Cyfraddau cyffredinrwydd clefydau yn ôl band oedran a rhywedd
Mae'r ciwb StatsCymru hwn yn darparu data ar gyffredinrwydd oed-benodol yn ôl cofrestrau clefydau, h.y. cleifion o grŵp oedran penodol sydd ar gofrestr clefyd, fel cyfran o'r holl gleifion o'r grŵp oedran hwnnw sydd wedi'u cofrestru â phractis meddyg teulu.
None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Mae'r ciwb StatsCymru hwn yn darparu data ar gyffredinrwydd oed-benodol yn ôl cofrestrau clefydau, h.y. cleifion o grwp oedran penodol sydd ar gofrestr clefyd, fel cyfran o'r holl gleifion o'r grwp oedran hwnnw sydd wedi'u cofrestru â phractis meddyg teulu. Caiff y data hefyd eu dadansoddi yn ôl rhywedd.Casgliad data a dull cyfrifo
Caiff y wybodaeth a gyflwynir yma ei darparu i Lywodraeth Cymru gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru.Mae data Audit+ ar gyfer 2020 yn cynnwys cofrestrau clefydau a gynhwyswyd yn hanesyddol fel rhan o'r Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau, ond nad ydynt yn cael eu defnyddio mwyach ac nad ydynt mwyach yn rhan o'r Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd. Mae'r rhain yn cynnwys clefyd cardiofasgwlaidd – atal cychwynnol, iselder a smygu (â chyflyrau cronig).
Noder, caiff pob claf y cofnodwyd ei rywedd fel 'ddim yn hysbys' ei gynnwys yn y categori rhywedd 'Pawb'.