Canlyniadau sgrinio retinopathi diabetig yn ôl nodweddion cleifion
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Allweddeiriau
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Teitl
Canlyniadau sgrinio retinopathi diabetig yn ôl nodweddion cleifionDiweddariad diwethaf
14 Awst 2024Diweddariad nesaf
I gael ei gadarnhauSefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Sgrinio Llygaid Diabetig CymruCyswllt ebost
ystadegau.iechyd@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
CymruCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn dangos canlyniadau sgrinio retinopathi diabetig yn ôl nodweddion cleifion.Casgliad data a dull cyfrifo
Mae niferoedd cyfanredol y cleifion yn deillio o gofnodion cleifion ac fe’u defnyddir fel gwybodaeth i reoli’r DESW ac maent wedi’u defnyddio ar gyfer y datganiad ystadegol hwn. Nid oes dim data sy’n gysylltiedig â chleifion unigol wedi’i drosglwyddo yn y broses hon.Pan fydd claf yn cael diagnosis o ddiabetes gan feddyg teulu bydd atgyfeiriad yn cael ei anfon at DESW a bydd y claf yn cael ei gofrestru a’i wahodd i gael ei sgrinio. Bydd y sgrinio’n digwydd mewn uned symudol neu ystafelloedd gofal iechyd. Mae gwybodaeth am y claf, gan gynnwys delweddau retinaidd, yn cael eu storio ar gronfa ddata DESW.
Mae DESW yn dilysu’r gronfa ddata’n fisol yn erbyn Gwasanaeth Demograffig Cymru i sicrhau ei fod wedi’i alinio â phreswylwyr byw Cymru. Mae’r niferoedd hefyd yn cael eu dilysu’n rheolaidd yn erbyn cofrestrau diabetes meddygon teulu.
Noder: mae darnau bach o ddata ar goll o fewn rhai meysydd o ystadegau DESW. Mae canrannau’n cael eu cyfrifo mewn cofnodion â gwerthoedd datganedig. Nid oedd modd graddio canlyniadau faint o gleifion sy’n cael eu sgrinio bob blwyddyn (rhwng 2,000 a 3,000 fel arfer).
O 1 Ebrill 2019, symudodd darpariaeth gwasanaeth iechyd trigolion awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Am ragor o wybodaeth gweler y datganiad ar y cyd gan Fyrddau Iechyd Prifysgol Cwm Taf ac Abertawe Bro Morgannwg (gweler y dolenni gwe). Mae enwau'r byrddau iechyd wedi newid; mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae dolen i ddatganiad gan y gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar gael yn yr adran dolenni’r we.
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
2013-14 ymlaen.Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Canrannau wedi’u talgrynnu i 1 lle degol.Allweddeiriau
Offthalmig; Gofal llygaid; Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru; LlygadDolenni'r we
Dolenni'r we:https://www.llyw.cymru/ystadegau-gofal-llygaid
Adroddiad ansawdd:
https://www.llyw.cymru/iechyd-synhwyraidd-adroddiad-ansawdd