Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Breastfeeding at birth by type of breastfeeding and Welsh Index of Multiple Deprivation quintile
None
Blwyddyn[Hidlwyd]
Mesur[Hidlwyd]
Measure1
Statws Bwydo ar y fron[Hidlo]
[Lleihau]Cwintel MALlCY grwp amddifadedd perthnasol ar gyfer yr AGEHI, wedi\'i fesur mewn unedau o 20%. h.y. 1 yw\'r 20% AGEHI mwyaf difreintiedig, a 5 yw\'r 20% lleiaf difreintiedig[Hidlo]
-
-
Cwintel MALlC 1
Cliciwch yma i ddidoliBwydo ar y fron yn unigLlaeth o\'r fron yn unigCliciwch yma i ddidoliUnrhyw fwydo ar y fronLlaeth o\'r fron naill ai\'n rhannol neu\'n bennaf, gyda rhywfaint o laeth artiffisialCliciwch yma i ddidoliDdim yn bwydo ar y fronLlaeth artiffisialCliciwch yma i ddidoliHeb ei nodiCliciwch yma i ddidoliCofnodion â data dilysCliciwch yma i ddidoliCyfanswm
[Lleihau]Pob Cymru61.964.036.07.792.3.The data item is not applicable
Pob Cymru149.852.547.57.492.6.Nid yw\'r eitem o ddata yn gymwys
257.559.540.56.993.1.Nid yw\'r eitem o ddata yn gymwys
364.767.033.08.591.5.Nid yw\'r eitem o ddata yn gymwys
469.171.328.78.291.8.Nid yw\'r eitem o ddata yn gymwys
573.975.424.66.693.4.Nid yw\'r eitem o ddata yn gymwys
Heb ei nodiMae heb ddatgan yn cynnwys pob cofnod lle\'r oedd yr ardal gynnyrch ehangach haen is preswyl ar goll, neu le nad oedd yr ardal gynnyrch ehangach haen is yng Nghymru.89.191.38.757.442.6.Nid yw\'r eitem o ddata yn gymwys

Metadata

Disgrifiad cyffredinol

Mae’r ystadegau hyn yn deillio o a’r Gronfa Ddata Genedlaethol Iechyd Plant Cymunedol lle cofnodir data o ran bwydo ar y fron adeg genedigaeth ac ar gyfer babanod sy’n 10 diwrnod, 6 wythnos a 6 mis oed ac mae’n cyfeirio at gofnodion lle cofnodwyd unrhyw fwydo ar y fron. Sefydlwyd y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn 2004 ac mae’n cynnwys cofnodion dienw yr holl blant sydd wedi’u geni yng Nghymru, sy’n byw yng Nghymru neu sydd wedi cael triniaeth yng Nghymru ar ôl 1987. Mae’r gronfa ddata yn dwyn ynghyd ddata o gronfeydd data lleol y System Iechyd Plant Cymunedol sy’n cael eu cadw gan fyrddau iechyd lleol. Prif swyddogaeth y gronfa ddata yw darparu cofnod ar-lein o iechyd a gofal plentyn o’r adeg y caiff ei eni nes bydd yn cyrraedd oed gadael ysgol. Mae’r ystadegau yn y datganiad hwn yn seiliedig ar y data a gofnodwyd adeg genedigaeth ac yn fuan wedi genedigaeth.
Mae manylion llawn pob eitem ddata sydd ar gael Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol ar gael yng Ngeiriadur Data GIG Cymru: http://www.datadictionary.wales.nhs.uk/#!WordDocuments/datasetstructure20.htm


Casgliad data a dull cyfrifo

Dylai’r data gynnwys pob genedigaeth yn yr ysbyty a rhai genedigaethau yn y cartref, fodd bynnag, oherwydd y ffordd y caiff y data ei gofnodi, nid ydym yn gallu gwahaniaethu rhwng genedigaethau yn y cartref a genedigaethau yn yr ysbyty mewn rhai byrddau iechyd. Nid yw genedigaethau i famau sy’n byw yng Nghymru a roddodd enedigaeth yn Lloegr neu mewn unrhyw wlad arall y tu allan i Gymru wedi’u cynnwys yn y data.
Mae data ar fwydo ar y fron adeg genedigaeth, 10 diwrnod, 6 wythnos a 6 mis oed yn cyfeirio at yr amser lle digwyddodd hynny, yn hytrach na phryd y cafodd y plentyn ei eni. Mae’r canrannau yn adlewyrchu cyfanswm y cofnodion lle nodwyd statws bwydo ar y fron. Mae cyfanswm nifer y cofnodion ar gyfer cyfrifiadau canran ym mhob pwynt fel a ganlyn: nifer y menywod a fydd yn rhoi genedigaeth am ‘Bwriad i fwydo ar y fron’; pob genedigaeth fyw ar gyfer ‘genedigaeth’; ac o ran babanod sy’n cyrraedd yr oedran cyfeirio ar gyfer pob pwynt oedran arall.
Mae’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn cofnodi genedigaethau byw a marw-enedigaethau, fodd bynnag, dim ond at enedigaethau byw y mae’r dadansoddiad hwn yn cyfeirio.

Amlder cyhoeddi

Blynyddol

Cyfnodau data dan sylw

2019-2024

Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun

Bydd yr ystadegau hyn yn cael eu defnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd. Dyma ambell enghraifft:
• rhoi cyngor i Weinidogion
• llywio trafodaethau yn y Senedd a thu hwnt
• sicrhau bod data ar gael i’r cyhoedd ar ystadegau iechyd plant yng Nghymru
• monitro’r modd y caiff gwasanaethau eu darparu
• datblygu polisïau
• darparu cyngor ar ddewisiadau genedigaeth.
Mae prif ddefnyddwyr yr ystadegau fel a ganlyn:
• Gweinidogion, swyddogion polisi a Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau
• byrddau iechyd lleol
• y cyhoedd
• y gymuned ymchwil
• myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
• Iechyd Cyhoeddus Cymru a sefydliadau eraill y GIG
• sefydliadau genedigaeth gwirfoddol.

Talgrynnu wedi'u ddefnyddio

Nid yw’r data wedi’i dalgrynnu

Gwybodaeth am ddiwygiadau

Mae’r set Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn gronfa ddata fyw, sy’n golygu y gall byrddau iechyd ddiwygio data ar gyfer unrhyw gyfnod. Ar gyfer y data hwn, mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cymryd dyfyniadau data o un pwynt amser penodol, ar gyfer y flwyddyn galendr ddiweddaraf. Mae hyn yn golygu y gallai dyfyniadau data a gymerwyd ar gyfer cyfnodau amser blaenorol fod yn wahanol i’r data a gyhoeddir gan ei fod efallai wedi’i ddiwygio gan fyrddau iechyd. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud newidiadau i ddata hanesyddol oni bai y caiff gwallau eu canfod.

Teitl

Breastfeeding at birth by type of breastfeeding and Welsh Index of Multiple Deprivation quintile

Diweddariad diwethaf

Gorffennaf 2024 Gorffennaf 2024

Diweddariad nesaf

Gorffennaf 2025 (dros dro)

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Cronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD), Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC)

Cyswllt ebost

ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cwmpas daearyddol

Cymru

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Ansawdd ystadegol

Mae data bwydo ar y fron ar bob adeg yn destun problemau o ran ansawdd data gan fod gan rai mamau a babanod gofnodion anghyflawn. Cesglir data bwydo ar y fron ar 10 diwrnod, 6 wythnos a 6 mis oed pan fydd gan y plant apwyntiadau ymwelydd iechyd a meddyg teulu drwy Raglen Plant Iach Cymru. Pe na bai’r plentyn yn cael cyswllt o’r fath, mae’n bosibl y bydd data’r plentyn ynghylch bwydo ar y fron ar goll ar gyfer y pwynt cyswllt hwnnw. Nid oes gan bob cofnod ar y set ddata Dangosyddion Mamolaeth a’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol gofnodion cyflawn ar gyfer statws bwydo ar y fron. Mae’r gyfradd gyflawnrwydd yn gostwng gydag oedran y babi ac yn 2024, roedd fel a ganlyn: 98% ar gyfer bwriad i fwydo ar y fron; 92% ar adeg genedigaeth; 88% ar 10 diwrnod oed; 79% ar chwe wythnos oed a 78% ar 6 mis oed. Gellir dod o hyd i dabl cyflawnrwydd ar gyfer yr holl eitemau data a ddefnyddir yn y datganiad hwn o’r ddwy ffynhonnell ddata yn yr adroddiad ansawdd (https://www.gov.wales/breastfeeding-data-quality-report).' target='newtab'>https://www.gov.wales/breastfeeding-data-quality-report).
Nid yw Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi darparu data wedi’i gofnodi’n gywir ar gyfer yr eitem ddata bwriad i fwydo ar y fron yn 2024 felly mae wedi’i eithrio o’r dadansoddiad ynghylch bwriad i fwydo ar y fron. O ran 2024, mae data ar gyfer Cymru yn cynrychioli’r c bwrdd iechyd sy’n weddill ar gyfer bwriad i fwydo ar y fron. Mae pob bwrdd iechyd wedi’i gynnwys ar gyfer y pwyntiau oedran eraill.

Effeithiwyd ar y gwaith o gyflawni’r rhaglen hon gan COVID-19 ac mae wedi arwain at gynnydd bach mewn data sydd ar goll ynghylch bwydo ar y fron rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2020. Mae canran y data coll ar gyfer y chwarter mis Gorffennaf i fis Medi 2020 yn unol â lefelau cyn-COVID-19.

O 1 Ebrill 2019 ymlaen, symudodd darpariaeth y gwasanaeth iechyd ar gyfer preswylwyr awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Am ragor o wybodaeth, gweler y datganiad ar y cyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (gweler dolenni). Mae enwau’r byrddau iechyd wedi newid; gelwir Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf bellach yn Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a gelwir Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bellach yn Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Mae data ar gyfer Abertawe Bro Morgannwg a Chwm Taf ar gael ar gyfer blynyddoedd blaenorol yn y tabl hwn drwy ddewis y blychau ticio yn y gwymplen Ardal.
Mae gwybodaeth fanylach am y ffynonellau data a’r dadansoddiadau yn y datganiad ystadegol hwn ar gael yn yr adroddiad ansawdd: https://www.llyw.cymru/data-bwydo-ar-y-fron-adroddiad-ansawdd.' target='newtab'>https://www.llyw.cymru/data-bwydo-ar-y-fron-adroddiad-ansawdd.
Mae data bwydo ar y fron ar bob adeg yn destun problemau o ran ansawdd data gan fod gan rai mamau a babanod gofnodion anghyflawn. Cesglir data bwydo ar y fron ar 10 diwrnod, 6 wythnos a 6 mis oed pan fydd gan y plant apwyntiadau ymwelydd iechyd a meddyg teulu drwy Raglen Plant Iach Cymru. Pe na bai’r plentyn yn cael cyswllt o’r fath, mae’n bosibl y bydd data’r plentyn ynghylch bwydo ar y fron ar goll ar gyfer y pwynt cyswllt hwnnw. Nid oes gan bob cofnod ar y set ddata Dangosyddion Mamolaeth a’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol gofnodion cyflawn ar gyfer statws bwydo ar y fron. Mae’r gyfradd gyflawnrwydd yn gostwng gydag oedran y babi ac yn 2024, roedd fel a ganlyn: 98% ar gyfer bwriad i fwydo ar y fron; 92% ar adeg genedigaeth; 88% ar 10 diwrnod oed; 79% ar chwe wythnos oed a 78% ar 6 mis oed. Gellir dod o hyd i dabl cyflawnrwydd ar gyfer yr holl eitemau data a ddefnyddir yn y datganiad hwn o’r ddwy ffynhonnell ddata yn yr adroddiad ansawdd (https://www.gov.wales/breastfeeding-data-quality-report).' target='newtab'>https://www.gov.wales/breastfeeding-data-quality-report).
Nid yw Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi darparu data wedi’i gofnodi’n gywir ar gyfer yr eitem ddata bwriad i fwydo ar y fron yn 2024 felly mae wedi’i eithrio o’r dadansoddiad ynghylch bwriad i fwydo ar y fron. O ran 2024, mae data ar gyfer Cymru yn cynrychioli’r c bwrdd iechyd sy’n weddill ar gyfer bwriad i fwydo ar y fron. Mae pob bwrdd iechyd wedi’i gynnwys ar gyfer y pwyntiau oedran eraill.

Effeithiwyd ar y gwaith o gyflawni’r rhaglen hon gan COVID-19 ac mae wedi arwain at gynnydd bach mewn data sydd ar goll ynghylch bwydo ar y fron rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2020. Mae canran y data coll ar gyfer y chwarter mis Gorffennaf i fis Medi 2020 yn unol â lefelau cyn-COVID-19.

O 1 Ebrill 2019 ymlaen, symudodd darpariaeth y gwasanaeth iechyd ar gyfer preswylwyr awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Am ragor o wybodaeth, gweler y datganiad ar y cyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (gweler dolenni). Mae enwau’r byrddau iechyd wedi newid; gelwir Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf bellach yn Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a gelwir Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bellach yn Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Mae data ar gyfer Abertawe Bro Morgannwg a Chwm Taf ar gael ar gyfer blynyddoedd blaenorol yn y tabl hwn drwy ddewis y blychau ticio yn y gwymplen Ardal.
Mae gwybodaeth fanylach am y ffynonellau data a’r dadansoddiadau yn y datganiad ystadegol hwn ar gael yn yr adroddiad ansawdd: https://www.llyw.cymru/data-bwydo-ar-y-fron-adroddiad-ansawdd

Allweddeiriau

Iechyd plant, Genedigaethau, bwydo ar y fron