Prawf a thriniaeth dolur gwddf - nifer yr ymgynghoriadau a phrofion
None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Yn 2023-24, cyflwynwyd gwasanaeth newydd o’r enw profi a thrin dolur gwddf (STTT) ar gyfer cleifion a gafodd ymgynghoriad anhwylderau cyffredin ar gyfer dolur gwddf a thonsilitis. Mae’r gwasanaeth STTT yn galluogi fferyllwyr i ddefnyddio profion pwynt gofal fel rhan o’r asesiad i gefnogi gwneud penderfyniadau clinigol a chyflenwi triniaeth briodol. Gall defnyddio profion pwynt gofal helpu i nodi ai haint bacteriol streptococws yw achos y symptomau ac atal y defnydd diangen o wrthfiotigau.Mae’r data’n dangos nifer yr ymgynghoriadau yn y flwyddyn ariannol yn seiliedig ar hawliadau a wnaed gan fferyllfeydd.
Mae data’n seiliedig ar hawliadau, felly gall yr un person gael ei gyfrif sawl gwaith pe bai wedi cael ymgynghoriadau/profion lluosog.