Asesiadau Gwasanaeth Golwg Gwan Cymru yn ôl blwyddyn ac ethnigrwydd y claf
None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn dangos nifer asesiadau Gwasanaeth Golwg Gwan Cymru yn ôl ethnigrwydd y claf.Casgliad data a dull cyfrifo
Mae LVSW yn paratoi asesiad blynyddol gan ymarferwyr achredig yng Nghymru. Mae cyfansymiau cyfanredol o asesiadau a gynhaliwyd sy’n deillio o gronfa ddata cleifion LVSW yn cael eu defnyddio’n rheolaidd i reoli’r gwasanaeth ac maent wedi’u cyflwyno i ddibenion yr ystadegau hyn. Mae gwybodaeth ddemograffig am gleifion ynghyd â chyflyrau hunangofnodedig wedi’u cofnodi. Er bod y gwasanaeth yn darparu asesiad blynyddol mae nifer o resymau pam nad yw cleifion yn cael eu gweld bob blwyddyn; er enghraifft, efallai eu bod yn dewis peidio â chael asesiad arall neu os nad oes newid amlwg yn lefel eu golwg yn ystod prawf golwg dilynol mae’n bosibl na fydd yr optometrydd yn eu galw’n ôl yn awtomatig.Mae data LVSW sy’n ymwneud ag ethnigrwydd yn cael ei gasglu gan aelodau hyfforddedig o’r staff sy’n gofyn i gleifion â pha grwp ethnig maent yn uniaethu’u hunain. Mae hyfforddiant penodol yn cael ei ddarparu gan LVSW i wneud yn siwr bod hyn yn cael ei wneud yn briodol ac nad yw staff practisau’n cymryd dim yn ganiataol. Mae’r holl ddata a ddarperir gan LVSW yn cael ei gofnodi gan gleifion heblaw am ddata ar graffter Golwg.
O 1 Ebrill 2019, symudodd darpariaeth gwasanaeth iechyd trigolion awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Am ragor o wybodaeth gweler y datganiad ar y cyd gan Fyrddau Iechyd Prifysgol Cwm Taf ac Abertawe Bro Morgannwg (gweler y dolenni gwe). Mae enwau'r byrddau iechyd wedi newid; mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae dolen i ddatganiad gan y gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar gael yn yr adran dolenni’r we.
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
2011-12 ymlaen.Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Canrannau wedi’u talgrynnu i 1 lle degol.Teitl
Asesiadau Gwasanaeth Golwg Gwan Cymru yn ôl blwyddyn ac ethnigrwydd y clafDiweddariad diwethaf
27 Gorffennaf 2023Diweddariad nesaf
I gael ei gadarnhauSefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Gwasanaeth Golwg Gwan CymruCyswllt ebost
ystadegau.iechyd@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Byrddau iechyd lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegAnsawdd ystadegol
Dewch o hyd i’r wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol ac adroddiad ansawdd cysylltiedig, fel y dangosir yn y ddolen a ddarparwyd.Dolenni'r we
Dolenni'r we:https://www.llyw.cymru/ystadegau-gofal-llygaid
Adroddiad ansawdd:
https://www.llyw.cymru/iechyd-synhwyraidd-adroddiad-ansawdd