Nifer cyfartalog o eitemau a ragnodir fesul fferyllfa gymunedol yn ôl LHB
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth cryno
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Teitl
Nifer cyfartalog o eitemau a ragnodir fesul fferyllfa gymunedol yn ôl LHBDiweddariad diwethaf
29 Tachwedd 2024Diweddariad nesaf
Tachwedd 2025Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruCyswllt ebost
ystadegau.iechyd@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolCwmpas daearyddol
Byrddau iechyd lleolCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegAllweddeiriau
eitemau cyfartalog fferyllfeydd cymunedol a ddosberthirDisgrifiad cyffredinol
Mae’r data yn y tabl hwn yn dangos nifer yr eitemau presgripsiwn a weinyddwyd o fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ariannol, wedi’i rannu â nifer y fferyllfeydd cymunedol a oedd yn weithredol ar 31 Mawrth yn y flwyddyn gyfeirio.Darperir y tabl hwn i amlygu gweithgarwch mewn fferyllfeydd cymunedol bob blwyddyn ac mae’n seiliedig ar hawliadau a wnaed (Adroddiadau PD1) i Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru gan fferyllfeydd cymunedol a weinyddodd yr eitemau.
Nid yw'n cynnwys eitemau a ddosberthir gan feddygon sy'n dosbarthu ac eitemau a weinyddir yn bersonol a ragnodwyd ac a weinyddir gan aelod o'r practis cyffredinol (sydd wedi'u cynnwys yn yr ystadegau presgripsiynau gofal sylfaenol).
Sylwch mai’r brif ffynhonnell ddata ar gyfer data presgripsiynau yw’r datganiad ystadegol presgripsiynau gofal sylfaenol, sy’n ategu’r datganiad fferylliaeth gymunedol hwn. Mae'r datganiad presgripsiynau gofal sylfaenol yn darparu dadansoddiad manwl o eitemau a ragnodwyd gan bob contractwr gofal sylfaenol a weinyddwyd yn y gymuned. Mae’n cynnwys ystadegau ar eitemau a ragnodwyd gan fferyllwyr sy’n gweithio mewn fferyllfeydd cymunedol a chan fferyllwyr sy’n gweithio mewn practisau cyffredinol.