Nifer yr archwiliadau Band 1 a hawliwyd drwy gynllun Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol Cymru 2 yn ôl y rheswm a ddewiswyd dros bresenoldeb, ac oedran y claf
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Data agored
Teitl
Nifer yr archwiliadau Band 1 a hawliwyd drwy gynllun Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol Cymru 2 yn ôl y rheswm a ddewiswyd dros bresenoldeb, ac oedran y clafDiweddariad diwethaf
14 Awst 2024Diweddariad nesaf
I gael ei gadarnhauSefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Partneriaeth Cydwasanaethau GIG CymruCyswllt ebost
ystadegau.iechyd@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
CymruCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn dangos nifer a chanran yr archwiliadau Band 1 a hawliwyd drwy gynllun Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol Cymru (WGOS) 2 yn ôl y rheswm dros bresenoldeb. Cyn 2023-24, roedd gwasanaethau tebyg i WGOS 2 yn cael eu cynnig drwy Archwiliadau Iechyd Llygaid Cymru (EHEW).Casgliad data a dull cyfrifo
Gellir cofnodi mwy nag un rheswm am bob hawliad. Felly, ni fyddai cyfanswm Archwiliadau Band 1 oherwydd presenoldeb yn cyfateb i gyfanswm nifer Archwiliadau Band 1.Mae’r rhesymau eraill dros bresenoldeb (heb eu cynnwys yn y data) yn cynnwys bod gan y claf retinitis pigmentosa, risg o glefyd y llygaid oherwydd hanes teuluol, risg o glefyd y llygaid oherwydd cefndir ethnig, bod angen ymchwiliadau i gydymffurfio â phrotocolau / canllawiau y cytunwyd arnynt gan Lywodraeth Cymru.
Ceir y data hwn gan Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru sy’n gyfrifol am weinyddu’r ceisiadau a geir gan ymarferwyr achredig sy’n cynnal archwiliadau. Mae data’n cael ei gyflwyno fel niferoedd yr archwiliadau y gwneir cais amdanynt yn unol â’r sail dros yr hawliadau, canlyniadau a Bwrdd Iechyd yr optometrydd sy’n darparu’r gwasanaeth. Mae hyn yn cyfrif nifer yr archwiliadau lle gwnaethpwyd cais ac a dalwyd yn y flwyddyn ariannol yn hytrach na nifer yr archwiliadau a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn ariannol. Mae hawliadau fel arfer yn cyfeirio at archwiliadau sy’n cael eu cynnal yn y mis cyn y cais a'r taliad ond os nad yw’r practis yn cyflwyno’u hawliadau’n rheolaidd gall yr oedi fod yn hwy, hyd at uchafswm o 6 mis.
O 1 Ebrill 2019, symudodd darpariaeth gwasanaeth iechyd trigolion awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Am ragor o wybodaeth gweler y datganiad ar y cyd gan Fyrddau Iechyd Prifysgol Cwm Taf ac Abertawe Bro Morgannwg (gweler y dolenni gwe). Mae enwau'r byrddau iechyd wedi newid; mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae dolen i ddatganiad gan y gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar gael yn yr adran dolenni’r we.
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
2015-16 ymlaen.Allweddeiriau
Offthalmig; Gofal llygaid ; Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru; LlygadAnsawdd ystadegol
Dewch o hyd i’r wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol ac adroddiad ansawdd cysylltiedig, fel y dangosir yn y ddolen a ddarparwyd.Dolenni'r we
Dolenni'r wehttps://www.llyw.cymru/ystadegau-gofal-llygaid
Adroddiad ansawdd:
https://www.llyw.cymru/iechyd-synhwyraidd-adroddiad-ansawdd