Nifer yr archwiliadau a hawliwyd drwy gynllun Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol Cymru 2 yn ôl band ac yn ôl oedran y claf
None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Dangosir data ar gyfer archwiliadau iechyd llygaid yn ôl band ac yn ôl oedran y claf Cyn 2023-24, roedd gwasanaethau tebyg i Wasanaethau Offthalmig Cyffredinol Cymru (WGOS) 2 yn cael eu cynnig drwy Archwiliadau Iechyd Llygaid Cymru (EHEW).Casgliad data a dull cyfrifo
Ceir y data hwn gan Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru sy’n gyfrifol am weinyddu’r ceisiadau a geir gan ymarferwyr achredig sy’n cynnal archwiliadau. Mae data’n cael ei gyflwyno fel niferoedd yr archwiliadau y gwneir cais amdanynt yn unol â’r sail dros yr hawliadau, canlyniadau a Bwrdd Iechyd yr optometrydd sy’n darparu’r gwasanaeth. Mae hyn yn cyfrif nifer yr archwiliadau lle gwnaethpwyd cais ac a dalwyd yn y flwyddyn ariannol yn hytrach na nifer yr archwiliadau a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn ariannol. Mae hawliadau fel arfer yn cyfeirio at archwiliadau sy’n cael eu cynnal yn y mis cyn y cais a'r taliad ond os nad yw’r practis yn cyflwyno’u hawliadau’n rheolaidd gall yr oedi fod yn hwy, hyd at uchafswm o 6 mis.O 1 Ebrill 2019, symudodd darpariaeth gwasanaeth iechyd trigolion awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Am ragor o wybodaeth gweler y datganiad ar y cyd gan Fyrddau Iechyd Prifysgol Cwm Taf ac Abertawe Bro Morgannwg (gweler y dolenni gwe). Mae enwau'r byrddau iechyd wedi newid; mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae dolen i ddatganiad gan y gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar gael yn yr adran dolenni’r we.
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
2015-16 ymlaen.Teitl
Nifer yr archwiliadau a hawliwyd drwy gynllun Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol Cymru 2 yn ôl band ac yn ôl oedran y clafDiweddariad diwethaf
14 Awst 2024Diweddariad nesaf
I gael ei gadarnhauSefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Partneriaeth Cydwasanaethau GIG CymruCyswllt ebost
ystadegau.iechyd@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
CymruCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDolenni'r we
Dolenni'r wehttps://www.llyw.cymru/ystadegau-gofal-llygaid
Adroddiad ansawdd:
https://www.llyw.cymru/iechyd-synhwyraidd-adroddiad-ansawdd