Daw'r data o systemau taliadau offthalmig, a gynhelir gan wasanaethau gofal sylfaenol ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau'r GIG (NWSSP). Cyn 2023-24, roedd gwasanaethau tebyg i Wasanaethau Offthalmig Cyffredinol Cymru (WGOS) 1 yn cael eu cynnig drwy hawliadau GOS 1 a GOS 6. Ar gyfer talebau optegol WGOS, roedd gwasanaethau tebyg yn cael eu cynnig drwy GOS 3 a GOS 4. Mae rhywfaint o amcangyfrif yn digwydd yn achos y data profion golwg a gesglir drwy WGOS. Oherwydd nifer eang y profion golwg, dim ond yr wybodaeth am 1 o bob 50 o brofion golwg sy'n cael ei chofnodi mewn cronfa ddata. Mae hyn yn golygu bod yr wybodaeth o'r sampl honno yn cael ei hehangu i amcangyfrif nifer y profion golwg yn ôl meini prawf cymhwystra.