Cofrestrau clefydau yn ôl bwrdd iechyd lleol
Mae'r ciwb StatsCymru hwn yn darparu data ar nifer y cleifion sydd ar gofrestrau clefydau, nifer cyffredinol y cleifion sydd wedi'u cofrestru mewn meddygfeydd a chyfraddau achosion clefydau, gan ddefnyddio data cofrestr clefydau. Dyma restrau o gleifion sydd wedi cofrestru gyda meddygfeydd sydd wedi cael diagnosis o gyflyrau meddygol penodol.
None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Mae'r ciwb StatsCymru hwn yn darparu data ar nifer y cleifion sydd ar gofrestrau clefydau, nifer cyffredinol y cleifion sydd wedi'u cofrestru mewn meddygfeydd a chyfraddau achosion clefydau, gan ddefnyddio data cofrestr clefydau. Dyma restrau o gleifion sydd wedi cofrestru gyda meddygfeydd sydd wedi cael diagnosis o gyflyrau meddygol penodol.Casgliad data a dull cyfrifo
Caiff y wybodaeth a gyflwynir yma ei darparu i Lywodraeth Cymru gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru.Cyn 30 Medi 2022, roedd yn ofynnol i bractisau meddygon teulu gynnal cofrestrau clefydau fel rhan o'r Fframwaith Sicrhau Ansawdd a Gwella (QAIF). Ers 1 Hydref 2023, mae cynnal yr un cofrestrau clefydau wedi bod yn ofyniad cytundebol craidd ar gyfer practisau meddygon teulu. Newid gweinyddol yn unig yw'r newid hwn ac ni ddylai effeithio ar ansawdd y data.
Mae'r data a gyflwynir yn cyfeirio at un adeg benodol. Oherwydd newidiadau i QAIF dros amser, nid yw'r dyddiadau cyfeirio yn union yr un fath ym mhob blwyddyn. Mae'r data ar gyfer 2020, 2021 a 2022 yn berthnasol i 30 Medi; mae'r data ar gyfer 2023 yn berthnasol i 1 Hydref; ac mae'r holl ddata o 2024 ymlaen yn berthnasol i 1 Ebrill.
Mae data ar gyfer 2023 a 2024 wedi'u hechdynnu gan ddefnyddio'r system Audit+, sy'n defnyddio gwybodaeth yn uniongyrchol o systemau meddygon teulu. Cyn hyn, darparwyd data cofrestrau clefydau fel rhan o adnodd QAIF, gan yr oedd yn ofynnol i bob practis ddarparu data o'r fath drwy'r adnodd hwn, tra nad oedd yn ofynnol iddynt ddefnyddio Audit+. Ers i ddata cofrestrau clefydau ddod yn ofyniad cytundebol craidd yn hytrach nag yn un o ofynion QAIF, mae data wedi'u hechdynnu gan ddefnyddio Audit+.