadau cychwynnol wedi digwydd yn y flwyddyn flaenorol, ond cânt eu cyfrif ym mlwyddyn yr enedigaeth. Mae hyn yn sicrhau bod data gydol beichiogrwydd unigol yn cael ei gofnodi yn yr un flwyddyn.
Mae’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn cynnwys cofnodion ar gyfer pob plentyn sydd wedi’i eni, sy’n byw neu sy’n defnyddio gwasanaethau yn eu byrddau iechyd perthnasol. Mae hyn yn golygu bod y gronfa ddata yn cynnwys rhywfaint o wybodaeth ar gyfer rhai plant nad ydynt yn byw yng Nghymru ar hyn o bryd, fodd bynnag, oni nodir yn wahanol, mae’r holl ystadegau a gynhyrchir o ddata o’r gronfa ddata hon yn cael eu hidlo i gynnwys dim ond y plant hynny sydd wedi’u geni yng Nghymru. Mae hefyd yn golygu bod data ar gael ar gyfer mamau sy’n byw yng Nghymru a roddodd enedigaeth yn Lloegr.
Mae data ar fwydo ar y fron adeg genedigaeth, 10 diwrnod, 6 wythnos a 6 mis oed yn cyfeirio at yr amser lle digwyddodd hynny, yn hytrach na phryd y cafodd y plentyn ei eni. Mae’r canrannau yn adlewyrchu cyfanswm y cofnodion lle nodwyd statws bwydo ar y fron. Mae cyfanswm nifer y cofnodion ar gyfer cyfrifiadau canran ym mhob pwynt fel a ganlyn: nifer y menywod a fydd yn rhoi genedigaeth am ‘Bwriad i fwydo ar y fron’; pob genedigaeth fyw ar gyfer ‘genedigaeth’; ac o ran babanod sy’n cyrraedd yr oedran cyfeirio ar gyfer pob pwynt oedran arall.
Mae’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn cofnodi genedigaethau byw a marw-enedigaethau, fodd bynnag, dim ond at enedigaethau byw y mae’r dadansoddiad hwn yn cyfeirio.
Mae bwriad i fwydo ar y fron yn seiliedig ar grwp ethnig y fam, ond mae cyfraddau bwydo ar y fron ar adegau eraill yn cyfeirio at grwp ethnig y babi. Darperir diffiniadau o grwpiau ethnig yn yr adroddiad ansawdd (https://www.llyw.cymru/data-bwydo-ar-y-fron-adroddiad-ansawdd).

Amlder cyhoeddi

Blynyddol

Cyfnodau data dan sylw

2018-2024

Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun

Bydd yr ystadegau hyn yn cael eu defnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd. Dyma ambell enghraifft:
• rhoi cyngor i Weinidogion
• llywio trafodaethau yn y Senedd a thu hwnt
• sicrhau bod data ar gael i’r cyhoedd ar ystadegau iechyd plant yng Nghymru
• monitro’r modd y caiff gwasanaethau eu darparu
• datblygu polisïau
• darparu cyngor ar ddewisiadau genedigaeth.
Mae prif ddefnyddwyr yr ystadegau fel a ganlyn:
• Gweinidogion, swyddogion polisi a Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau
• byrddau iechyd lleol
• y cyhoedd
• y gymuned ymchwil
• myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
• Iechyd Cyhoeddus Cymru a sefydliadau eraill y GIG
• sefydliadau genedigaeth gwirfoddol.

Talgrynnu wedi'u ddefnyddio

Nid yw’r data wedi’i dalgrynnu

Gwybodaeth am ddiwygiadau

Mae set ddata Dangosyddion Mamolaeth a’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn gronfeydd data byw, sy’n golygu y gall byrddau iechyd ddiwygio data ar gyfer unrhyw gyfnod. Ar gyfer y data hwn, mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cymryd dyfyniadau data o un pwynt amser penodol, ar gyfer y flwyddyn galendr ddiweddaraf. Mae hyn yn golygu y gallai dyfyniadau data a gymerwyd ar gyfer cyfnodau amser blaenorol fod yn wahanol i’r data a gyhoeddir gan ei fod efallai wedi’i ddiwygio gan fyrddau iechyd. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud newidiadau i ddata hanesyddol oni bai y caiff gwallau eu canfod.

Ansawdd ystadegol

Mae data bwydo ar y fron ar bob adeg yn destun problemau o ran ansawdd data gan fod gan rai mamau a babanod gofnodion anghyflawn. Cesglir data bwydo ar y fron ar 10 diwrnod, 6 wythnos a 6 mis oed pan fydd gan y plant apwyntiadau ymwelydd iechyd a meddyg teulu drwy Raglen Plant Iach Cymru. Pe na bai’r plentyn yn cael cyswllt o’r fath, mae’n bosibl y bydd data’r plentyn ynghylch bwydo ar y fron ar goll ar gyfer y pwynt cyswllt hwnnw. Nid oes gan bob cofnod ar y set ddata Dangosyddion Mamolaeth a’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol gofnodion cyflawn ar gyfer statws bwydo ar y fron. Mae’r gyfradd gyflawnrwydd yn gostwng gydag oedran y babi ac yn 2024, roedd fel a ganlyn: 98% ar gyfer bwriad i fwydo ar y fron; 92% ar adeg genedigaeth; 88% ar 10 diwrnod oed; 79% ar chwe wythnos oed a 78% ar 6 mis oed. Gellir dod o hyd i dabl cyflawnrwydd ar gyfer yr holl eitemau data a ddefnyddir yn y datganiad hwn o’r ddwy ffynhonnell ddata yn yr adroddiad ansawdd (https://www.llyw.cymru/data-bwydo-ar-y-fron-adroddiad-ansawdd).
Nid yw Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi darparu data wedi’i gofnodi’n gywir ar gyfer yr eitem ddata bwriad i fwydo ar y fron yn 2024 felly mae wedi’i eithrio o’r dadansoddiad ynghylch bwriad i fwydo ar y fron. O ran 2024, mae data ar gyfer Cymru yn cynrychioli’r c bwrdd iechyd sy’n weddill ar gyfer bwriad i fwydo ar y fron. Mae pob bwrdd iechyd wedi’i gynnwys ar gyfer y pwyntiau oedran eraill.

Effeithiwyd ar y gwaith o gyflawni’r rhaglen hon gan COVID-19 ac mae wedi arwain at gynnydd bach mewn data sydd ar goll ynghylch bwydo ar y fron rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2020. Mae canran y data coll ar gyfer y chwarter mis Gorffennaf i fis Medi 2020 yn unol â lefelau cyn-COVID-19.

O 1 Ebrill 2019 ymlaen, symudodd darpariaeth y gwasanaeth iechyd ar gyfer preswylwyr awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Am ragor o wybodaeth, gweler y datganiad ar y cyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (gweler dolenni). Mae enwau’r byrddau iechyd wedi newid; gelwir Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf bellach yn Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a gelwir Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bellach yn Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Mae data ar gyfer Abertawe Bro Morgannwg a Chwm Taf ar gael ar gyfer blynyddoedd blaenorol yn y tabl hwn drwy ddewis y blychau ticio yn y gwymplen Ardal.
Mae gwybodaeth fanylach am y ffynonellau data a’r dadansoddiadau yn y datganiad ystadegol hwn ar gael yn yr adroddiad ansawdd: https://www.llyw.cymru/data-bwydo-ar-y-fron-adroddiad-ansawdd.